cylchgrawn
Rhifyn 49 Gaeaf 2004/5 - Cyd
Rhifyn 49 Gaeaf 2004/5 - Cyd
- No tags were found...
You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Rhifyn 49 Gaeaf 2005

Am ddim/Free

Y cylchgrawn i siaradwyr a dysgwyr

The magazine for Welsh

y Gymraeg

speakers and learners

CYD

Cyhoeddir 15,000 o Cadwyn

Cyd bedair gwaith y

flwyddyn fel arfer. Cyfle

gwych i hysbysebu.

Tudalen 2/Page 2 Cyfle i ennill £10

Tudalen 3/Page 3 Penwythnosau Cyd 2005

Tudalen 4/5/Page 4/5 Penwythnos Calan Gaeaf 2004

Tudalen 6/Page 6

Ysgoloriaeth Dan Lynn James

Scholarship 2005

Tudalen 7/Page 7

Y CYMRO Newydd

Tudalen 8/9/Page 8/9

Canghennau Newydd Cyd

Tudalen 10/Page 10

Cystadlaethau i ddysgwyr

Tudalen 12/Page 12

Cystadlaethau i ddysgwyr

Tlws Coffa Robina Elis-Gruffydd
Llywydd Anrhydeddus

Yr Athro Bobi Jones

Cadeirydd

Kathryn Hughes

Is-Gadeirydd

Felicity Roberts

Ysgrifennydd Cyffredinol a Chadeirydd yr Is-Bwyllgor

Marchnata a Chyhoeddi

Glyn Saunders Jones

Gohebydd Cronfa Dan Lynn James

Emyr-Wyn Francis

Rheolwr Swyddfa

Jaci Taylor (01970) 622143 e-bost: jct@aber.ac.uk

Rheolwr y Gogledd a’r Canolbarth

Rhodri Francis (01970) 628599 e-bost: rhf@aber.ac.uk

Rheolwr y De

Martin Davies (01554) 776587 e-bost: davieswizlet@aol.com

Swyddogion Datblygu Cyd

Gwynedd a Môn

Elfyn Morris Williams 01286 831715 cyd@aber.ac.uk

Ceredigion

Ann-Marie Hinde 01970 624540 annie_ystwyth@yahoo.co.uk

Sir Gaerfyrddin a Chwm Tawe

Dafydd Gwylon 01267 253514 ragwen@btinternet.com

Sir Benfro

Steve Jones 01239 841208 stevejones7@lineone.net

Morgannwg

Rhian James 01685 871002 rhianlj@aol.com

De-ddwyrain Cymru

Padi Phillips 02920 312293 padi@ntlworld.com

Swyddfa Cyd Office

10 Maes Lowri, Aberystwyth, Ceredigion SY23 2AU

Ffôn/Ffacs: 01970 622143

e-bost: cyd@aber.ac.uk

y we: www.aber.ac.uk/cyd

Mae Cadwyn Cyd yn ymddangos bedair gwaith y flwyddyn

Dyddiadau cyhoeddi 2005: Ionawr, Mawrth, Mehefin, Hydref

Mae Cyd yn elusen gofrestredig rhif 518371

Cefnogir gwaith Cyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg

Cyhoeddwyd gan/Published by: Cyd, 10 Maes Lowri, Aberystwyth,

Ceredigion SY23 2AU

Argraffwyd a dyluniwyd gan/Printed and designed by: Cambrian Printers

Aberystwyth

Gair

O'r gadair

Kathryn Hughes

'Does dim dewis. Y "Gair o'r Gadair" y tro

yma yw Tsunami. Roedd llawer iawn ohonom ni yn mwynhau

gwyliau Nadolig pan glywson ni am drychineb y tsunami.

Rwy'n byw ar lan y môr ac yn aml iawn, rwy'n clywed y gwynt

a'r môr ac yn ofni eu nerth. Ond ni allaf ddychmygu nerth y

tonnau mawr a laddodd gymaint o bobl.

Ar y silff-ben-tân yn ein tfl ni mae 'na gerdyn post. Daeth y

cerdyn trwy'r drws ar ddechrau 2005. Mae'r llun ar y cerdyn

yn dangos criw o fynachod yn gwisgo dillad oren. Roedd un o

ffrindiau fy merch ar wyliau yn Sri Lanka. Postiodd e'r cerdyn

cyn y Nadolig. Mae'r neges ar y cerdyn yn dweud "Rwyf yma

ers wythnos nawr ac yn barod yn syrthio mewn cariad a'r lle.

Mae'r wlad yn hardd. Mae'r bobl mor garedig, nid wyf erioed

wedi cwrdd a phobl mor ffein ..." Roedd ffrind fy merch a'i

deulu yn ddiogel, yn wahanol i'r holl filoedd o bobl a gollodd

eu bywydau. Rydyn ni’n cadw'r cerdyn post ar y silff-ben-tân

i gofio amdanyn nhw.

Bydd y "Gair" nesaf yn dychwelyd at brif ddiddordeb Cyd - y

Gymraeg, ond am nawr, diolch am ddarllen y neges a hwyl i

chi i gyd.

Ennill £10 am

y jôc orau!

Mae Cangen Cyd Aberystwyth yn

cynnig £10 am y jôc orau, i’w

chyhoeddi yn Cadwyn 50.

Anfonwch eich jôc i Cyd,

10 Maes Lowri, Aberystwyth,

Ceredigion SY23 2AU, neu

drwy e-bost

i cyd@aber.ac.uk

2
PYNCIAU TRAFOD

(Disscusion Subjects)

Bobi Jones

Ambell waith ceir tuedd i sgyrsiau droi yn yr

unfan. Ar ôl y cyflwyniadau arferol pa bynciau

eraill gallwch chi eu trafod?

Gwyliau; gwaith (yr agweddau mwyaf diddorol

a’r agweddau lleiaf diddorol); tywydd (dyma

raglen bwysig ar S4C oherwydd yr ailadrodd);

Cymru (pa rannau y buoch chi ynddyn nhw?

Lleoedd glan môr difyr, trefi diddorol,

mynyddoedd hardd, llynnoedd,

amgueddfeydd). Pa mor gyfarwydd ych chi â

Chaerdydd? Gwledydd dros y môr: dull y

teithio - car, bws, trên, llong, cerdded.

Diddordebau oriau hamdden - garddio, beicio.

Pa raglenni y buoch chi’n eu gweld ar y

teledu? – cefn gwlad, byd natur, teithio, Pobl y

Cwm, Eisteddfodau. Pa lyfrau Cymraeg ych chi

wedi’u darllen? Beth sy’n digwydd? Pwy yw’r

prif gymeriadau?

Dywedwch ychydig o’ch hanes: y pethau

mwyaf diddorol a ddigwyddodd.

Geirfa

ceir tuedd

troi yn yr unfan

agweddau

mwyaf diddorol

lleiaf diddorol

ailadrodd

buoch chi ynddyn nhw

oriau hamdden

buoch chi’n eu gweld

there is a tendency

to turn on the same

subjects

aspects

most interesting

least interesting

to repeat

have you been to

leisure hours

have you seen

PENWYTHNOSAU CYD 2005

11-13 Mawrth 2005

Penwythnos yng Ngwersyll yr Urdd, Glan-llyn, Y Bala

Gweithgareddau’n cynnwys can˘io, hwylio, adeiladu

rafft, datrys problemau, bowlio deg, teithiau cerdded,

wal ddringo, cwis, adloniant.

Pris £89

29 Ebrill – 1 Mai 2005

Penwythnos Calan Mai yn Nant Gwrtheyrn

Trefnwyd ar y cyd â Nant Gwrtheyrn

Gweithgareddau amrywiol gan gynnwys arferion Calan

Mai a gwersi Cymraeg i’r dysgwyr sydd eisiau hynny

Pris £80 - £100

1-3 Gorffennaf 2005

Penwythnos Canolfan y Mileniwm, Caerdydd

Cyfle i aros yng Ngwersyll yr Urdd, Canolfan y Mileniwm

Gweithgareddau’n cynnwys taith o gwmpas Canolfan y

Mileniwm, ymweld â Stadiwm y Mileniwm a Sain

Ffagan, yn ogystal â chyfle i siopa yn y ddinas.

Pris £89

Am fwy o fanylion a ffurflen gais cysylltwch â

Rhodri (01970 628599) rhf@aber.ac.uk neu Jaci

(01970 622143) jct@aber.ac.uk

The eu refers back to ‘which programmes’

3
Penwythnos Calan Gaeaf Cyd a drefnwyd

ar y cyd â Nant Gwrtheyrn

Ysbrydion dychrynllyd yn crwydro’r Nant,

Gwrachod a ‘stlumod yn hedfan trwy’r pant,

Tylluan yn sgrechian fel enaid ar goll -

Bydd yn well i’r dysgwyr guddio - yr oll.

Elizabeth Booth

Mwynheuais i’r penwythnos yn fawr iawn -

diolch yn fawr i chi.

Dymuniadau gorau

Elizabeth Booth

Dyn ni wedi mwynhau’n arw y penwythnos ‘ma.

Diolch yn fawr am benwythnos gwych.

Gillian Elisa

6 Twm Elias a’i fab – Mae Twm yn arbenigwr ar

natur y Nant ac arferion Calan Gaeaf.

7 Gwrachod yn gwenu? Pam lai, maen nhw’n

mwynhau parti Calan Gaeaf Cyd.

8 Paul Eds, yn barod i’n ‘tywyllo’ ni gyda’i

gardiau.

9 Y cogyddion dewr yn paratoi stwmp naw rhyw

ar gyfer parti Calan Gaeaf.

10 Waw! Mae dysgu Cymraeg yn hwyl.

11 Roger yn gwneud jac lantar.

12 Gweithdy addurniadau Calan

Gaeaf.

1. Magi ac Ellen yn gwneud ‘pwnsh’ ar gyfer parti

Calan Gaeaf.

2 Gillian Elisa a Mick – dewiniaid Cyd yn y

Nant!

3 Dafydd yn paratoi’r goelcerth.

4 Pawb yn barod i fynd ar daith natur.

5 Aled Jones-Griffith, Prif Weithredwr y Nant yn

sôn am hanes y Nant.

1

3

2

4
12

11

10

8

9

7

6

4

5
Llinell Wybodaeth Newydd

ar gyfer Cymraeg i Oedolion

0871 230 0017

Mae gwasanaeth (service) newydd ar gael sydd

yn arbennig ar gyfer oedolion sydd eisiau dysgu

Cymraeg – sef Llinell Wybodaeth Cymraeg i

Oedolion.

Pwrpas y llinell ydy cynnig gwybodaeth

(information) i unigolion ledled (individuals

throughout) Cymru am y Cyrsiau Cymraeg sydd

ar gael yn lleol iddyn nhw. Mae gan swyddogion

y llinell gronfa ddata (database) bwrpasol sydd

yn cynnwys manylion yr holl gyrsiau Cymraeg i

Oedolon a gynhelir (which are held) yng

Nghymru. Trwy ddefnyddio’r gronfa ddata a holi

cwestiynau pwrpasol (suitable) maen nhw’n gallu

dod o hyd i’r cwrs sydd fwyaf addas ar gyfer yr

ymholwr (inquirer).

Mae taflenni ‘Cyrsiau Haf a Phreswyl’ a ‘All you

need to know about learning Welsh’ hefyd ar

gael trwy gysylltu â’r Llinell Wybodaeth.

Mae’r gwasanaeth newydd yn hwyluso’r broses

o ddod o hyd i gwrs – fel mae hysbyseb y llinell

wybodaeth yn dweud “Help is only a phone call

away”. Felly os ydych chi’n adnabod rhywun

sydd eisiau dysgu Cymraeg cofiwch roi’r rhif ffôn

uchod iddyn nhw: neu gallant gysylltu trwy e-bost

iaith@galw.org.

Methu deall gair Cymraeg

ar y we?

Dyma’r ateb

Mae BBC Cymru yn

cynnig system

gyfieithu gyfrifiadurol

am ddim! Mae’r

system yn galluogi

geiriau sy’n

ymddangos ar

wefannau Cymraeg i

gael eu cyfieithu yn

syth i’r Saesneg.

Mae’r system a elwir

VOCAB yn galluogi

unrhyw un sy’n

anghyfarwydd â gair

ddarganfod ei ystyr

yn syth heb orfod troi at eiriadur neu glicio allan o’r

safle i chwilio mewn geiriadur ar-lein ar wahân.

Yn ôl Grahame Davies o BBC Cymru ‘Mewn

cydweithrediad â Bwrdd yr Iaith Gymraeg, mae BBC

Cymru wedi penderfynu rhannu’r fantais gyda’r holl

wefannau Cymraeg drwy gynnig y rhaglen fel

‘ffynhonnell agored’. Fe’i cynlluniwyd fel y gellir ei

defnyddio i gyfieithu o unrhyw iaith i unrhyw iaith”.

Manylion y wefan yw: bbc.co.uk/vocab

Grahame Davies

Havard a Rhiannon Gregory yn cyflwyno

Tlws Elvet a Mair Elvet Thomas i Geraint

Wilson Price am gael ei ddyfarnu’n Diwtor y

Flwyddyn.

(Ymddiheuriadau am y camgymeriadau yn

Cadwyn 48)

Ysgoloriaeth

Dan Lynn James

Scholarship 2005

£250

Dyddiad cau

Closing Date

I Ebrill/April 2005

Manylion a ffurflen gais:

Details and application form:

10 Maes Lowri, Aberystwyth

Ceredigion SY23 2AU

www.aber.ac.uk/cyd

6
Y CYMRO

yn denu darllenwyr newydd

Mae Sara yn teimlo fod gan Y Cymro

ddyfodol cyffrous. Yn ôl Sara ‘Mae gan y

papur newydd olygydd newydd sef Ioan

Hughes. Mae Ioan am weld y papur yn

mentro ac yn llwyddo’.

Cynlluniwyd Y Cymro newydd gan Sara Price,

Golygydd Gwynedd o’r Cambrian News. Mae

Sara yn dod yn wreiddiol o Fanceinion. Erbyn

hyn, mae Sara yn byw yn Nhremadog.

Mae Y Cymro bellach yn haws i’w ddarllen.

Mae’r papur hefyd yn cynnwys tudalen i

ddysgwyr. Mae’r Cymro yn gobeithio y bydd y

rhai sy’n dysgu’r Gymraeg yn mwynhau

darllen y papur newydd ar ei newydd wedd.

Yn ôl Sara, sy’n fam i blentyn sy’n cael ei

fagu’n ddwyieithog, ‘Dw i’n ffeindio’r adran

ar lyfrau plant yn

ddefnyddiol iawn.

Rwy’n defnyddio’r

papur ar gyfer

casglu gwybodaeth

am gyhoeddiadau

newydd cyn

prynu’r llyfrau’.

Cynlluniwyd

Erbyn hyn

Mae ... bellach

yn haws

ar ei newydd wedd

sy’n cael ei fagu

am weld

was designed

by now

by now ... is

easier

in its new format

who is being brought up

wants to see

Staff y Cymro

Rhes gefn: Aled Williams - Gohebydd,

Myfanwy Griffiths - Is-Olygydd, Guto

Jones – Goruchwylydd hysbysebu. Rhes

flaen: Leanne Jones – Cynorthwy-ydd

hysbysebu, Nia Roberts – Marchnata

Lis Owen-Jones, Rheolwr

Gweithredol y Cambrian News

(ar y chwith) a Sara Price,

Golygydd Y Cambrian News rhifyn

Gwynedd

7
CROESO MAWR I GANGHENNAU

NEWYDD CYD

Aberhonddu

Aberteifi

Penparcau

Mae’r gangen yn cyfarfod bob nos

Fercher – Tafarn Chwarae Teg

Manylion gan/Details from: Denise

01870 624555 dshulver@aol.com

Cangen Bore Coffi Theatr Mwldan

cyfarfod 11.30 bob bore dydd Gwener

Cangen y Llew Coch

cyfarfod bob nos Fawrth 7.30

Manylion gan Ann-Marie Hinde 01970 624540

annie_ystwyth@yahoo.co.uk

Mae’r gangen yn cyfarfod bob nos

Iau – Tafarn y Tollgate

Manylion gan Ann-Marie Hinde

01970 624540

annie_ystwyth@yahoo.co.uk

Matlock Manylion gan Jonathan Simcock ar

a’r Cylch 01733 827513.

Cangen newydd - a phapur bro newydd!

Cafodd cangen CYD Matlock a’r cylch ei ffurfio yn ystod cyfarfod

a gynhaliwyd yn y caffi Cymraeg yn Matlock yn ystod mis

Rhagfyr 2004. Cafodd cangen Matlock ei sefydlu ar gyfer pobl

sy’n dysgu Cymraeg ac ar gyfer pobl o dras Gymreig sy’n byw yn

Swydd Derby neu ganolbarth Lloegr. Yn ôl Tony Rees, Cadeirydd y

Gangen ‘Mae’n bwysig dros ben cael cyfle i ymarfer siarad

Cymraeg. Does dim llawer o gyfle i ymarfer Cymraeg yma yn

Swydd Derby. Mae’r gweithgareddau cymdeithasol sy’n cael eu

trefnu yn rhoi hwb i bobl fel fi sy’n dysgu’r Gymraeg” Yn ôl

Jonathan Simcock, trefnydd Cangen CYD yn Matlock a’r cylch

‘Rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen yn fawr iawn at gwrdd â phobl

wahanol ac rydym yn mwynhau. Mae croeso

cynnes i bawb”.

1 Cangen Penparcau

2 Cangen Aberhonddu

3 Kirsty Williams AC

4 Cangen y Llew Coch, Aberteifi

5 Cangen Bore Coffi Theatr Mwldan, Aberteifi

6 Siwsann George

CANGEN CYD

ABERHONDDU

Llawer o ddiolch i

Kirsty Williams Aelod

Cynulliad

Cenedlaethol Cymru,

Brycheiniog a Sir

Faesyfed am roi gair

o groeso noson agor

Cangen Cyd

Aberhonddu. Dyma’r

tro cyntaf i Kirsty

siarad yn gyhoeddus

yn Gymraeg - da

iawn Kirsty am y

geiriau calonogol.

Diolch hefyd i

Siwsann George am

ei chyfraniad swynol

i’r noson lwyddiannus

2

3

Rydyn ni hefyd yn paratoi papur bro newydd sef

‘Llais y Derwent’ ar gyfer dysgwyr sy’n dysgu’r

Gymraeg ac yn byw yn Lloegr. Bydd y rhifyn

cyntaf yn cael ei gyhoeddi yn ystod mis Mawrth

eleni. Os hoffech ymuno â changen Cyd yn

Matlock a’r cylch yna cysylltwch â fi, Jonathan

Simcock ar 01733 827513. Mae rhaglen lawn

gennym ar gyfer y flwyddyn gan gynnwys

teithiau cerdded o amgylch Llyn Carsington ac

ardal Hartington neu gallwch fwynhau paned a

sgwrs yn y caffi Cymraeg yn Siop Lyfrau

Cornerstones yn Dale Street, Matlock - edrychwn

ymlaen at eich croesawu!

Jonathan Simcock

CANGEN CYD MATLOCK A’R CYLCH

Sandra Hicken, Dale, Marilyn Simcock(o flaen y

garreg), Tony Rees, Gareth Davies, Jonathan

Simcock (o flaen y garreg), Edward, Dafydd
1

4

3

5

6
LITHO

DIGIDOL

Cyflawnir eich holl anghenion

argraffu

Holwch am bris

Llyfrau • Cylchgronnau • Taflenni

ffôn 01970 613027

ffacs 01970 613003

Ein gwybodaeth

eich mantais

10
“Geiriau Bach “ -

cynllun arloesol i helpu plant bach

Bydd cynllun newydd sy’n cael ei gynnig gan

Goleg y Drindod, Caerfyrddin yn help i osod

y sylfeini ar gyfer cyfnod newydd i addysg

plant bach trwy Gymru. Bydd “Geiriau Bach”

yn agor drysau i staff meithrin a phlant bach

fel ei gilydd, trwy baratoi gweithwyr di-

Gymraeg i ddysgu rhywfaint o’r iaith.

Elaine Davies, Medwin Hughes

Prifathro Colegy Drindod,

Siân Wyn Siencyn

“Mae’r holl bwyslais ar ddysgu plant bach trwy chwarae a chael hwyl ac r’yn ni’n sicr

y bydd y cwrs yma’n hwyl i’r gweithwyr hefyd,” meddai pennaeth y cynllun Sian Wyn

Siencyn. Bydd cwrs “Geiriau Bach” yn arwain at dystysgrif broffesiynol ac mae’n addas

i bawb sy’n gweithio yn y maes, yn y sector cyhoeddus, y sector gwirfoddol a’r sector

preifat. Mae’n ddelfrydol ar gyfer athrawon, NNEBs a chynorthwywyr dosbarth sydd naill

ai yn ddi-Gymraeg, neu heb fedru siarad llawer.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Helen John (01267 676603; h.john@trinity-cm.ac.uk)

neu Elaine Davies, 01239 711668.

TAITH HAF CANGEN

CYD RHISGA

gan Michael Francis

Dyma’n hwythfed daith haf a drefnwyd mewn

cysylltiad â Mudiad Cymraeg Casnewydd.

Aethon ni i fyny Cwm Rhymni gan fwynhau

golygfeydd ysblennydd Mynydd Bedwellte ar y

dde a Chefn-y-Brithdir ar y chwith. Heibio i

Rymni i’n galwad cyntaf yn Butetown, lle mae

pobl yn dal i fyw mewn teras o fythynnod y

1870au. Mae un o’r tai wedi cael ei

adnewyddu fel Amgueddfa’r Drenewydd.

Treulion ni bron awr gan weld sut fywyd oedd

gyda’r gweithwyr haearn oedd yn byw yno,

ac yna ymlaen i fwthyn Joseph Parry. Roedd

4 Chapel Row, Merthyr Tudful yn fan geni

cerddor a chyfansoddwr mwyaf enwog

Cymru.

Wedyn i Gastell Cyfarthfa. Codwyd y plas i

William Crawshay ym 1824. Nawr, mae’n

amgueddfa hynod o ddiddorol. Wedi cawod

o law roedden ni’n gallu bwyta’n brechdanau

yn y gerddi hardd a mwynhau’r golygfeydd

syfrdanol. Yn y prynhawn, aethon ni i lawr i

Faenordy Llanaiach Fawr.

Ffôn

Diolch i George Watkins am anfon y llun a’r

adroddiad i Cadwyn Cyd.

Geirfa

ein hwythfed daith

a drefnwyd

Heibio i

yn dal i fyw

wedi cael ei adnewyddu

sut fywyd

man geni

cerddor a chyfansoddwr

mwyaf enwog Cymru

Codwyd

our eighth trip

which was

organised

past

still live

has been

refurbished

what sort of

life

birth place

musician and

composer

Wales’ most

famous

was built

11
DWY GYSTADLEUAETH AR GYFER

DYSGWYR

CYSTADLEUAETH 1

Erthygl i gylchgrawn ‘Y Wawr’ dim mwy na 500 gair gan

ddysgwr/wraig ar unrhyw thema, gellir cynnwys lluniau.

CYSTADLEUAETH 2

Aelod o Ferched y Wawr (boed mewn cangen/clwb neu yn

aelod unigol) i gyfweld dysgwr/wraig.

Hyd y tâp sain: hyd at 10 munud

Thema:

Eich diddordebau

Dyddiad cau: 15 Mawrth 2005

Mae’r cystadlaethau yn agored i bawb sy’n dysgu

Cymraeg fel ail Iaith.

Mae hawl ymgeisio yn y ddwy gystadleuaeth.

TLWS COFFA ROBINA

Nod Tlws Coffa Robina

Sefydlwyd Tlws Coffa Robina er mwyn meithrin

parhad ysbrydoliaeth Robina Elis-Gruffydd. Y nod

yw hyrwyddo a gwobrwyo cyfraniadau i’r

meysydd hynny yr oedd Robina’n ymddiddori

ynddynt ac yn poeni amdanynt.

Gwaith sy’n gymwys am y tlws

Unrhyw waith neu brosiect sy’n hybu

Yr iaith Gymraeg

Dysgu Cymraeg

Y Diwylliant Cymraeg

Lles yr amgylchedd, byd natur a gwarchodaeth

Dehonglir yr uchod mor eang â phosibl. Eleni

rhoddir ystyriaeth arbennig i’r thema ‘Cymathu’

Pwy sy’n gymwys i gystadlu

Ystyrir gwaith a gyflawnir yn hen siroedd Dyfed

gan unigolyn neu gan gr˘p ffurfiol.

Sut i gystadlu

Trwy enwebiad a llenwi’r ffurflen gais.

Dyddiad cau:15 Ebrill 2005

Am ffurflen gais a mwy o fanylion cysylltwch â

Swyddfa Menter Iaith Sir Benfro

17 Y Wesh

Abergwaun

Sir Benfro SA65 9AL

Ffôn: 01348 873700

ogam@mentersirbenfro.com

Bydd y buddugwyr yn derbyn tocyn llyfr a thlws yn yr ˘yl Haf ym

Machynlleth ar 21ain o Fai 2005.

Os mai merch fydd yn fuddugol, bydd yn derbyn gwobr arall hefyd, sef

aelodaeth blwyddyn o Ferched y Wawr.

Danfonwch y ceisiadau i’r cyfeiriad isod:

Cystadleuaeth y Dysgwyr

Canolfan Cenedlaethol Merched y Wawr

Stryd yr Efail Aberystwyth Ceredigion SY23 1JH

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’r

Ganolfan Genedlaethol

ar 01970 611 661

YN EISIAU!!

SIARADWYR CYMRAEG

i ddysgu Cymraeg i Oedolion.

ARGYFWNG - oherwydd prinder

tiwtoriaid.

Rhoddir hyfforddiant llawn

ac fe’ch telir am eich gwaith.

Brwdfrydedd sy bwysicaf!!!!

Ceisiadau trwy lythyr at:

Geraint Wilson-Price

Cadeirydd Consortiwm Gwent,

Coleg Gwent, Yr Hill, Pen-y-pound,

Y Fenni, Sir Fynwy, NP7 7RP.

Neu ffoniwch : 01495 333710

12
SWYDDOGION A GWEITHGAREDDAU

CANGEN CYD ABERYSTWYTH

O’r chwith Linda Gay –Ysgrifennydd, Brian

Evans – Cadeirydd, Jane Black – Trysorydd.

Mae Linda a Jane wedi dysgu Cymraeg a

Chymro Cymraeg yw Brian. Maen nhw

gyda chymorth gwirfoddolwyr eraill yn

trefnu llawer o weithgareddau:

• trefnu rota o wirfoddolwyr rhugl eu

Cymraeg i ymweld â 7 dosbarth

Cymraeg (Cynllun Pontio Cyd)

• Bore Coffi bob bore dydd Iau yn y

Home Café

• teithiau cerdded

• twmpath

• mynd allan am bryd o fwyd gyda’r nos

• Mae llawer o’r aelodau’n canu mewn

côr lleol o’r enw Cantorion Aberystwyth.

Os dych chi’n pasio trwy Aberystwyth ryw

fore dydd Iau cofiwch alw am baned.

Bydd croeso mawr yn eich disgwyl.

Geirfa

trefnu

gwirfoddolwyr

rhugl eu Cymraeg

ymweld â

Cynllun Pontio Cyd

teithiau cerdded

twmpath

pryd o fwyd

gyda’r nos

aelodau

côr lleol

o’r enw

r(h)yw fore dydd Iau

yn eich disgwyl

to organise

volunteers

fluent in Welsh

to visit

Cyd’s Bridging

Scheme

walks

dance(similar to

barn dance)

a meal

in the evening

members

local choir

called

some Thursday

morning

awaiting you

Cantorion Aberystwyth yn cymryd rhan yng

ngwasanaeth Plygain Eglwys Sant Ioan

Penrhyn-coch, gyda’r Ficer John Livingston, a

Lona Jones, Darllenydd Lleyg

CANGHENNAU NEWYDD AR FIN

AGOR

(JUST ABOUT TO OPEN)

Tywyn, Gwynedd yn agor 28 Ionawr 2005,

White Hall Hotel 12 -2pm

Cyfle i alw heibio i ymarfer eich Cymraeg

Drop in and practise your Welsh be it for five

minutes or all lunch time

Croeso i siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf a

dysgwyr (Tutor available for problems)

Manylion gan David Walker 01654 712424 a

Shirley Williams 01766 771428

Tregaron, Ceredigion Cangen Bore Coffi,

Siop Rhiannon Canolfan Aur Cymru

Yn agor 28 Ionawr 2005, 11.00am yng

nghwmni Elin Jones Aelod Cynulliad

Cenedlaethol Cymru, Ceredigion

Manylion gan Ann-Marie Hinde 01970 624540

annie_ystwyth@yahoo.co.uk

13
“Berlin amdani!”-

Siaradwyr a dysgwyr Cymraeg yn mwynhau

penwythnos yn Berlin.

Taith o gwmpas y ddinas, o Glwyd (gate) Brandenburg

hebio i’r Alexanderplatz i’r Synagog Newydd.

Cinio mewn tafarn hen ffasiwn gydag awyrgylch

(atmosphere) yr hen GDR.

Ymweld â chofadail sofietaidd (soviet momument) yn

Treptow, adeilad amlwg o Stalinistaidd gyda llawer o

hanes.

Taith i Potsdam – castell Sanssouci, Plas Bornstedt,

ardal Iseldireg.

Ac wrth gwrs cwis Cymraeg mewn tafarn.

Ar y chwith

Cangen Llanbedr

Pont Steffan

Ar y dde

Bore Coffi

Aberdâr

Hwyl a Heidi Ho!

Dyma gryno ddisg hwyliog gyda llawlyfr i’r

dysgwyr, caneuon traddodiadol gan blant

bach ardal Penllyn ac Edeirnion, mae’r

llawlyfr yn cynnwys cyfieithiad syml o

frawddegau’r caneuon, yn ogystal â

chyfieithiad o’r geiriau allweddol. Yn

adlewyrchiad o’r caneuon mae lluniau

lliwgar yn gwmni i bob cân.

Y prif reswm dros gynhyrchu’r gryno ddisg a’r

llyfryn yw i alluogi rhieni sy’n dysgu’r

Gymraeg i ddeall a chyd-ganu ein caneuon

traddodiadol gyda’u plant.

This is an entertaining CD accompanied by a

translation booklet, the CD consists of Welsh

traditional songs sung by young children from

the Penllyn & Edeirnion area. The booklet has

a translation of the sentences along with a

translation of the key words. To reflect the

theme of the songs there are colourful

uplifting pictures.

This CD & booklet were produced to enable

parents to sing-along with their children and

to understand our traditional songs.

Pris gwerthu’r gryno ddisg:

£12.99 CD

Retail price

£12.99

Gyrrwch eich archebion i

Please send your orders to:

Antur Penllyn, Gweithdai’r

Plase, Bala, Gwynedd

LL23 7SW

Sieciau yn daladwy i

Cheques payable to

Antur Penllyn

Cynnig arbenig £8.00 yn cynnwys post a phacio,

gyda’r daleb yma

Special offer £8.00 Including postage & packaging,

with this voucher

14
EISTEDDFOD RHYS THOMAS JAMES

(PANTYFEDWEN) LLANBEDR PONT STEFFAN

Hoffai Cadwyn ymddiheuro am gyhoeddi taw dim ond

Mary Neal oedd wedi ennill y gystadleuaeth i ddysgwyr

yn Cadwyn 48. Rhannwyd y wobr rhwng Mary Neal ac

Emma Townes o Gribyn, a Jane Ann Jones o Rydychen

(£33 yr un). Llongyfarchiadau i’r tair ohonynt.

Dyma’r rhan gyntaf o stori Mary Neal.

roedd llawer o ffermydd bach a ffermydd mawr o

amgylch y pentref. Yn y cyfnod hwn roedd hi’n

amhosibl osgoi tymhorau’r flwyddyn ar y ffermydd.

Roedd pawb yn rhan o’r frwydr yn erbyn y tywydd a'r

gobaith o gael y cynhaeaf gwair a’r cynhaeaf fld. Yn

ei lencyndod doedd dim byd gwell ganddo na helpu

ar un o’r ffermydd. Roedd y ffermwyr hwythau i gyd yn

falch iawn o’i gymorth. Llanc cryf, bodlon, cydwybodol

ac abl oedd y g˘r ifanc.

Rhan 2 yn Cadwyn 50

PICAU MAEN

Roedd y bwthyn yn fach. Roedd e’n sefyll ar bwys y

rhostir ac o’r ffenestri roedd modd gweld y tir yn

ymledu tuag at y nef mewn gwagle gwyllt.

Ac eto, roedd y bwthyn heb dir, heb ardd hyd yn oed.

Dros y blynyddoedd roedd y trigolion wedi mynd ati i

ddofi’r llain tu fas y drws ffrynt gyda rhai blodau

bychan fel melyn Mair neu flodau cleddyf. Ni ddaeth

llwyddiant yn aml oherwydd cryfder y gwynt yn yr ardal

hon.

Teulu bach sy’n byw yn y bwthyn nawr sef g˘r, gwraig

a thri o blant ifanc. Roedd y teulu yn hapus ar wahân

i un peth. Bob dydd roedd rhaid i’r g˘r adael y

bwthyn, gadael ei deulu a mynd i’r gwaith yn y dref.

Casineb y g˘r tuag at ei waith oedd yr hyn a darfodd

ar hapusrwydd y teulu bach.

Cafodd y g˘r ei fagu yn y pentref nid nepell o’r lle

mae’n byw nawr. Nid fferm oedd ei gartref ef ond

WEL AM RISG!

Aelodau Cyd o Gaerdydd, Aberdâr a Cheredigion yn

Cymryd rhan yn y rhaglen deledu RISG gyda Siân

Lloyd, Cyflwynydd y rhaglen

Rhodd Gymorth/Gift Aid £

A wnewch chi ddarllen y canlynol yn ofalus? / Please read the following carefully

Rwy’n datgan fy mod yn talu rhagor o dreth incwm a/neu dreth enillion cyfalaf na’r dreth y bydd Cyd yn adennill ar fy

rhodd/nghyfraniad/tâl cefnogi, sef 28c ym mhob £1 a roddir ar hyn bryd, a fy mod yn fodlon i Cyd drin y rhodd uchod a phob

rhodd yn y dyfodol fel rhodd gymorth.

I declare that I pay income tax and/or capital gains tax at least equal to the tax that Cyd claims on my donations/supporter’s

fee in the tax year (currently 28p for each £1 you give), and I am willing for Cyd to treat the above donation and all donations in

the future as gift aid.

Llofnod/Signature

15
yddwch wahanol

dare to be different

byddwch y bos

be your own boss

Ffoniwch Llygad Busnes

ar 08457 969798 i gael

eich llyfr ar ddechrau

busnes AM DDIM

Call Business Eye

on 08457 969798

for your FREE book

on starting a business.