You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
CYD

PAPUR NEWYDD CYD AM DDIM (5c yn y siopau) RHIFYN YRHYDREF1990

PENBLWYDD

HAPUS INI!

CADWYN CYD — 1 OED

Mae CADWYN CYD yn dathlu ei benblwydd yn un oed y rhifyn yma.

Flwyddyn yn ôl daeth y rhifyn cynta allan. O'r cychwyn y bwriad

oedd paratoi papur newydd ar gyfer holl aelodau CYD, ac ar yr un pryd

lledaenu newyddion am y mudiad i gynulleidfa fwy tu hwnt i fyd y

dysgwyr.

Erbyn hyn, mae gan y papur gylchrediad o 3000 copi sy'n cael eu

dosbarthu yn rhad ac am ddim i aelodau a changhennau CYD trwy

Gymru i gyd, Tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion, ac i ddysgwyr sy'n dilyn

rhaglenni ACEN. Hefyd, mae CADWYN CYD ar werth mewn siopau

Cymraeg am 5c y copi er mwyn cyrraedd cymaint o ddarllenwyr ag sy'n

bosibl.

Mae'r ymateb i'r pedwar rhifyn cynta wedi bod yn galonogol iawn,

ac rydym yn edrych ymlaen at y dyfodol.

LLONGYFARCHIADAUIJOHN

GILLIBRAND

DYSGWR YFLWYDDYN ELENI

Bydd Cadwyn CYD yn siarad ag o

yn y rhifyn nesa.

DIOLCH YN FAWR I'R BWRDD

Mae CYD wedi derbyn grant unwaith eto oddi wrth Fwrdd Datblygu

Cymru Wledig ar gyfer cynorthwyo i gyflogi Trefnydd Cenedlaethol.

Bu'r Bwrdd Datblygu yn noddi'r swydd hon ers mis Medi, 1986. Swydd

ran-amser oedd hi am ddwy flynedd, ond bu hi'n swydd lawn-amser ers

mis Medi, 1988.

Mae CYD yn ddiolchgar iawn i'r Bwrdd Datblygu am ei gyfraniad ar

hyd y blynyddoedd. Yr ydym yn deall mai hwn fydd y tro olaf i'r Bwrdd

gyfranu tuag at y cynllun hwn, ac felly bydd CYD yn ceisio am grant

oddi wrth y Swyddfa Gymreig er mwyn cyflogi'r Trefnydd Cenedlaethol

o hyn allan.

Rydym wedi

cuddio y ddraig

fach rhywle yng

ngholofnau

CADWYN CYD

Os 'dych chi'n ei ffeindio hi — Cewch

chi gyfle i enníll £5!

Trowch i dudalen 3 am fwy o fanylion!

Noddwyd gan

Limited

BROOK ST. WRECSAM

Ffôn 0978 265534
CYD

Llywyddion Anrhydeddus: Dan Lynn

James, Yr Athro Bobi Jones

Cadeirydd: Mary Davies

Is-gadeirydd: Felicity Roberts

Ysgrifennydd: Michelle Davies

Trysorydd: Arthur Burt

Swyddog Marchnata: Jaci Taylor

Swyddog yr Is-lywyddion:

Elinor Reynolds

Swyddog Cynhaliaeth: Llinos Dafis

Swyddog Cyhoeddiadau: Emyr Williams

Ysgrifennydd Aelodaeth: Janet Meredith

Trefhydd:

Siôn Meredith

Adran y Gymraeg

Yr Hen Goleg

Heol y Brenin

Abeiystwyth SY23 2AX

0970 623111 Est4052

Swyddog Datblygu: Llanelli, Dyffryn Lliw

a Chwm Tawe:

Andrea Jones,

Y Ganolfan Deledu,

Sgwâr Dewi Sant, Abertawe.

Ffôn: 0792 470470

Noddir swydd Siôn Meredith gan Fwrdd

Datblygu Cymru Wledig a swydd Andrea

Jones gan y Swyddfa Gymreig.

Mae CYD yn elusen gofrestredig (rhif

518371)

Golygydd: 'Cadwyn CYD':

Les Williams

83 New Ifton,

St. Martins,

Croesoswallt, (Oswestry),

SYll 3AB.

Ffôn: 0691 772324.

Bwrdd Golygyddol: Dave Goodman (Is-

Olygydd), Hilary Smith, Hafwen Dorkins,

Tony Hughes, Pauline Randles.

LLYTHYRAU: GOLYGYDD "CADWYN CYD

83 New Ifton, St. Martins, Croesoswallt, (Oswestry), SYll 3AB

LLYTHYR GAN MARY DAVIES AT MR. DAVID HUNT

Mae Mary Davies, Cadeirydd CYD, wedi anfon llythyr at Mr David Hunt,

ysgrifennyd gwladol Cymru, yn galw arno i gyflwyno deddfwriaeth i hybu'r

Gymraeg.

Yn ei llythyr, mae Mary yn lleisio ei barn o blaid Deddf Iaith Newydd er

mwyn codi statws yr iaith Gymraeg yng ngolwg Cymry di-Gymraeg yn

ogystal â Chymry sy'n

siarad yr iaith ar hyn o

bryd.

"Mae'r iaith Gymraeg

yn cael ei defnyddio o

ddydd i ddydd yn y

gymuned, o fewn

teuluoedd ac yn y

gweithle." meddai Mary.

"Bydd rhaid sicrhau digon

o arian ar gyfer addysg

Gymraeg, yn enwedig

addysg Gymraeg i

oedolion."

Wrth groesawu cynllun

ACEN (Cynllun S4C i

ddysgu'r Gymraeg i oedolion)

mae Mary wedi

pwysleisio na ddylai

ACEN cymryd lle'r

dosbarthiadau a chyrsiau

Cymraeg sy'n cael eu

cynnig ar gyfer dysgu'r

iaith ar hyn o bryd.

LW.

LLAWN MARX AM GROUCHO!

Annwyl Olygydd

Ces i lot o hwyl gan erthygl am logo CYD yn rhifyn

Gwanwyn/Yr Haf Cadwyn CYD.

Pryd bynnag dw i'n edrych ar y logo, dw i'n gweld

wyneb tew, mwstas a gwen lydan. Lluniwch gylch o'i

gwmpas a dyna chi! Pwy ydy hwn, tybed? Rhyw fath o

"Colonel Blimp" sy'n chwethin am ein pennau dros y

Clawdd?

Neu GROUCHO MARX hyd yn oedü?

yn gywir

John (J. P.) Pedley

Amwythig

'Dychchi'niawnJ. P.-GrouchoMarxydyo!

Gol.

Annwyl Olygydd

Ga i dynnu eich sylw at wendid ym maes dysgu Cymraeg i

Oedolion.

Rydw i'n siwr dydw i ddim yr unig un sy'n poeni am y ffaith bod

cymaint o wahanol gyrff yn gweithredu yn yr un maes heb

unrhyw fframwaith cenedlaethol.

A oes achos am lunio stategaeth er mwyn sicrhau bod pawb yn

gweithio dan yr un ymbarél?

yn gywir

Wil Davies, Lawson Road, Bae Colwyn.

Oesgennych chifarn? — Sgwennwch!....Gol.

YMUNWCH AG

Hysbysebwch yn

CADWYN CYD

Rhifyn nesa - mis Chwefror
PENWYTHNOS DAWNSIO GWERIN

Dawnsfeydd gwerin hen a newydd. Stepio Clocsio Traddodiadol — hawdd a chymleth! Twmpatha yng

nghwmni Jac-y-Do. Digon o hwyl a sbri. Lleoliad deniadol. Cwmni difyr. Ac wrth gwrs, cyfle i siarad

Cymraeg!

Hyn oll mewn un diwrnod?? Amhosib?? Dim o gwbl! Y diwrnod o dan sylw yw'r 17eg Tachwedd 1990

a'r lleoliad yw Gwesty'r Langrove Lodge, G yr, Abertawe. Ydy'r manylion hynny'n canu cloch? Ie, dyna

ddyddiad a'r lleoliad Penwythnos Dawnsio Gwerin CYD.

Wrth gwrs, mae pob croeso i chi ddod ar y penwythnos o'r nos Wener i'r bore Sul, ond os na fýdd hynny'n

bosib, yna ymunwch â ni dydd Sadwrn yn unig. Bydd y gweithdai dawnsio a chlocsio yn cychwyn am 10

y bore ac yn parhau drwy'r dydd, cyn torri am seibiant amser te Ie, seibiant yn unig, achos fydd y

dawnsio a'r miri yn ail ddechrau tua 7.30 yr hwyr gyda thwmpath heb ei ail yng nghwmni'r grwp bywiog

Jac-y-Do.

Yn ddi-os, felly, diwrnod orlawn o ddawnsio o chlocsio a hwyl a sbri hyn oll yn y Gymraeg. Diwrnod

llawn am bris rhad — £5 yn unig yn cynnwys y gweithdai a'r twmpath neu £2 i fynychu'rtwmpath yn unig.

Oes diddordeb gyda chi? Hoffech chi fod yn rhan o hyn oll? Yna, Codwch y ffôn nawr er mwyn siarad

ag Andrea Jones ar 0792 470470, a chwiliwch am Abertawe ar y mapü

AM

DDIM

3 RHIFYN 0 GOLWG

a~

•Torrwch hwn allan a'i ddanfon i GOLWG, Rhadbost. Llanbedr Pont

Steffan, Dyfed, SA44 7ZZ.

Mae diddordeb gennyf mewn cael 3 rhifyn o GOLWG am ddim. Ar ddiwedd

y tair wythnos bydd gennyf ddewis i ddal atir i'w dderbyn (ac dalu £10 y

chwarter drwy ddebyd uniongyrchol) neu i beidio a'i gael ymhellach.

Anfonwch y manylion ar frys at:

ENW

CYFEIRIAD

Os yw'n well gennych, danfonwch y manylion art ddarn o bapur, gan enwi'r

rhaglen hon.

"FFEINDIWCHYDDRAIG"

GWOBR £511

FFURFLEN GAIS

Dw i wedi dod o hyd i"r Ddraig Fach ar dudalen uwch ben y gair

ENW

CYFEIRIAD

Bydd y cyntaf a dynnwyd allan o'r het yn ennill gwobr o £5 gan gwmni BORDER BEDS, WRECSAM.

Anfonwch y ffurflen gais i "Cadwyn Cyd", 83 New Ifton, St Martins, Croesoswallt

(Oswestry) SYll 3AB

CYSTADLEUAETH

GWIS

GENEDLAETHOL

CYD 1991

£500 gan Fanc Barclays!

Gyda chymorth Banc Barclays, bydd CYD

yn cynnal Cystadleuaeth Gwis Genedlaethol

unwaith eto yn 1991. Mae Banc Barclays wedi

noddi'r gystadleuaeth am £500. Mae hynny'n

golygu y byddwn yn cynnig gwobr o £150 i'r tîm

a fydd yn fuddugol yn y rownd derfynol, ac yn

rhannu £100 rownd y timau eraill a fydd wedi

cyrraedd y rownd derfynol. Bydd y rownd

derfynol yn cael ei chynnal ym Mhabell y

Dysgwyr yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym

Mro Delyn (yr Wyddgrug) ar ddechrau mis

Awst y flwyddyn nesaf.

Mae croeso i unrhyw gymdeithas gymryd

rhan, cyn belled â'u bod nhw'n defnyddio'r

Gymraeg. Bydd pump o bobl ymhob tîm, ac fe

fydd yn rhaid i bob tîm gystadlu mewn dwy

rownd cyn cyrraedd y rownd derfynol. Nid cwis

academaidd ac arbenigol fydd y cwis hwn, ond

cwis cyffredinol gyda digon o hwyl. Yprif bwrpas

yw dod â Chymry Cymraeg a dysgwyr lleol at ei

gilydd i fwynhau eu hunain trwy gyfrwng y

Gymraeg.

Y dyddiad cau ar gyfer cystadlu yw Ionawr

2il, 1991. Anfonwch at Swyddfa CYD yn

Aberystwyth am ragor o fanylion.
PORTREAD O

IAGO AP

ROBAT MORGAN

Flwyddyn a hanner yn ôl, roedd Iago ap Robat

Morgan yn byw yn yr Alban ac nid oedd yn gallu

siarad gair o Gymraeg. Mewn cyfnod byr iawn mae

wedi dysgu'r iaith ac yn ymddiddori yng

ngherddoriaeth a llenyddiaeth draddodiadol yr hen

Gymru.

Bu CADWYN CYD yn ei holi am ei gymhelliad i

ddysgu Cymraeg a'i obeithion am y'dyfodol:

C.C.:—Ydych chi'n dod o dras Cymreig?

Iago:— Dwi'n Gymro pur. Does gen i ddim gwaed

estron o gwbl. Roedd teulu fy nhad yn ffermwyr o Sir

Benfro ac roedd fy mam yn dod o Sir Fôn. Er bod fy

mam yn gallu siarad Cymraeg, doedd hi ddim yn

gweld gwerth i ddysgu'r Gymraeg i íÿnd ymlaen yn

y byd. Pan oeddwn i'n bump oed symudon ni i'r

Alban a bues i mewn ysgol breswyl yno.

Doeddwn ddim yn hapus iawn

yn yr ysgol ond oherwydd 'mod

i'n berson swil iawn roedd y

profiad yn help i fagu cymeriad a

hyder.

C.C.:— Pam a phryd

wnaethoch chi benderfynu

dychwelyd i Gymru Ì fyw?

Iago:— Symudais i i Rydymain

ar Dydd Gwyl dewi Sant llynedd.

Yn yr Alban roeddwn i'n gweithio

fel adferwr hen dai-yn eu prynu

a'u gwerthu ymhobman.

Roeddwn i'n teimlo allan o le yn

yr Alban, er bod yr Albanwyr yn

Geltiaid, maen nhw'n wahanol a

wnes i rioed ystyried byw yn

Lloegr! Roedd yn deimlad

cynhenid cryf ynof i ymgartrefu

yng Nghymru.

C.C.:— Pam oeddech chi

eisiau dysgu Cymraeg?

Iago:— Mae'n amlwg, achos

Cymro ydw i! Roeddwn i eisiau

dysgu ers blynyddoedd ond

doedd dim cyfle o'r blaen. Fy

nghymhelliad yn syml yw

cyfathrebu yn fy iaith fy hun, yn

fy ngwald fy hun gyda fymhobl fy

hun.

C.C.:— Sut aethoch chi ati i

ddysgu Cymraeg?

Iago:— Es i'n syth i'r Ganolfan

Iaith Genedlaethol yn Nant

Gwrtheyrn. Bues i'n mynd yno ar

gyrsiau iaith am wythnos bob mis

trwy'r flwyddyn. Gwrthodais o'r

dechrau i siarad Saesneg a dydw

i'n siarad ddim Saesneg nawr.

Dwi hyd yn oed yn meddwl yn

Gymraeg erbyn hyn. Byddai'n dal

i fynd i Nant Gwrtheyrn ond ddim

fel dysgwr. Dwi'n ceisio

cyfrannu'n anffurfiol-cael fy

nefnyddio fel esiampl o rhywun

sydd wedi bod trwy'r felin. Dydw

i ddim yn fy ystyried fy hun yn

ddysgwr nawr ac mae'n well gen

i gyfathrebu â Chymry di-

Gymraeg, er eu bod yn brin iawn,

nag a Saeson sy'n dysgu'r iaith.

C.C.:—Bethywymateby bobl

leol atoch chi?

Iago:— Mae pobl leol yn fy

nerbyn i fel Cymro Cymraeg. Dwi

wedi gwrthod i bobl siarad

Saesneg a fìo'r dechrau. Dydy o

ddim wedi bod yn broblem.

C.C.:— Beth am eich cartref

yn Rhydymain?

Iago:— Enw gwreiddiol y

neuadd yw Hendre Ffridd y

Mynach ac roedd yn perthyn i

ystad Abaty Cymer cyn cyfnod y

Diddymu yn yr G16. Mae bedd a

charreg fedd y mynach ar y tir

heddiw. D wi wedi adfer y neuadd

i'w gyflwr gwreiddiol. D r yw'r

unig ychwanegiad modern —

doedd dim trydan yn y neuadd.

C.C.:— Rydych chi'n

ymddiddori mewn llenyddiaeth

a cherddoriaeth draddodiadol

Oes y Tywysogion. Pam a sut yr

hoffech chi gyfrannu i'r diwylliant

hwnnw?

Iago:— Dwi'n chwarae'r delyn

a dwi'n ceisio ysgrifennu yn null

yr hen feirdd. Dwi'n edmygu'r

gystrawen gynganeddol a geir

mewn canu caeth ond f arddull i

yw canu rhydd, digynghanedd,

er ei fod yn adlewyrchu elfennau

o'r dull canu caeth. Yn bersonol

dwi'n mwynhau creu chwedlau

wedi eu selio ar ddigwyddiadau

hanesyddol, er engraifft dwi'n

ysgrifennu am Tre'r Ceiri ym

Mhen Ll n. Mae'n bwysig iawn

cadw cysylltiad agos rhwng yr

iaith Gymraeg, ein diwylliant a'n

hanes-mae'r naill yn dibynnu ar y

llall.

Hafwen Dorhins
DAVID GOODMAN

YSGOLORIAETH CYD 1990

Mae £900.27 wedi cael ei rannu rwng

14 o bobl fel ysgoloriaethau yn y

misoedd diwethaf. Bu CYD mor ffodus

a derbyn yr arian ar gyfer yr

ysgoloriaethau hyn o un ffynhonnell

garedig.

Ymhlith y rhai a dderbyniodd

ysgoloriaeth yr oedd myfyriwr o Wlad

Pwyl sy'n treulio blwyddyn yn astudio'r

Gymraeg yng Ngholeg Priíysgol Dewi

Sant, Llambed. Mae Swavomir Cabanski

bellach yn rhugl yn y Gymraeg, ac yn

ystod ei flwyddyn yn Llambed mae'n

bwriadu helpu i baratoi deunydd Braille

yn y Gymraeg, gan ei fod ef ei hun yn

ddall. Yr oedd wedi dysgu cryn dipyn o

Gymraeg cyn dod i Lambed trwy

ddarllen rhai cyfrolau Braille yn y

Gymraeg. Yng ngwlad Pwyl, 'roedd

Swavomir Cabanski yn dysgu Saesneg

ym Mhriíysgol Poznan. Cafodd nifer o

bobl eraill yng Nghymru arian i'w

cynorthwyo i íynd ar gyrsiau preswyl

Cymraeg dros yr Hâf, a chyrsiau dwys

dros fisoedd yr Hydref. Cafodd rhai

ymgeiswyr gymorth heíyd i brynu

llyfrau ac adnoddau i siarad y Gymraeg.

Mae CYD yn edrych ar y posibiliadau

ar hyn o bryd o sefydlu ysgoloriaeth

flynyddol er mwyn cynnig cymorth bob

blwyddyn i bobl sydd eisiau dysgu'r

Gymraeg.

bwrw

'mlaen

.eichtadyncanu

soprano?

Ydi'ch mamguyn

reslo?

Dewch i ni gael eu hanes ar bwrw 'mlaen.

Bydd gwobr am y syniad gorau.

Danfonwch eich cynigion at

bwrw 'mlaen, Gronant, Caernarfon, Gwynedd LL55 1NS

cyn diwedd mis Tachwedd.

...eich chwaer

fachynsereny

sgrin?
Penwythnos Drama

Plas Gregynog,

Y Drenewydd

Ionawr 25-27, 1991

Nid ydym ym chwilio am actorian profìadol. Nid

ydym ychwaith yn gofyn i neb berfformio o flaen y

cyhoedd. Ond bydd y penwythnos hwn yn rhoi cyfle i

chi ddysgu sgiliau drama drwy weithdai ymarferol

gydag actor/actorian proffesiynol.

Nid oes yn rhaid i chi fod yn gwbl rhugl yn y

Gymraeg ychwaith, ond mae'n rhaid i chi fod yn gallu

siarad ychydig o Gymraeg.

Plas moethus yn Nhregynon ger y Drenewydd ym

Mhowys yw Plas Gregynog sy'n perthyn i Brifysgol

Cymru.

A weekend to learn basic drama skills in Welsh with

a professional actor. Ability to speak some Welsh

essential but you don't have to be fluent.

Manylion: Andrea Jones 0792 470470

planet

•The Welsh Internationalist

Dysgwyr! Dysgwragedd!

Nid pawb sy'n barod eto i ddarllen erthyglau hir yn

Gymraeg. Ond fe allwch ddysgu llawer am Gymru a'r

diwylliant Cymraeg drwy'r Saesneg ar dudalennau Planet.

YN RHIFYN MIS HYDREF

* Hanes a dyfodol y papurau bro

* Harri Webb — Gweriniaethwr, Bardd Gwlad: 3

erthygl gan Meic Stephens, Nigel Jenkins a Ivor Wilks

* Huw Wheldon — yr arweinydd a gollwyd gan

Gymru? — Emyr Humphreys

* Argyfwng yn y Llyfrgell Genedlaethol

* Achos gerbon Cyngor y Wasg — Cefn yn cwyno am

wrth-Gymreictod papurau Lloegr

Nid darlun cysurus o Gymru a gewch yn Planet, ond

darlun cyfoes cyfan, sy'n cysylltu Cymru â'r byd y tu

allan.

Pris copiau unigol yn y siopau yw £2 (£2.45 trwy'r

post), a £10 yw pris tanysgrifìad am flwyddyn (6 rhifyn).

Ond cynigir i ddarllenwyr Cadwyn Cyd danysgrifiad am

y pris arbennig o £8, sy'n arbed £4 i chi.

'Sgrifennwch (gan gynnwys copi o'r hysbyseb hwn)

at Planet, Blwch Post 44, Aberystwyth, Dyfed. Neu

ffoniwch 0970-611255.

I

Would You Like To 8peak Welsh ?

"NOWYOURTALRING 1 3 Cassettes

for£9.95 + £1.00 p+p.

Learn Welsh the Catchphrase way:-

CATCHPHRASE1.

Packoftwocassettes

pluscoursebookfor

begmners

£29.50

(P&P£2)

SAYITINWELSH

Cassetteandbookletoí

simple Welsh phrases and

pronunciation

£3.99

(P4P50P)

I would like tc order

l enclose a cfieque/postal order for

Please debit my access/visa number

to the sum of

Name .

Address

CATCHPHRASE2.

Pack of two cassettes

pluscoursebook.

Advanced course

£29.50

(P&PE2)

ABCOFWELSH

Pack of four cassettes plus

coursebook.Anexcellent

collection of exercises

basedontheCatchphrase

method

£24.50

(P4PE2)

Safci, Uandwrog,

Caeiwfon 0288 831111

GWASANAETH POST/MAIL OROER SERVICE

I saw your advertisemenl in

expiry date

Penwythnos Bwydydd

Cymreig

Canolfan Iaith

Nant Gwrtheiyn

Chwefror 22-24, 1991

Ydych chi'n hoffi bwyta? Wel dyma'r penwythnos

delfrydol i chi. Mae llawer o fwydydd da iawn yn cael eu

cynhyrchu yng Nghymru y dyddiau hyn, gan gynnwys

cig a chaws Cymreig. Yn ystod y penwythnos hwn cawn

gyfle i flasu rhai o'r bwydydd hyn a dysgu sut i baratoi rhai

prydau bwyd arbennig ein hunain. Bydd Val Roberts yng

Nghaffi Meinir yn y Nant yn dangos y ffordd i ni.

Un o uchafb wyntiau'r penwythnos fyddymweld â b wyty

Cymreig lleol (e.e. Y Bistro, Llanberis) i gael pryd blasus

o fwyd.

Cofiwch hefyd bod yna ddigon o gyfle i gerdded a

rhedeg o gwmpas y Nant er mwyn i chi golli pwysau!

Pris: £45 (yn cynnwys bwyd a llety, ond ddim yn

cynnwys bwyta allan)

A gastronomic weekend for the food lover with an

introduction to some modern Welsh dishes with the best

of Welsh produce.

Manylion: Siôn Meredith 0970 623111
Beth ydy Cymdeithas Edward Llwyd?

Roedd Edward Llwyd (1660-1709) yn un o naturìaethwyr amlycaf Ewrop

yn ei ddydd ond roedd hefyd yn ieithydd, hanesydd, archaeolegydd, casglwr

llên gwerin, daearegwr, botanegydd o fri ac yn weithiwr maes nodedig iawn.

Pwy well felly i symbylu cymdeithas o naturiaethwyr, eang eu diddordeb,

sy'n ymdrìn yn bennaf â gweithgareddau a theithiau cerdded yn yr awyr

agored?

Mae'r Gymdeithas yn ddeuddeg oed eleni, wedi ei chychwyn yng

Ngorffennaf 1978 yn dilyn taith i fyny'r Afon Twrch, Cwm Tawe.

CROESO I DDYSGWYR

Dewch felly i deithio â ni ac i grwydro llwybrau cyfarwydd a newydd. Cawn

gyd-fwynhau mewn cwmni da. Manylion pellach oddi wrth: Twm Elias, Plas

Tan y Bwlch, Maentwrog, Gwynedd.

Teithiau a Chyfarfodydd y Gymdeithas

Tachwedd 17:

Tachwedd 24:

Tachwedd 30:

Rhagfyr 1:

Rhagfýr 6:

Rhagfyr 8:

Rhagíyr 15:

Rhagfyr 30:

Cyfri adar. Cyfarfod ger Siop Recordiau'r Cob, Porthmadog.

Arweinydd: Wil Jones.

Penmon, Bwrdd Arthur a Thraeth Coch. Cyfarfod ym maes parcio y

Colomendy, Môn. Arweinydd: Geraint George.

(Nos Wener): Noson gymdeithasol; lleoliad i'w drefnu. Cysylltwch

ag Iwan Roberts (ffôn: Rhuthun 3906) erbyn Tachwedd 27ain.

Cyfarfod gwaith. Cynnal a chadw llwybrau arfordir Gogledd Môn.

Cyfarfod ar y cei ym Mhorth Amlwch. Trefnydd: Gwenan Myfyr.

Cyfarfod cymdeithasol ym MhlasTanybwlch, Maentwrog. Cyfarfod

am 7.30pm. Enwau i'r Plas erbyn Rhagfyr. Ffôn: Maentwrog 324.

Cafnau Dyffryn Teifi. Taith fodur a cherdded. Cwrdd ym maes

parcio Ysgoldy Eglwys Llanllwni, Maesycrugiau (SN 473 412).

Arweinydd Evan James (ffôn: 0970 828 577); mae gan yr arweinydd

le i 4 yn ei gar.

Adar Morfa Conwy. Cyfarfod ger Castell Conwy. Arweinydd: T.

Elias.

Taith ystwytho'r cyhyrau (dringo caled) — Moel Hebog. Cyfarfod

maes parcio'r Afr, Beddgelert. Arweinydd: T. Elias.

GWEITHGAREDDAU'R

CANGENNAU LLEOL

CYD Tregaron

Rhagfyr 13 CINIO NADOLIG

8pm Gwesty'r Talbot

Ionawr 10 TRADDODIADAU

CELTAIDD 8pm Gwesty'r Talbot

Ffôn. Rosemary Barrançe 298 377.

CYD Uundain

Tachwedd 14 DARLINIAU O DWRCI

A HELYNTION BECA

Rhagfyr 14 PARTI NADOLIG

Ionawr 16 CWIS A CHINIO CALAN

Chwefror 6 DAWNS WERIN

Ffôn. Mr Pedr Morgan 081 459 2322.

CYD Croesoswallt

Tachwedd 14 NOSON AELODAU

NEWYDD 7.30 Grape Escape

Rhagfyr 12 BINGO 7.30 Grape Escape

Ffôn. Helen Krasner 0691 773116.

CYD Castell Nedd

Tachwedd 7 YMWELIAD Â'R ORSAF

DÂN, ABERTAWE.

Rhagfyr 5 CINIO NADOLIG

Ionawr 9 NOSON GYMDEITHASOL

YN Y DDRAIG WERDD, CADOXTON

Chwefror 6 BINGO YN Y DDRAIG

WERDD.

DWEUD WRTH BAWB AM CYD

Os oes arnoch chi eisiau denu mwy o

bobl i gyfarfodydd CYD yn eich ardal

chi, mae hi'n bwysig trefnu

cyhoeddusrwydd da i'r cyfarfodydd.

Mae nifer o ffyrdd i roi cyhoeddusrwydd

i weithgareddau ac nid oes yn rhaid i

hynny gostio'n ddrud nac o reidrwydd

gymryd llawer iawn o amser. Dyma rai

awgrymiadau:

(a) Paratoi taflen yn rhestru

gweithgareddau'r gangen dros

gyfnod o rai misoedd, a dosbarthu'r

daflen i Gymry Cymraeg a dysgwyr

yn yr ardal;

(b) Gallech ofyn i siop neu fusnes lleol

i noddi taflen i hysbysebu

gweithgareddau'r gangen. Mae

llawer o gwmnai a busnesau yn falch

iawn i noddi taflenni. Mae hynny'n

golygu y gallech chi wneud llawer o

gopiau o'r daflen heb fod hynny'n

gostus i CYD;

(c) Gallech chi baratoi posteri i'w codi

mewn mannau cyhoeddus. Cofiwch

bod posteri gwag i'w cael o swyddfa

CYD yn Aberystwyth;

(d) Anfonwch wybodaeth at y papur

bro lleol. Efallai y byddai hi'n bosib

trefnu i gael colofn CYD yn y papur

bro, os nad oes colofn ynddo'n

barod. Anfonwch wybodaeth am

weithgareddau CYD at bapurau

lleol eraill hefyd, yn bapurau

Cymraeg a Saesneg;

(dd) Anfonwch wybodaeth at y rhaglen

'Bwrw 'Mlaen", Gronant, Penrallt

Isaf, Caernarfon (0286) 77595.

Gallech chi anfon gwybodaeth

(e)

(f)

(ff)

hefyd at raglenni radio. Mae rhestr

ddefnyddiol o raglenni radio yn

Llawlfyr CYD;

Gallech chi drefnu i ymweld â

chymdeithas Gymraeg leol i siarad

am CYD a cheisio denu Cymry

Cymraeg i'r cyfarfodydd;

Y ffordd fwyaf effeithiol o ddenu

pobl i gyfarfodydd CYD ydy gofyn i

bobl yn bersonol. Ceisiwch annog

pob aelod o'r gangen i ddod â ffrind

gydag ef neu hi i'r cyfarfod nesaf.

Pe byddai pob aelod yn gwneud

hynny, byddai aelodaeth y gangen

yn dyblu!

Anfonwch wybodaeth at Cadwyn

CYD, yn ogystal ag adroddiadau a

lluniau ac unrhyw hanesion difyr

ynglÿnâgweithgareddau'rgangen.
YMWELWR O

AWSTRALIA

Daeth merch Awstralaidd Coralie Siân Potter i Lanfyllin i

aros efo teulu Hilary and Laurie Smith am wythnos yng

nghanol mis Hydref eleni.

Mae Siân wedi did i Gymru ar ôl dysgu Cymraeg ym

Melbourne, Awstralia, ers 2 flynedd, er mwyn rhoi sglein ar

ei Chymraeg. Dywedodd Sian bod capel Cymraeg ym

Melbourne! Derbynodd groeso cynnes gan aelodau CYD

Llanfyllin a'u tiwtoriaid.

Aeth Siân i ddosbarthiadau Pontio a lefel 3 yn Llanfyllin ar

nos Lun a nos Fawrth.

Yn ystod yr wythnos, ymwelodd Siân â llefydd o ddiddordeb

yn yr ardal gan gynnwys Pennant Melangell, Castell Powys,

a Noson Lawen, Merched y Wawr, Llanwddyn.

Cafodd CYD Llanfyllin wahoddiad i berfformio acymunodd

Siân yn yr hwyl o gyflwyno drama "Punch a Judy". Chwaraeodd

ran y barnwr.

Ar ôl wythnos lawn o hwyl symudodd Siân ymlaen i aros yn

Ngogledd Cymru, lle mae ganddi berthnasau.

Hilary Smith

CHWILIO AM OGOFAU

'Roedd y tywydd yn sych pan gwrddodd CYD Castell Nedd

ym maes parcio Craig y Nos ar 8fed Medi. Aethon ni i weld

Ogof Ffynnon Ddu. Gwelon ni lle mae'r d r yn mynd i mewn

ac yn dod allan o'r ogof. Hefyd, gwelon ni'r fynedfa lle mae

pobl yn mynd i mewn yr ogof.

Cerddon ni daith tua wyth milltir ar lwybrau cyhoeddus a

thir preifat, gyda chaniatad. 'Roedd llawer o bethau i weld ac

aethon ni a bwyd â diod am bicnic.

Ar ôl dechrau tua hanner awr wedi deg y bore, daethon ni

yn ôl am hanner awr wedi tri yn y p'nawn.

Mary Galpin

Dydd Sul

Dydd Llun

MIRI AWST

Dydy'r tywydd yn gwella dim! Popeth yn wlyb. Dw i'n mynd

i gysgu ar y llawr yn y ty heno. Dw i ddim yn wersyllwr da.

Gwibdaith ar y tren o Borthmadog i Flaenau Ffestiniog yn

y glaw eto! Pethau yn gwella nos Lun. Twmpath gyda

Gwerinos. Grêt!

Dydd Mawrth Ces i wersi Gwyddeleg a Llydaweg heddiw. Anodd iawn.

Noson yn y "Fic" Llithfaen gyda Dafydd Iwan. Noson dda

iawn.

Dydd Mercher Aethon ni i Barc Glynllifon a Pharc Bywyd Gwyllt Myrddin.

Roedd pawb yn hoffi'r mochyn Vietnamese Pot-bellied Pig

ac roedd rhaid gwneud yn siwr bod neb wedi ei smyglo fo

ar y bws!

Dydd Iau

Tywydd gwych. Torheulo ar y traeth tan 6 o'r gloch. Ddaru

rhai gladdu lliain Siôn! Syniad da? 'Roedd lliain Siôn ar goll

tan dydd Sadwrn! Cawson ni barti nos Iau.

Dydd Gwener Mae gen i gur pen ar ol y parti neithiwr. Taith natur gyda

Twm Elias. Diddorol dros ben. Noson Lawen gyda dawnsio

canu a chystadleuaeth wisg ffansi. 0 ble ddaeth y Teenage

Mutant Turtles, tybed?

Dydd Sadwrn

Diolch am y Jac Codi Baw i'm deffro am 7.30 y bore 'ma.

Wedi pacio, dw i'n dechrau poeni. Fydd fynghar yn cyrraedd

pen yr allt? Wel, dyna ni, Miri Awst drosodd. Ydw i'n mynd

i ddod eto?... YDW. Gwersylla? ... Wel... efallai.

PAULINE RANDLES

GRADD ALLANOL

Prif ysgol Cymru

Galw Dysgwyr da

Os carech fynd gam ymhellach, beth am ddilyn cwrs BA

trwy gyfrwng y Gymraeg?

Cynigia'r Radd Allanol gyfle i fyfyrwyr astudio yn eu

cartrefi a hynny yn ystod eu horiau hamdden.

Yn y flwyddyn gyntaf gellir dilyn cwrs 'Defnyddio'r

Gymraeg' — cwrs a luniwyd i gynorthwyo'r dysgwyr i

ysgrifennu'r iaith yn gywir a graenus.

Beth am roi cynnig arni?

0s carech dderbyn rhagor o fanylion, a ffurflen gais, cysylltwch a:

A. Cynfael Lake, Swyddog y Radd Allanol, CPC, Yr Hen Goleg, Aberstwyth

(Ffòn 0970-622049/50).

STORIAU - POSAU -

LLIWIO-CWISIAU-

DYSGU CYMRAEG

BLE?

YNG

NGHYLCHGRONAU'R

URDD

Archebwch eich copi personol

nawr o Adran Cylchgronau,

Swyddfa'rUrdd.Aberystwyth,

Dyfed

Dymunaf archebu 10 rhifyn am

flwyddyn ac amgaeaf y tâl priodol.

50c I I BORE DA (£7.00 yn

I I cynnwys pacio

phostio) Dysgwyr

Cynradd

50c I I MYND (£7.00 yn

I I cynnwys pacio a

phostio) Dysgwyr

Uwchradd/Myfyrwyr

TGAU

(Dodwch y yn y lle priodol).

ENW

CYFEIRIAD
CWIS BOB DYDD

Bu CWIS CYD bob dydd ym mhabell y dysgwyr ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol Cwm Rhymni eleni.

Ar ddydd Mawrth, cystadlodd Tîm CYD Abertawe yn erbyn Tîm CYD Merthyr Tudfil.

Yn y llun. Tîm Merthyr Tudfíl ar y dde, cwisfeistrí'r dydd Y Brodyr Gregory, ac Andrea Jones yn ceisio

sicrhau chwarae teg i bawb. Tipyn o job yng nghwmni'r bois Gregory yna!

POUTECHNIG CYMRU

Cwrs ar gyfer dysgwyr profiadol

Dechreuwch y cwrs unrhyw amser ;

chi sy'n penderfynu pa mor

aml y byddwch yn anfon eich

gwaith i gael ei farcio.

Anfonwch y ddidolon isafat:

Swyddog Datblygu'r Gymraeg

Politechnig Cymru

Pontypridd CF37 ÎDL

Ffôn (0443)480480

2 GASET

LLEISIAU

Torrwch yma

Gaf i fanylion pellach am

ENW

CYFEIRIAD

POLITECHNIG CYMRU

FFON
£2,000 AR FRYS

Mae'n rhaid i CYD godi £2,000 erbyn Rhagíyr laf, 1990 er mwyn

talu am gostau gweinyddol.

Er mwyn helpu i godi'r arian hwn, 'rydym yn gofyn i'r holl

ganghennau i gyfrannu neu i drefnu gweithgareddau codi arian

erbyn y dyddiad hwnnw. Ychydig iawn o grant y mae CYD yn ei gael

ar gyfer costau gweinyddol ar hyn o bryd felly 'rydym yn dibynnu

arnoch chi yn y canghennau.

Dyma rai awgrymiadau ar gyfer trefnu gweithgareddau i godi

arian:

taith gerdded/redeg noddedig; trefnu cyngerdd neufore coffi, treiglo

noddedig; raffl; cynnal casgliad arbennig ymhlith yr aelodau;

gwerthu nwyddau CYD; Siarad Cymraegnoddedig; cynnalstondin

ary stryd neu yn yfarchnad.

Cofiwch bod unrhyw weithgaredd codi arian yn rhoi cyíle i siarad

y Gymraeg hefyd!

Diolch i chi ymlaen llaw am eich help.

EDRYCH YMLAEN

AT Y NADOLIG!

YN AWR YDY'R AMSER I BRYNU

* CALENDRAU CYD

* CARDIAU NADOLIG CYD

yn cyflwyno

nos Fercher

7.30

WPLABOBIHOCDW

amwyo

SWMP!

Rhaglenni PENDANT ar gyfer BBC i S4C

Taliesin

(Gol.: R. Gerallt Jones a Bedwyr Lewis Jones)

Cylchgrawn chwarterol sy'n cynnig arolwg

cynhwysfawr o'r hyn sy'n digwydd yn niwylliant

Cymru a'r byd

Amrywiaeth ddifyr a diddorol o storiau byrion,

ysgrifau ac erthyglau ar bynciau o bwys a cherddi

Ymysg y rhai sy'n cyfrannu i Taliesin mae

Meredydd Evans, Menna Elfyn, Emyr Humphreys,

Alan Llwyd, Jane Edwards, Bernard Evans

1991

Pecyn trwy'r post

1 Calendr

10Cerdyn

gan gynnwys cludiant

Swyddfa CYD

YR HEN GOLEG

HEOLYBRENIN

ABERYSTWYTH

DYFED SY23 2AX

CYNNIG ARBENNIG I

AELODAU CYD!

Tanysgrifiwch yn awr ac fe gewch un gyfrol am

ddim — 5 rhifyn am bris 4

Tanysgrifiad blwyddyn am 4 rhifyn yw £7.00

I danysgrifio anfonwch eich enw a chyfeiriad a

£7.00 at: Taliesin (CYD), Yr Academi Gymreig, Ty

Mount Stuart, Sgwar Mount Stuart, Caerdydd CF1

6DQ

Cyfoethocwch eich hun yn niwylliant Cymru yn y

modd gorau posib trwy dderbyn a darllen Taliesin

yn rheolaidd
11

GULBENRIAN

FOUNDATION

CHWIUOAM

FFYNHONNELL ARIAN

AR GYFER PROSIECT

LLEOL?

Mae'r gymdeithas Gulbenkian

Foundation yn cynnig cefnogaeth o grantiau

tuag at weithgareddau creadigol (Fideo,

Papurau Bro; gwaith ymchwil mewn

Dawnsio Gwerìn,Traddodiadau, Chwedlau,

Mapiau ac yn y blaen.) yng nghefn gwlad.

Am fwy o fanylion. Cysylltwch â:- Fiona

Ellis. Asst. Director (Arts) Calouste

Gulbenkian Foundation, 98 Portland Place,

London WIN 4ET.

CBAC

YR ADRAN

GYMRAEG

Cymraeg i Oedolion

Gwybodaeth i Ddysgwyr a Thiwtoriaid

Defnyddiau

Y Cynllun Nodau Cyfathrebol

Arholiadau

Manylion am arholiadau Defnyddio'r Gymraeg a

Defnyddio'r Gymraeg-Uwch — ar gael nawr.

Nifer gyfyngedig o gopiau peilot o Dosbarth l\los 25-32

ar gael (Llyfryn £1.50, Tap £1.50)

Swyddog Dysgu'r Gymraeg i Oedolion,

Cyd-bwyllgor Addysg Cymru,

245 Rhodfa'r Gorllewin,

Caerdydd. CF5 2YX

Rhifffôn: (0222-555446)

CANOLFAN IAITH GENEDLAETHOL NANT GWRTHEYRN

RHIF

NUMBER

40.

41.

42.

43.

44.

45.

46.

47.

48.

1

2

3

4

5

6

7

8

9

10

11

12

13

14

15

16

17

18

19

20

Llithfaen, Pwllheli, Gwynedd LL53 OPA. Llithfaen (075 885) 334.

RHAGLEN CYRSIAU I DYDD GWYL DEWI 1991

A: Cwrs wythnos/week

B: Cwrs Penwythnos/weekend

C: Cwrs pum niwrnod/Five days

DYDDIAD A B C

DATE

TACH. 30-RHAGFYR 7 *

NOV. 30-DECEMBER 7

TACH. 30-RHAG.2

NOV. 30-DEC.2

RHAGFYR/DEC.2-7

RHAGFYR/DEC.7-14

RHAGFYR/DEC.7-9

RHAGFYR/DEC.9-14

RHAGFYR.DEC.14-21

RHAGFYR/DEC.14-16

RHAGFYR/DEC.16-21

IONAWR/JAN4-11

IONAWR/JAN 4-6

IONAWR/JAN6-11

IONAWR 11-18

I0NAWR 11-13

IONAWR 13-18

IONAWR 18-25

IONAWR 18-20

IONAWR 20-25

V I0NAWR 25-27

IONAWR 27-CHWEFROR I

* CYSYLLTWCH AM RAGOR 0 WYBODAETH

CHWEFR0R/FEB1-8

CHWEFROR 1-3

CHWEFROR 3-8

CHWEFROR8-15

CHWEFROR8-10

CHWEFROR 10-15

CHWEFROR 15-22

CHWEFROR 15-17

CHWEFROR 17-22

CANOLIG 1 /IWTERMED.1

CANOUG2/INTERMED.2

PROFIADOL/EXPERIENCED

DECHREUWYR/BEGINNERS

CAN0LIG2/INTERMED.2

GLOYWI IAITH

DECHREUWYR/BEGINNERS

CANOLIG 1 /INTERMED.1

ARALL/OTHER

DATHLU DWYNWEN

DAU LIMRIG

O FIRI AWST

Dydd Llun:

Gorffen y limrig

Aeth criw draw o'r Nant i Bwllheli

I nofio a chadw yn heini

Ond 'Jaws' ddaeth i'r dwr

A dyna chi stwr,

Mi ffeindion nhw Siôn ar Dre'r Ceiri.

Jenny Gibbs, Y Wyddgrug

Dydd Gwener:

Gorffen y limríg

'R ôl wythnos o fíri'n y Nant

Yn oedolion, tiwtoriad a phlant,

'Roedd pawb wedi blino

Am eu bod wedi joio

Wrth ymuno'n yr hwyl gant y cant.

Margaret Jones, Port Talbot
ae Now You're Talking ar S4C

yn rhoi cyfle i oedolion

ddechrau dysgu'r Gymraeg.

Darperir tapiau sain a phecyn

gweithgareddau bob pythefnos i gydfynd

â'r gyfres, ond yn ogystal â

hynny mae angen cyfle i ymarfer

siarad ar y dysgwyr newydd.

Bwriad ACEN felly, mewn

cydweithrediad â CYD, yw ffuffio

grwpiau lleol a fydd yn cyfarfod i ddilyn cyfres o weithgareddau.

Mae angen siaradwyr rhugl yn y grwpiau hynny i sicrhau

bod yr ynganu yn gywir ac i ddarparu gair neu ddau os bydd

angen.

Hoffech chi gynorthwyo? Beth am anfon am fwy o fanylion?

ymorth

acen

Mae Acen yn cael ei noddi gan

B W R D D D A T B L Y G~Ü

C Y M R U W L E D I G

D E V E L O P M E N T B O A R D

F O R R U R A L W A L E S

p ^ ^ ^

Dylid dychwelyd

ffurflen i:

ACEN

Blwch Post 4000

Caerdydd

Argreffir "Cadwyn CYD" gan Argra vyr Y Waun, Y Waun, Wrecsam, Clwyd. Ffôn 0691 773911