You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
YMWELWR O

AWSTRALIA

Daeth merch Awstralaidd Coralie Siân Potter i Lanfyllin i

aros efo teulu Hilary and Laurie Smith am wythnos yng

nghanol mis Hydref eleni.

Mae Siân wedi did i Gymru ar ôl dysgu Cymraeg ym

Melbourne, Awstralia, ers 2 flynedd, er mwyn rhoi sglein ar

ei Chymraeg. Dywedodd Sian bod capel Cymraeg ym

Melbourne! Derbynodd groeso cynnes gan aelodau CYD

Llanfyllin a'u tiwtoriaid.

Aeth Siân i ddosbarthiadau Pontio a lefel 3 yn Llanfyllin ar

nos Lun a nos Fawrth.

Yn ystod yr wythnos, ymwelodd Siân â llefydd o ddiddordeb

yn yr ardal gan gynnwys Pennant Melangell, Castell Powys,

a Noson Lawen, Merched y Wawr, Llanwddyn.

Cafodd CYD Llanfyllin wahoddiad i berfformio acymunodd

Siân yn yr hwyl o gyflwyno drama "Punch a Judy". Chwaraeodd

ran y barnwr.

Ar ôl wythnos lawn o hwyl symudodd Siân ymlaen i aros yn

Ngogledd Cymru, lle mae ganddi berthnasau.

Hilary Smith

CHWILIO AM OGOFAU

'Roedd y tywydd yn sych pan gwrddodd CYD Castell Nedd

ym maes parcio Craig y Nos ar 8fed Medi. Aethon ni i weld

Ogof Ffynnon Ddu. Gwelon ni lle mae'r d r yn mynd i mewn

ac yn dod allan o'r ogof. Hefyd, gwelon ni'r fynedfa lle mae

pobl yn mynd i mewn yr ogof.

Cerddon ni daith tua wyth milltir ar lwybrau cyhoeddus a

thir preifat, gyda chaniatad. 'Roedd llawer o bethau i weld ac

aethon ni a bwyd â diod am bicnic.

Ar ôl dechrau tua hanner awr wedi deg y bore, daethon ni

yn ôl am hanner awr wedi tri yn y p'nawn.

Mary Galpin

Dydd Sul

Dydd Llun

MIRI AWST

Dydy'r tywydd yn gwella dim! Popeth yn wlyb. Dw i'n mynd

i gysgu ar y llawr yn y ty heno. Dw i ddim yn wersyllwr da.

Gwibdaith ar y tren o Borthmadog i Flaenau Ffestiniog yn

y glaw eto! Pethau yn gwella nos Lun. Twmpath gyda

Gwerinos. Grêt!

Dydd Mawrth Ces i wersi Gwyddeleg a Llydaweg heddiw. Anodd iawn.

Noson yn y "Fic" Llithfaen gyda Dafydd Iwan. Noson dda

iawn.

Dydd Mercher Aethon ni i Barc Glynllifon a Pharc Bywyd Gwyllt Myrddin.

Roedd pawb yn hoffi'r mochyn Vietnamese Pot-bellied Pig

ac roedd rhaid gwneud yn siwr bod neb wedi ei smyglo fo

ar y bws!

Dydd Iau

Tywydd gwych. Torheulo ar y traeth tan 6 o'r gloch. Ddaru

rhai gladdu lliain Siôn! Syniad da? 'Roedd lliain Siôn ar goll

tan dydd Sadwrn! Cawson ni barti nos Iau.

Dydd Gwener Mae gen i gur pen ar ol y parti neithiwr. Taith natur gyda

Twm Elias. Diddorol dros ben. Noson Lawen gyda dawnsio

canu a chystadleuaeth wisg ffansi. 0 ble ddaeth y Teenage

Mutant Turtles, tybed?

Dydd Sadwrn

Diolch am y Jac Codi Baw i'm deffro am 7.30 y bore 'ma.

Wedi pacio, dw i'n dechrau poeni. Fydd fynghar yn cyrraedd

pen yr allt? Wel, dyna ni, Miri Awst drosodd. Ydw i'n mynd

i ddod eto?... YDW. Gwersylla? ... Wel... efallai.

PAULINE RANDLES

GRADD ALLANOL

Prif ysgol Cymru

Galw Dysgwyr da

Os carech fynd gam ymhellach, beth am ddilyn cwrs BA

trwy gyfrwng y Gymraeg?

Cynigia'r Radd Allanol gyfle i fyfyrwyr astudio yn eu

cartrefi a hynny yn ystod eu horiau hamdden.

Yn y flwyddyn gyntaf gellir dilyn cwrs 'Defnyddio'r

Gymraeg' — cwrs a luniwyd i gynorthwyo'r dysgwyr i

ysgrifennu'r iaith yn gywir a graenus.

Beth am roi cynnig arni?

0s carech dderbyn rhagor o fanylion, a ffurflen gais, cysylltwch a:

A. Cynfael Lake, Swyddog y Radd Allanol, CPC, Yr Hen Goleg, Aberstwyth

(Ffòn 0970-622049/50).

STORIAU - POSAU -

LLIWIO-CWISIAU-

DYSGU CYMRAEG

BLE?

YNG

NGHYLCHGRONAU'R

URDD

Archebwch eich copi personol

nawr o Adran Cylchgronau,

Swyddfa'rUrdd.Aberystwyth,

Dyfed

Dymunaf archebu 10 rhifyn am

flwyddyn ac amgaeaf y tâl priodol.

50c I I BORE DA (£7.00 yn

I I cynnwys pacio

phostio) Dysgwyr

Cynradd

50c I I MYND (£7.00 yn

I I cynnwys pacio a

phostio) Dysgwyr

Uwchradd/Myfyrwyr

TGAU

(Dodwch y yn y lle priodol).

ENW

CYFEIRIAD