You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
PENWYTHNOS DAWNSIO GWERIN

Dawnsfeydd gwerin hen a newydd. Stepio Clocsio Traddodiadol — hawdd a chymleth! Twmpatha yng

nghwmni Jac-y-Do. Digon o hwyl a sbri. Lleoliad deniadol. Cwmni difyr. Ac wrth gwrs, cyfle i siarad

Cymraeg!

Hyn oll mewn un diwrnod?? Amhosib?? Dim o gwbl! Y diwrnod o dan sylw yw'r 17eg Tachwedd 1990

a'r lleoliad yw Gwesty'r Langrove Lodge, G yr, Abertawe. Ydy'r manylion hynny'n canu cloch? Ie, dyna

ddyddiad a'r lleoliad Penwythnos Dawnsio Gwerin CYD.

Wrth gwrs, mae pob croeso i chi ddod ar y penwythnos o'r nos Wener i'r bore Sul, ond os na fýdd hynny'n

bosib, yna ymunwch â ni dydd Sadwrn yn unig. Bydd y gweithdai dawnsio a chlocsio yn cychwyn am 10

y bore ac yn parhau drwy'r dydd, cyn torri am seibiant amser te Ie, seibiant yn unig, achos fydd y

dawnsio a'r miri yn ail ddechrau tua 7.30 yr hwyr gyda thwmpath heb ei ail yng nghwmni'r grwp bywiog

Jac-y-Do.

Yn ddi-os, felly, diwrnod orlawn o ddawnsio o chlocsio a hwyl a sbri hyn oll yn y Gymraeg. Diwrnod

llawn am bris rhad — £5 yn unig yn cynnwys y gweithdai a'r twmpath neu £2 i fynychu'rtwmpath yn unig.

Oes diddordeb gyda chi? Hoffech chi fod yn rhan o hyn oll? Yna, Codwch y ffôn nawr er mwyn siarad

ag Andrea Jones ar 0792 470470, a chwiliwch am Abertawe ar y mapü

AM

DDIM

3 RHIFYN 0 GOLWG

a~

•Torrwch hwn allan a'i ddanfon i GOLWG, Rhadbost. Llanbedr Pont

Steffan, Dyfed, SA44 7ZZ.

Mae diddordeb gennyf mewn cael 3 rhifyn o GOLWG am ddim. Ar ddiwedd

y tair wythnos bydd gennyf ddewis i ddal atir i'w dderbyn (ac dalu £10 y

chwarter drwy ddebyd uniongyrchol) neu i beidio a'i gael ymhellach.

Anfonwch y manylion ar frys at:

ENW

CYFEIRIAD

Os yw'n well gennych, danfonwch y manylion art ddarn o bapur, gan enwi'r

rhaglen hon.

"FFEINDIWCHYDDRAIG"

GWOBR £511

FFURFLEN GAIS

Dw i wedi dod o hyd i"r Ddraig Fach ar dudalen uwch ben y gair

ENW

CYFEIRIAD

Bydd y cyntaf a dynnwyd allan o'r het yn ennill gwobr o £5 gan gwmni BORDER BEDS, WRECSAM.

Anfonwch y ffurflen gais i "Cadwyn Cyd", 83 New Ifton, St Martins, Croesoswallt

(Oswestry) SYll 3AB

CYSTADLEUAETH

GWIS

GENEDLAETHOL

CYD 1991

£500 gan Fanc Barclays!

Gyda chymorth Banc Barclays, bydd CYD

yn cynnal Cystadleuaeth Gwis Genedlaethol

unwaith eto yn 1991. Mae Banc Barclays wedi

noddi'r gystadleuaeth am £500. Mae hynny'n

golygu y byddwn yn cynnig gwobr o £150 i'r tîm

a fydd yn fuddugol yn y rownd derfynol, ac yn

rhannu £100 rownd y timau eraill a fydd wedi

cyrraedd y rownd derfynol. Bydd y rownd

derfynol yn cael ei chynnal ym Mhabell y

Dysgwyr yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym

Mro Delyn (yr Wyddgrug) ar ddechrau mis

Awst y flwyddyn nesaf.

Mae croeso i unrhyw gymdeithas gymryd

rhan, cyn belled â'u bod nhw'n defnyddio'r

Gymraeg. Bydd pump o bobl ymhob tîm, ac fe

fydd yn rhaid i bob tîm gystadlu mewn dwy

rownd cyn cyrraedd y rownd derfynol. Nid cwis

academaidd ac arbenigol fydd y cwis hwn, ond

cwis cyffredinol gyda digon o hwyl. Yprif bwrpas

yw dod â Chymry Cymraeg a dysgwyr lleol at ei

gilydd i fwynhau eu hunain trwy gyfrwng y

Gymraeg.

Y dyddiad cau ar gyfer cystadlu yw Ionawr

2il, 1991. Anfonwch at Swyddfa CYD yn

Aberystwyth am ragor o fanylion.