Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Beth ydy Cymdeithas Edward Llwyd?

Roedd Edward Llwyd (1660-1709) yn un o naturìaethwyr amlycaf Ewrop

yn ei ddydd ond roedd hefyd yn ieithydd, hanesydd, archaeolegydd, casglwr

llên gwerin, daearegwr, botanegydd o fri ac yn weithiwr maes nodedig iawn.

Pwy well felly i symbylu cymdeithas o naturiaethwyr, eang eu diddordeb,

sy'n ymdrìn yn bennaf â gweithgareddau a theithiau cerdded yn yr awyr

agored?

Mae'r Gymdeithas yn ddeuddeg oed eleni, wedi ei chychwyn yng

Ngorffennaf 1978 yn dilyn taith i fyny'r Afon Twrch, Cwm Tawe.

CROESO I DDYSGWYR

Dewch felly i deithio â ni ac i grwydro llwybrau cyfarwydd a newydd. Cawn

gyd-fwynhau mewn cwmni da. Manylion pellach oddi wrth: Twm Elias, Plas

Tan y Bwlch, Maentwrog, Gwynedd.

Teithiau a Chyfarfodydd y Gymdeithas

Tachwedd 17:

Tachwedd 24:

Tachwedd 30:

Rhagfyr 1:

Rhagfýr 6:

Rhagfyr 8:

Rhagíyr 15:

Rhagfyr 30:

Cyfri adar. Cyfarfod ger Siop Recordiau'r Cob, Porthmadog.

Arweinydd: Wil Jones.

Penmon, Bwrdd Arthur a Thraeth Coch. Cyfarfod ym maes parcio y

Colomendy, Môn. Arweinydd: Geraint George.

(Nos Wener): Noson gymdeithasol; lleoliad i'w drefnu. Cysylltwch

ag Iwan Roberts (ffôn: Rhuthun 3906) erbyn Tachwedd 27ain.

Cyfarfod gwaith. Cynnal a chadw llwybrau arfordir Gogledd Môn.

Cyfarfod ar y cei ym Mhorth Amlwch. Trefnydd: Gwenan Myfyr.

Cyfarfod cymdeithasol ym MhlasTanybwlch, Maentwrog. Cyfarfod

am 7.30pm. Enwau i'r Plas erbyn Rhagfyr. Ffôn: Maentwrog 324.

Cafnau Dyffryn Teifi. Taith fodur a cherdded. Cwrdd ym maes

parcio Ysgoldy Eglwys Llanllwni, Maesycrugiau (SN 473 412).

Arweinydd Evan James (ffôn: 0970 828 577); mae gan yr arweinydd

le i 4 yn ei gar.

Adar Morfa Conwy. Cyfarfod ger Castell Conwy. Arweinydd: T.

Elias.

Taith ystwytho'r cyhyrau (dringo caled) — Moel Hebog. Cyfarfod

maes parcio'r Afr, Beddgelert. Arweinydd: T. Elias.

GWEITHGAREDDAU'R

CANGENNAU LLEOL

CYD Tregaron

Rhagfyr 13 CINIO NADOLIG

8pm Gwesty'r Talbot

Ionawr 10 TRADDODIADAU

CELTAIDD 8pm Gwesty'r Talbot

Ffôn. Rosemary Barrançe 298 377.

CYD Uundain

Tachwedd 14 DARLINIAU O DWRCI

A HELYNTION BECA

Rhagfyr 14 PARTI NADOLIG

Ionawr 16 CWIS A CHINIO CALAN

Chwefror 6 DAWNS WERIN

Ffôn. Mr Pedr Morgan 081 459 2322.

CYD Croesoswallt

Tachwedd 14 NOSON AELODAU

NEWYDD 7.30 Grape Escape

Rhagfyr 12 BINGO 7.30 Grape Escape

Ffôn. Helen Krasner 0691 773116.

CYD Castell Nedd

Tachwedd 7 YMWELIAD Â'R ORSAF

DÂN, ABERTAWE.

Rhagfyr 5 CINIO NADOLIG

Ionawr 9 NOSON GYMDEITHASOL

YN Y DDRAIG WERDD, CADOXTON

Chwefror 6 BINGO YN Y DDRAIG

WERDD.

DWEUD WRTH BAWB AM CYD

Os oes arnoch chi eisiau denu mwy o

bobl i gyfarfodydd CYD yn eich ardal

chi, mae hi'n bwysig trefnu

cyhoeddusrwydd da i'r cyfarfodydd.

Mae nifer o ffyrdd i roi cyhoeddusrwydd

i weithgareddau ac nid oes yn rhaid i

hynny gostio'n ddrud nac o reidrwydd

gymryd llawer iawn o amser. Dyma rai

awgrymiadau:

(a) Paratoi taflen yn rhestru

gweithgareddau'r gangen dros

gyfnod o rai misoedd, a dosbarthu'r

daflen i Gymry Cymraeg a dysgwyr

yn yr ardal;

(b) Gallech ofyn i siop neu fusnes lleol

i noddi taflen i hysbysebu

gweithgareddau'r gangen. Mae

llawer o gwmnai a busnesau yn falch

iawn i noddi taflenni. Mae hynny'n

golygu y gallech chi wneud llawer o

gopiau o'r daflen heb fod hynny'n

gostus i CYD;

(c) Gallech chi baratoi posteri i'w codi

mewn mannau cyhoeddus. Cofiwch

bod posteri gwag i'w cael o swyddfa

CYD yn Aberystwyth;

(d) Anfonwch wybodaeth at y papur

bro lleol. Efallai y byddai hi'n bosib

trefnu i gael colofn CYD yn y papur

bro, os nad oes colofn ynddo'n

barod. Anfonwch wybodaeth am

weithgareddau CYD at bapurau

lleol eraill hefyd, yn bapurau

Cymraeg a Saesneg;

(dd) Anfonwch wybodaeth at y rhaglen

'Bwrw 'Mlaen", Gronant, Penrallt

Isaf, Caernarfon (0286) 77595.

Gallech chi anfon gwybodaeth

(e)

(f)

(ff)

hefyd at raglenni radio. Mae rhestr

ddefnyddiol o raglenni radio yn

Llawlfyr CYD;

Gallech chi drefnu i ymweld â

chymdeithas Gymraeg leol i siarad

am CYD a cheisio denu Cymry

Cymraeg i'r cyfarfodydd;

Y ffordd fwyaf effeithiol o ddenu

pobl i gyfarfodydd CYD ydy gofyn i

bobl yn bersonol. Ceisiwch annog

pob aelod o'r gangen i ddod â ffrind

gydag ef neu hi i'r cyfarfod nesaf.

Pe byddai pob aelod yn gwneud

hynny, byddai aelodaeth y gangen

yn dyblu!

Anfonwch wybodaeth at Cadwyn

CYD, yn ogystal ag adroddiadau a

lluniau ac unrhyw hanesion difyr

ynglÿnâgweithgareddau'rgangen.