You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
DAVID GOODMAN

YSGOLORIAETH CYD 1990

Mae £900.27 wedi cael ei rannu rwng

14 o bobl fel ysgoloriaethau yn y

misoedd diwethaf. Bu CYD mor ffodus

a derbyn yr arian ar gyfer yr

ysgoloriaethau hyn o un ffynhonnell

garedig.

Ymhlith y rhai a dderbyniodd

ysgoloriaeth yr oedd myfyriwr o Wlad

Pwyl sy'n treulio blwyddyn yn astudio'r

Gymraeg yng Ngholeg Priíysgol Dewi

Sant, Llambed. Mae Swavomir Cabanski

bellach yn rhugl yn y Gymraeg, ac yn

ystod ei flwyddyn yn Llambed mae'n

bwriadu helpu i baratoi deunydd Braille

yn y Gymraeg, gan ei fod ef ei hun yn

ddall. Yr oedd wedi dysgu cryn dipyn o

Gymraeg cyn dod i Lambed trwy

ddarllen rhai cyfrolau Braille yn y

Gymraeg. Yng ngwlad Pwyl, 'roedd

Swavomir Cabanski yn dysgu Saesneg

ym Mhriíysgol Poznan. Cafodd nifer o

bobl eraill yng Nghymru arian i'w

cynorthwyo i íynd ar gyrsiau preswyl

Cymraeg dros yr Hâf, a chyrsiau dwys

dros fisoedd yr Hydref. Cafodd rhai

ymgeiswyr gymorth heíyd i brynu

llyfrau ac adnoddau i siarad y Gymraeg.

Mae CYD yn edrych ar y posibiliadau

ar hyn o bryd o sefydlu ysgoloriaeth

flynyddol er mwyn cynnig cymorth bob

blwyddyn i bobl sydd eisiau dysgu'r

Gymraeg.

bwrw

'mlaen

.eichtadyncanu

soprano?

Ydi'ch mamguyn

reslo?

Dewch i ni gael eu hanes ar bwrw 'mlaen.

Bydd gwobr am y syniad gorau.

Danfonwch eich cynigion at

bwrw 'mlaen, Gronant, Caernarfon, Gwynedd LL55 1NS

cyn diwedd mis Tachwedd.

...eich chwaer

fachynsereny

sgrin?