13.07.2015 Views

Dangosyddion Perfformiad Allweddol, Gwasanaeth ... - S4C

Dangosyddion Perfformiad Allweddol, Gwasanaeth ... - S4C

Dangosyddion Perfformiad Allweddol, Gwasanaeth ... - S4C

SHOW MORE
SHOW LESS

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

ChwaraeonMae Sgorio (Nant) bellach wedi dathlu ei phum canfed rhifyn ac yn parhau i ddarparu detholiad safon uchel o bêldroedgorau’r cyfandir bob wythnos. Mae’r cyflwynydd newydd Morgan Jones yn llenwi’r bwlch i’r dim. Sicrhawyd ar ycyd gyda’r BBC yr hawliau i ddarlledu rygbi clybiau Cymru am bum mlynedd arall. Nodwn gyda diolch waith Cwmni 10wrth ddarparu Y Clwb Rygbi i ni dros gyfnod o bedair blynedd tra’n croesawu’r berthynas newydd gyda BBC Cymru, aenillodd y cytundeb i gynhyrchu’r gyfres newydd yn dilyn proses dendro. <strong>S4C</strong> oedd yr unig ddarlledwr daearol iddarlledu Taith y Llewod i Awstralia (BBC) . Darlledwyd y gemau fel pe baent yn fyw am 6.00 o’r gloch bob nosSadwrn gydag awr o raglen am 8.00 o’r gloch ganol wythnos. Cafwyd cyfres ddifyr iawn ar gampau eithafol ar draws ybyd yn Cymru ar Ras (Dream Team). Ymhob rhaglen, cafwyd cyfuniad o olygfeydd gwych a’r profiad o rannu’r hergydag aelodau’r tîm Cymreig. Mae Rasus (Pedol) a Rasus Portmarnock (Pedol) yn parhau i ddenu cynulleidfawahanol atom yn ystod yr haf.Rydym yn parhau i chwilio am gyfleoedd i gyflwyno chwaraeon o safon uchel pan ddaw hawliau ar gael o bryd i’wgilydd. Roedd Rygbi 7 Bob Ochr (Cwmni 10) yn seiliedig ar ornest dau ddiwrnod yng Nghasnewydd a Stadiwm yMileniwm. Dau dîm sydd â llawer iawn o ddilynwyr Cymreig yw Manchester United a Celtic (Nant). Braf felly oeddmedru darlledu’r gêm gyfeillgar rhwng y ddau bencampwr a ddaeth a’r tymor pêl-droed i ben. Canolbwyntio ar y dyn yny canol wnaeth Reffarîs (Tonfedd/Eryri) gan roi sylw arbennig i ddyfarnwyr cynghrair arfordir y gogledd a chynghrairCeredigion.CrefyddDarlledwyd amrywiaeth eang o oedfaon yn Dechrau Canu Dechrau Canmol (Elidir) gyda Huw Llywelyn Davies wediymsefydlu’n gadarn fel cyflwynydd y gyfres. Cafwyd croeso mawr i Llwybrau Paul (Avanti) lle bu John Ogwen yn dilynôl troed y sant gan ail fyw ei brofiadau ac ymateb i’r amgylchiadau cyfoes ar yr un pryd. Mae ein Oedfa Nadolig(Elidir) yn rhoi blas mwy defosiynol i arlwy <strong>S4C</strong> na’r rhelyw o wasanaethau teledu ac yn diwallu angen pwysig ar gyfercarfan sylweddol o wylwyr. Yng nghyd-destun crefydd, rhaid nodi hefyd y ffilm gwbl unigryw G ^wr y Gwyrthiau (Cart ^wnCymru) (gweler Animeiddio).CerddoriaethRydym yn sylweddoli pa mor werthfawr i’n gwylwyr yw digwyddiadau cerddorol unigol o safon uchel. Mae hyn yn wirpa fath bynnag o gerddoriaeth sydd dan sylw. Yn ystod corff y flwyddyn, braf yw medru nodi nifer sylweddol oddigwyddiadau cerddorol cofiadwy. Yn eu plith roedd Gala Operatig Bryn Terfel (Avanti), Tân y Ddraig II (Avanti) – ailfyw dyddiau disglair roc Cymraeg y saithdegau yn y Faenol gydag Edward H Dafis ac eraill; Daw fe Ddaw (BBC) –cyngerdd arbennig gan Dafydd Iwan yn Eisteddfod Llanelli a Chyngerdd y Ffermwyr (Opus) – cyngerdd mawreddogyn Llangollen i gynorthwyo’r diwydiant amaethyddol. Seiliwyd Adiemus Byw (Opus) ar gyngerdd o waith cerddorolgwreiddiol Karl Jenkins ar gyfer y gyfres Y Celtiaid. Cafwyd darlun unigryw o ddiwylliant cerddorol tanddaearolCymraeg, yn ogystal â darlun Ewropeaidd ehangach yn Crymi (Ankst) oedd yn dilyn hanes cwmni recordiau Cymraegdros gyfnod o flwyddyn. Dilyniant blwyddyn, y tro hwn o fywyd y gr ^wp Big Leaves, a gafwyd yn Dydd ar ôl Dydd(Boomerang) - rhaglen safonol yn llawn cerddoriaeth dda. Darllediad awyr agored gyda phump o gantoresau gorauCymru oedd Divas (Al Fresco) tra bod y tenor Cymreig Dennis O’Neill a chorws a cherddorfa Opera CenedlaetholCymru yn amlwg yn Viva Verdi (Opus). Dathliad cynhesol a dyrchafol o gamp fawr Cwmni Theatr Maldwyn, wrthiddynt ddathlu ugain mlynedd o weithgarwch, a gafwyd yn Ar Noson fel Hon (Tonfedd/Eryri). Mae’n bosibl maicyngerdd eleni oedd yr orau eto o Garolau o Langollen (Opus) - mae’r gystadleuaeth ysgrifennu carol yn cryfhau bobblwyddyn. Gwerthfawrogiad mawr gan gynulleidfa cymharol fach a gafwyd i Crwtyn Bach y Simne (Al Fresco) –cynhyrchiad o opera Benjamin Britten. Cafwyd perfformiadau arbennig gan Gwyn Hughes Jones a Gail Pearson ynSanctaidd Nos (Opus) ar drothwy’r Nadolig a dehongliad o ddawnsio gwerin mewn arddulliau cyfoes oedd sylfaenCam Ymlaen (Elidir). Golygodd Clwy’r Traed a’r Genau nad oedd cynulleidfa fyw yn bresennol yn Cân i Gymru(Apollo) eleni. Eto i gyd cafwyd rhaglen safonol, uchelgeisiol.O ran cyfresi, rydym yn falch fod Sesiwn Hwyr (Avanti) wedi rhoi cyfle i wylio a gwrando ar gerddoriaeth gyfoes gorauCymru tra oedd 4trac (Boomerang) yn rhoi llwyfan i grwpiau ifanc a newydd. Cafodd pencampwyr y canu gwlad Johnac Alun (Tonfedd/Eryri) eu cyfres eu hunain ac yn Yma Mae ’Nghân (Tonfedd/Eryri) mentrodd Dafydd Iwan dros fôrIwerydd gan weu hanes ymfudwyr o Gymru i’r America a Phatagonia gyda chyfres o ganeuon o’r cyfnod a chaneuonnewydd gwreiddiol. Cyfuniad egnïol a llwyddiannus.Amrywiaeth o gerddoriaeth glasurol gyda Cherddorfa Genedlaethol y BBC, gyda chyflwyniad awdurdodol gan HuwEdwards, a gafwyd yn Straeon Cerdd (BBC). Canu gwerin oedd pwnc Yn Ein Dwylo (Elidir). Yr oedd yn y rhaglenyma ddeunydd crai diddorol ond bu’n anodd agor y pwnc allan i gynulleidfa eang.32

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!