Dangosyddion Perfformiad Allweddol, Gwasanaeth ... - S4C
Dangosyddion Perfformiad Allweddol, Gwasanaeth ... - S4C
Dangosyddion Perfformiad Allweddol, Gwasanaeth ... - S4C
You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
YR ADRAN BEIRIANNEG A THECHNOLEGFe barhaodd yr Adran Beirianneg a Thechnoleg i gefnogi’r sefydliad yn ei brif rôl o gomisiynu rhaglenni athrosglwyddo’r gwasanaethau. Llwyddwyd i wireddu ein hamcanion adrannol am y flwyddyn bron yn llwyr, gan sicrhautrosglwyddiad a dosbarthiad di-dor ein gwasanaethau rhaglenni. Yn ogystal â gwarantu trosglwyddiad analog <strong>S4C</strong> athrosglwyddiad <strong>S4C</strong> Digidol ac <strong>S4C</strong> 2 ar lwyfannau daearol, cebl a lloeren ddigidol, darparwyd gwasanaethau rheoli athrosglwyddiad i’r Einstein Channel yn ystod y flwyddyn, ar sylfaen fasnachol lled braich.Datblygwyd meddalwedd rheoli darlledu’r sianel ymhellach i wella amseru’r trosglwyddo. Profodd hyn yn fuddiol iawn igyflymu’r gwaith o brosesu mewn amgylchfyd aml-sianelog ac yn arbennig wrth ymdopi â digwyddiadau chwaraeonbyw, sy’n gallu bod yn arbennig o anodd.Mae gwelliannau i systemau caledwedd a meddalwedd yr Adran Gyllid wedi cynyddu effeithlonrwydd, cyflymder adulliau gweithredu’r Adran, gan ddiogelu dyfodol yr agwedd hollbwysig hon ar weithgaredd y sefydliad. Gyda’r defnyddcynyddol o’r we yn y gwaith, mae diogelu rhag bygythiadau i’n gweithgaredd yn bwnc o bwys cynyddol. I’r perwyl hwn,rydym wedi sefydlu meddalwedd a chaledwedd caerog newydd i’n systemau cyfrifiadurol, i leihau unrhyw fygythiad, erei bod yn amhosibl dileu’r peryglon yn llwyr.Er mwyn hybu sgiliau technegol yng Nghymru, rydym wedi gweithio gyda’r prifysgolion Cymreig i greu lle ar gyfer unmyfyriwr cwrs carlam o fewn yr adran am flwyddyn. Tystiolaeth bellach o’n hymrwymiad i feithrin cronfa o sgiliau o fewny diwydiant yw creu swydd lawn amser dan hyfforddiant yn yr Adran Graffeg.40