13.07.2015 Views

Dangosyddion Perfformiad Allweddol, Gwasanaeth ... - S4C

Dangosyddion Perfformiad Allweddol, Gwasanaeth ... - S4C

Dangosyddion Perfformiad Allweddol, Gwasanaeth ... - S4C

SHOW MORE
SHOW LESS

Create successful ePaper yourself

Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.

PlantDaeth y profiadol a’r arbrofol ynghyd i greu ystod eang o raglenni newydd ar gyfer y plant ieuengaf eleni. Bu profiadOlwen Rees yn gaffaeliad i’r gyfres hwyliog Pei Pwmpen (Apollo/Tricorne), ychwanegodd cynlluniau cain yr arlunyddCefyn Burgess olwg unigryw i’r gyfres Seren Fôr (Cwmni Da) a animeiddwyd gan gwmni Griffilms, a bu cyfle i blantryngweithio â’r cymeriad animeiddiedig newydd Bibi (Griffilms) ar y sgrîn a thrwy gyfrwng gwefan arbennig. Denodd ygyfres Rhacsyn a’r Goeden Hud (Fflic) ysgrifenwyr a phypedwyr newydd ynghyd â doniau cyfansoddi arbennig SiônWilliams, ac yn y gyfres Saith (Apollo) dechreuwyd ar y gwaith o ddilyn rhai o’n cynulleidfa ieuengaf yn eu bywydaubob dydd.Mae’r nifer o enwebiadau a gwobrau a ddaeth i rai o’r rhaglenni ar gyfer plant h^yn eleni yn brawf o’r dyfeisgarwchcreadigol sydd wedi datblygu yn y maes hwn. Enillodd Mari (Ann Fôn) wobr Prix Danube ac enwebwyd cyfanswm ochwe rhaglen ar gyfer gwobrau BAFTA Plant y Deyrnas Unedig. Llwyddodd 13’30” o Enwogrwydd (Fflic) i roi cyfrwngi greadigrwydd plant wrth ymweld ag ysgolion ledled Cymru, a dathlodd Uned 5 (Antena) ei 700fed rhaglen. Mae’rberthynas gyda Chyngor Llyfrau Cymru yn cryfhau wrth lawnsio ar y cyd gynllun cyffrous NOFEL-T i greu nofel i’rarddegau dan arweiniad yr awdures Bethan Gwanas. Mae darlledu seremoni wobrwyo Tir na-Nog yn parhau a brafoedd gweld cyfrol Bardd Plant Cymru 2000, (Myrddin ap Dafydd) Jam Coch a Phwdin Reis, yn ennill gwobr eleni.Ym maes drama i blant, roedd aeddfedrwydd y perfformiadau a’r sgriptiau yn y chweched gyfres o Rownd a Rownd(Nant) yn amlwg wrth iddi ymdrin â phynciau perthnasol i’w chynulleidfa darged. Crëwyd cymeriadau comedi newyddyn y gyfres Labordy 54321 (Cwmni Da), aethom i fyd bach y meicrobau trwy gyfrwng effeithiau arbennig y gyfres YMeicrosgop Hud (Elidir) a chafwyd hwyl dychmygus yng nghwmni pypedau unigryw Cawl Potsh (Apollo).Bu tîm cyflwyno Planed Plant yn weithgar drwy’r flwyddyn ar y sgrîn wrth ehangu’r ddarpariaeth o raglenni ar gyferplant yn ystod gwyliau ysgol, ac wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau cyhoeddus fel y Daith Haf a sioeau yn yrEisteddfod Genedlaethol. Cyhoeddwyd llyfr o gerddi un ohonynt, Elen Pencwm, Cerddi Call a Cherddi Gwirion arddiwedd y flwyddyn. Cyhoeddwyd hefyd nofel gan Daniel Glyn, awdur y gyfres Hotel Eddie (Apollo).30

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!