13.07.2015 Views

Dangosyddion Perfformiad Allweddol, Gwasanaeth ... - S4C

Dangosyddion Perfformiad Allweddol, Gwasanaeth ... - S4C

Dangosyddion Perfformiad Allweddol, Gwasanaeth ... - S4C

SHOW MORE
SHOW LESS

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

AnimeiddioDros y Pasg fe ddangoswyd G ^wr y Gwyrthiau (Cart ^wn Cymru), y ffilm animeiddiedig hir ar fywyd yr Iesu, a welwydmewn sinemâu ar draws y byd yn 1999 a 2000, ddwywaith ar <strong>S4C</strong> a chafwyd darllediad o’r fersiwn Saesneg yn yr uncyfnod ar BBC 1. Fe’i gwelwyd unwaith yn rhagor ar <strong>S4C</strong> dros y Nadolig. Dylid nodi hefyd fod sianel ABC yn yr UnolDaleithiau wedi ei dangos am yr eildro. Mae hon yn glasur o ffilm a gallwn ymfalchïo ynddi fel gwaith celf o safon ucheldros ben yn ogystal â bod yn gyflwyniad gafaelgar a gofalus o’r stori a geir yn Efengyl Luc. Mae lleisiau sêr megis IoanGruffudd yn y fersiwn Cymraeg a Ralph Fiennes yn y fersiwn Saesneg yn ychwanegu llawer at lwyddiant y cyfanwaith.Darlledwyd yr ail gyfres o ffilmiau o wahanol wledydd ar draws y byd, Chwedlau’r Byd Wedi eu Hanimeiddio(Amrywiol). Mae’r ffilmiau o’r gyfres gyntaf wedi ennill nifer sylweddol o wobrau mewn gwyliau ar draws y byd, gangynnwys G ^wyl Ryngwladol Banff a BAFTA yn Llundain. Gwelir y gyfres mewn cant o wledydd ac mewn chwe iaith arhugain.Mae <strong>S4C</strong> ar ei phen ei hun ymhlith darlledwyr ym Mhrydain wrth gomisiynu, am y drydedd flwyddyn, gyfres Byrion Byr(Amrywiol). Cynhyrchwyd tri deg o ffilmiau animeiddiedig rhwng 45 eiliad a 6 munud o hyd yn ystod y flwyddyn mewnpartneriaeth gyda Chyngor Celfyddydau Cymru a Sgrîn. Mae’r ffilmiau yma yn rhoi cyfle i animeiddwyr yng Nghymruddatblygu eu crefft ac mae’r safon yn gwella bob blwyddyn.Parhaodd y gwaith cynhyrchu ar Y Mabinogi (Cart ^wn Cymru). Mae’r ffilm bwysig hon yn dod â chwedlau’r Mabinogi ynfyw a bwriedir ei chyflwyno yn y sinema ym mis Tachwedd 2002 i gyd-fynd â phen-blwydd <strong>S4C</strong> yn 20 oed.34

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!