13.07.2015 Views

Dangosyddion Perfformiad Allweddol, Gwasanaeth ... - S4C

Dangosyddion Perfformiad Allweddol, Gwasanaeth ... - S4C

Dangosyddion Perfformiad Allweddol, Gwasanaeth ... - S4C

SHOW MORE
SHOW LESS

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

Rhaglenni NodweddCyfres wych a ddenodd wylwyr o bob oed a chefndir oedd Byd Pws (Nant). Mae Dewi Pws yn gyflwynydd doniol acunigryw gyda’i ddiffuantrwydd yn ennill ffydd y rhai y mae yn eu cyfarfod ar ei deithiau ar draws y byd, yn ogystal âtheyrngarwch gwylwyr. Mae arddull weledol Dudley (Opus), yn ardderchog, gyda’r cogydd poblogaidd yn cyfunosgwrsio hamddenol gyda choginio hawdd ei efelychu. Profodd 04 Wal (Fflic) yn gyfres boblogaidd a safonol wrthfusnesa mewn cartrefi diddorol ac mae’r Clwb Garddio (Cenad) yn denu dilynwyr selog. Mynegwyd peth pryder amarddull a chynnwys y gyfres wyliau Pacio (HTV) a chytunwyd ar nifer o newidiadau ar gyfer y dyfodol. Efallai nad oeddyr eitemau yn Pobol y Glannau (HTV) yn llifo lawn mor llyfn â d ^wr yr arfordiroedd yr ymwelwyd â hwy.Cyfresi HwyrMae yna alw cynyddol i ni ddarparu rhaglenni ar gyfer cynulleidfa ifanc yn hwyrach gyda’r nos. Nos Iau am 10.30 neu11.00 yw’r amser sy’n cael ei ffafrio gennym ar gyfer y math yma o gyflwyniad ar hyn o bryd. Mae’r slot yma yn rhoicyfle i ddatblygu themâu ac arddull a fyddai’n anghymeradwy o bosib gan gynulleidfa oriau brig ond sy’n estyn ffiniau ydiwylliant Cymraeg o safbwynt cynulleidfa ifanc â diddordebau cyfoes a rhyngwladol.Dilyn blwyddyn ym mywyd yr ‘entrepreneur’ Rhys Mwyn oedd Er Mwyn Roc a Rôl (Nant) gan adlewyrchu’r sîn rocCymraeg mewn ffordd ddifyr. Gwelwyd gwellhad sylweddol yn ffigurau gwylio Slaymaker (Cardinal) o symud y rhagleni’r slot newydd. Cyfres yw hon sy’n adolygu ffilmiau a gemau fideo gyda hiwmor a brwdfrydedd. Roedd Procar Poeth(Concordia) yn datgelu’r gwirionedd am fywydau pobl ifanc ar wyliau tramor tra bo Fideomondo (Al Fresco) yn edrychar y difyr a’r abswrd. Roedd Bicini (Boomerang) yn dangos gwahanol wyliau a digwyddiadau yng Nghymru, Prydain acEwrop dros fisoedd yr haf. Cylchgrawn ieuenctid o’r gogledd oedd Hipstar (Bont) ond efallai fod prinder profiad i’wweld yn y cynhyrchu.AdloniantMae wedi profi’n anodd dod o hyd i raglen adloniant gref ar gyfer nos Sadwrn ac eithrio’r hen ffefryn Noson Lawen(Tonfedd/Eryri). Fel yn y gorffennol, mae’r gyfres hon yn ddibynnol ar barhau i ddarganfod talentau proffesiynol acamatur sy’n apelio at y gynulleidfa draddodiadol. Gydag argyfwng y Clwy bu’n rhaid addasu rhywfaint ar Twrio (Pedol)ond llwyddwyd i gynnig amrywiaeth o leoliadau a chreiriau diddorol. Mae Ma’ Ifan ’Ma (Tonfedd/Eryri) yn parhau iapelio yn fawr at gynulleidfa graidd y gorllewin tra bo llwyddiant Ar y Bocs (Al Fresco) yn dibynnu ar ddod o hyd iunigolion dawnus i gystadlu.Mae rhaglenni sy’n tynnu ar archif y gwahanol ddarlledwyr yn profi’n boblogaidd ar sawl sianel y dyddiau hyn. Roeddyna awyrgylch braf i Dyddiau Difyr y Diwifr (Apollo) wrth i Caryl Parry Jones ein harwain drwy hanes cynnar radioCymraeg ac roedd Hoelen yn yr Archif (HTV) yn neidio yn ddifyr o flwyddyn i flwyddyn dan ofal Aled Samuel. Efallaifod y ddwy raglen yma yn enghreifftiau o rai lle mae’r teitl yn rhy astrus i egluro’n syml beth yw eu cynnwys. Siomedigoedd y rhaglen nos Galan Blwyddyn Newydd Dda (Avanti) gydag elfennau anhrefnus ac amrywiaeth rhy eang.Llwyddiant annisgwyl efallai oedd Penwythnos Gethin a Brenda (Apollo) a gomisiynwyd fel pennod unigol o’r gyfresLlwyth o Docs (Apollo). Cafwyd perfformiadau cofiadwy gan Emyr Wyn a Nia Caron fel y prif gymeriadau. Roedd ynaraen hefyd ar Llwyth o Docs a geisiodd arbrofi ym maes anodd comedi pytiog. Yn naturiol roedd rhai cymeriadau yncydio yn well na’i gilydd. Gellid gwneud yr un sylw a rhoi’r un ganmoliaeth i Lolipop ’Steddfod (Boomerang), sioesgetsus arall yn dibynnu’n llwyr ar nodweddion unigryw diwylliant yr Eisteddfod Genedlaethol.Ffarweliwyd â nifer o gyfresi ym maes adloniant gan gynnwys rhai fel y Brodyr Bach (Al Fresco) a Cerdyn Post (AlFresco) sydd wedi llwyddo yn eu hamcanion - gyda’r naill yn dal aelodau o’r cyhoedd mewn sefyllfaoedd sy’n profi euhamynedd a’u hiwmor, a’r llall yn gyfres gwis fywiog – ond sydd wedi cyrraedd diwedd ei hoes naturiol. Roedd eraill ynymdrechu’n galed i ddod o hyd i fformiwlâu neu sefyllfaoedd oedd yn creu diddanwch ond er cystal yr ymdrech mewnsawl achos, profodd yn anodd denu gwylwyr yn wyneb cystadleuaeth ffyrnig. Mae hwn yn faes lle bydd angen sylw amanylder mawr gan bawb sy’n ymwneud ag ef os am lwyddo yn ystod y blynyddoedd nesaf.24

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!