13.07.2015 Views

Dangosyddion Perfformiad Allweddol, Gwasanaeth ... - S4C

Dangosyddion Perfformiad Allweddol, Gwasanaeth ... - S4C

Dangosyddion Perfformiad Allweddol, Gwasanaeth ... - S4C

SHOW MORE
SHOW LESS

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

Rhaglenni FfeithiolCynigiodd y gyfres Ffermio (Telesgôp) wasanaeth cynhwysfawr a gwerthfawr i’r byd amaeth yng Nghymru yn ystodargyfwng Clwy’r Traed a’r Genau. Cynyddwyd y darllediadau i ddwy waith yr wythnos yn ystod y cyfnod mwyafargyfyngus. Denwyd cynulleidfa arbennig o fawr yn ystod wythnosau cynnar y clwy’ gan fod y rhaglen yn ffynhonnellwybodaeth bwysig i amaethwyr pan oedd cael gwybodaeth yn anodd a phrin. Cafwyd cyfweliadau amserol gydaRhodri Morgan a Carwyn Jones, Gweinidog Amaeth y Cynulliad Cenedlaethol.Profodd rhaglenni unigryw Dai Jones Cefn Gwlad (HTV) unwaith eto yn boblogaidd er gwaethaf cystadleuaeth ffyrnigar sianelau eraill. Bu’n rhaid osgoi llawer fferm oherwydd y clwy’ gan ganolbwyntio felly ar unigolion o gefndiroeddmwy amrywiol. Recordiwyd nifer o raglenni yng Ngwladfa Patagonia oherwydd cyfyngiadau saethu yng Nghymru achafwyd rhaglenni llwyddiannus a difyr.Dyma flwyddyn olaf darlledu’r gyfres nosweithiol Heno (Agenda) a fu ar y sgrîn ers deng mlynedd gan ennill llearbennig yng nghalonnau carfan bwysig o’n gwylwyr. Bu’r ymgyrch i godi arian ar gyfer apêl <strong>S4C</strong>, sef SefydliadPrydeinig y Galon, yn arbennig o lwyddiannus. Rhaid diolch yn arbennig i Ena Thomas a Roy Noble am eu cyfraniadhir a phwysig i <strong>S4C</strong> trwy gyfrwng y rhaglen. Parhaodd Y Sioe Gelf (Cwmni Da) i adlewyrchu gweithgareddau adigwyddiadau ym myd y celfyddydau yng Nghymru. Mae safon y rhaglenni’n gyson uchel ac yn diwallu angheniongwylwyr sydd â diddordeb yn y maes. Mae’r rhaglen Croma (Cwmni Da) ar y gwasanaeth digidol yn cynnig cyfle idreiddio’n ddyfnach i’r celfyddydau.Cryfder Ysbyty Gwynedd (Cardinal) yw’r cymeriadau diddorol sydd yn gweithio yn yr ysbyty yn ogystal, wrth gwrs, â’rdiddordeb yn nhriniaeth y cleifion. Dilynodd Pobol y Pyjamas (Apollo) hynt a helynt gweithwyr ffatri pyjamas yn y Bala.Roedd y gyfres yn ddarlun effeithiol a difyr o fywyd a gwaith bob dydd mewn tref Gymraeg. Un o gyfresi “pry ar y wal”mwyaf llwyddiannus y sianel oedd Ocsiwniar (Solo), cyfres yn dilyn cymeriadau ffraeth cwmni Evans Brothers oLanybydder wrth werthu anifeiliaid, tai a chelfi. Roedd Ydi Coleg yn Grêt? (Ci Diog) yn llai llwyddiannus fel dilyniant“pry ar y wal” gan fod y cymeriadau efallai’n rhy ifanc i fedru dadlennu eu hunain mewn ffordd ddifyr i’r gwylwyr. Efallaifod apêl Teulu’r Tymbl (Telesgôp) yn rhy gyfyngedig i drigolion yr ardal ei hun.Yng nghanol y clwy’ roedd hi’n braf gweld rhywfaint o gyfoeth cefn gwlad wrth i Iolo Williams dywys ei westeion hydlwybrau Cymru yn Crwydro (Telesgôp). Mae gan Iolo ddawn naturiol fel cyflwynydd a chyfathrebwr. Anwastad eisafon oedd Gwaed Ar Eu Dwylo (Telegraffiti) oedd yn ymdrin â llofruddiaethau yng Nghymru. Cafwyd problemau wrthi unigolion dynnu eu caniatâd i saethu yn ôl. Syniad diddorol oedd Adar Drycin (Ffilmiau Tawe i’r BBC) a oedd ynymwneud ag adar brith o Gymru. Roedd ambell raglen fel yr un ar H M Stanley yn taro deuddeg tra bod y portread oGeorge Thomas yn cael ei hystyried yn anghyflawn gan rai. Roedd Fodca Maffia Moskva (Apollo) yn syniad ffresgyda Gwenllian Jones yn cyflwyno Rwsia heddiw, ddeng mlynedd wedi cwymp comiwnyddiaeth, mewn ffordd ifanc abywiog. Roedd Lle Neis i Blant (Hon) yn gyfraniad pwysig i’r drafodaeth ar effaith mewnfudo o Loegr ar gymdeithasGymraeg y Gymru wledig. Roedd gan y cynhyrchydd reolaeth sensitif ac effeithiol dros y cynnwys anodd hwn ac fedrawodd sawl tant gyda’r gwylwyr. Oherwydd y clwy’ ymwelodd y Sioe Fach (Telesgôp) â sioeau dros y ffin yn Lloegrond llwyddwyd i gael llawer o siaradwyr Cymraeg i gyfrannu. Daeth y gyfres cwrs Talk About Welsh i ben anewidiwyd y pwyslais yn ein rhaglenni dysgu Cymraeg gyda Welsh in a Week (Fflic). Cafwyd ymateb cadarnhaol iawni’r gyfres hon sy’n dilyn ymdrechion unigolion i feistroli digon o’r iaith i gyflawni tasgau pwrpasol yn gyflym. Mae’rcyflwynydd Nia Parry yn defnyddio hiwmor a chynhesrwydd ac yn sefydlu perthynas effeithiol gyda’i disgyblion. RoeddDysgwr y Flwyddyn (HTV) yn dilyn fformat helfa drysor o amgylch tref yr Eisteddfod mewn ffordd hwyliog a difyr.26

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!