13.07.2015 Views

Dangosyddion Perfformiad Allweddol, Gwasanaeth ... - S4C

Dangosyddion Perfformiad Allweddol, Gwasanaeth ... - S4C

Dangosyddion Perfformiad Allweddol, Gwasanaeth ... - S4C

SHOW MORE
SHOW LESS

Create successful ePaper yourself

Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.

CYDYMFFURFIAETH DARLLEDU A CHWYNIONMae’n gyfrifoldeb ar Awdurdod S4C, fel corff rheoleiddio’r sianel, i sicrhau bod y gwasanaethau rhaglenni yncydymffurfio â’r codau rheoleiddio perthnasol a gofynion statudol eraill a osodir gan y Deddfau Darlledu. Ymhellach i’rdyletswydd yma, mae’r Awdurdod yn cyhoeddi canllawiau ei hun ar gyfer cyflenwyr rhaglenni ar weithredu codau’rComisiwn Teledu Annibynnol (ITC). Mae’r canllawiau yn mynd tu hwnt i godau’r ITC mewn perthynas â rhai agweddauarbennig o’r gwasanaeth rhaglenni, megis polisi iaith, sydd yn benodol i S4C.Mae’r drefn reoleiddio fewnol sy’n cael ei gweithredu gan brif swyddogion rhaglenni gyda chefnogaeth gyfreithiol, yncael ei hatgyfnerthu gan wasanaeth arolygu allanol. Mae’r gwasanaeth monitro yn cael ei ddarparu gan SefydliadThomson ar y cyd â’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth. O dan delerau’rtrefniant hwn, mae holl arlwy Cymraeg S4C ar ei gwasanaeth analog yn cael ei arolygu gan dîm monitro sydd hefyd ynarolygu gwasanaeth digidol S4C. Mae’r tîm hefyd yn ystyried agweddau cydymffurfiaeth sy’n codi o ail amserurhaglenni Channel 4 ar S4C. Mae adroddiadau misol y tîm yn cael eu hystyried gan Gr ^wp Cydymffurfiaeth S4C, sydd âchadeirydd annibynnol, ac sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r gr ^wp monitro, yn ogystal â phrif staff perthnasol S4C.Mae Cadeirydd y Gr ^wp Cydymffurfiaeth yn cyflwyno adroddiadau i Awdurdod S4C bob mis ar berfformiad ygwasanaeth rhaglenni yng nghyd-destun materion rheoleiddio. Mae’r adroddiadau yn ystyried materion ar gydbwyseddgwleidyddol, chwaeth a gwedduster, trais, defnydd iaith ac unrhyw faterion perthnasol eraill.Yn ogystal, yn ystod 2001 paratowyd adroddiadau arbennig ar gyfer ystyriaeth yr Awdurdod ar y sylw a roddwyd igynadleddau’r pleidiau gwleidyddol ac Etholiad Cyffredinol San Steffan. Yn y ddau achos roedd yr Awdurdod yn fodlonbod y darlledu wedi bod yn ddiduedd, cytbwys a theg.Mae’r materion mwyaf difrifol sy’n deillio o’r gweithgareddau arolygu yn cael eu cyfeirio at yr Awdurdod. Cyhoeddirpenderfyniadau’r Awdurdod ar achosion o dramgwyddo difrifol yn yr Adroddiad Blynyddol. Tra cyfeiriwyd chwe achosyn ystod 2001, penderfynodd yr Awdurdod nad oedd unrhyw un ohonynt yn cyfiawnhau bod camau pellach yn cael eucymryd.Mae hawl gan y cyhoedd i gwyno’n uniongyrchol at Awdurdod S4C yngl^yn â materion cydymffurfiaeth. Yn ystod 2001,dim ond un g ^wyn o’r fath a gyfeiriwyd at Bwyllgor Cwynion yr Awdurdod. Daeth y g ^wyn oddi wrth Gyngor SirCaerfyrddin parthed y bennod o’r gyfres materion cyfoes Y Byd ar Bedwar a ddarlledwyd ar 5 Mehefin 2000. Byrdwncwyn y Cyngor oedd nad oedd y rhaglen dan sylw yn gytbwys nac yn ddiduedd. Teimlodd y Cyngor hefyd fod y moddyr oedd gwneuthurwyr y rhaglen wedi ‘rhuthro’ at Arweinydd y Cyngor i geisio cael cyfweliad wedi bod yn annerbyniol.Yn ei gasgliadau, a gafodd eu cymeradwyo gan yr Awdurdod llawn, dywedodd y Pwyllgor ei fod yn fodlon fod y rhaglendan sylw yn bwnc o ddiddordeb cyhoeddus oedd yn haeddu cael ei drafod ar y pryd ac iddi fod yn deg â Chyngor SirCaerfyrddin. Penderfynodd y Pwyllgor hefyd bod ymgais gwneuthurwyr y rhaglen i geisio cyfweliad gydag Arweinydd yCyngor yn cwrdd â gofynion y côd rhaglenni. Penderfynodd yr Awdurdod, felly, i beidio â chymryd camau pellach yn ymater hwn.Mae’r Comisiwn Safonau Darlledu hefyd ag awdurdod dros y rhaglenni a ddarlledir ar S4C. Yn ystod 2001, feddedfrydodd y Comisiwn ar gwynion mewn perthynas â’r canlynol:Yn Erbyn y Wal a ddarlledwyd ar 30 Tachwedd 2000 – Chwaeth a gwedduster – Nid oedd y g ^wyn yn ddilysTaro Naw a ddarlledwyd 9 Hydref 2000 – Triniaeth Annheg - Dilys yn rhannolBrass Eye Special a ddarlledwyd ar 26 Gorffennaf 2001 – Chwaeth a Gwedduster; Trosedd; Camdrin plant – Dilys ynrhannol48

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!