13.07.2015 Views

Dangosyddion Perfformiad Allweddol, Gwasanaeth ... - S4C

Dangosyddion Perfformiad Allweddol, Gwasanaeth ... - S4C

Dangosyddion Perfformiad Allweddol, Gwasanaeth ... - S4C

SHOW MORE
SHOW LESS

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

Gwyliau a DigwyddiadauSiom enbyd oedd y ffaith i drefnwyr Eisteddfod yr Urdd a’r Sioe Amaethyddol Frenhinol orfod canslo’r ddauddigwyddiad oherwydd Clwy’r Traed a’r Genau. Mewn cydweithrediad agos gydag Urdd Gobaith Cymru aethpwyd ati idrefnu G ^wyl yr Urdd (Opus/Antena) a rhaid canmol pawb a fu’n ymwneud â’r gwaith wrth ymateb i’r her o sefydlu g ^wylnewydd ar gyfer y teledu, mewn dwy ganolfan wahanol, o fewn ychydig wythnosau. Sylfaen y trefniant oedd gwahoddenillwyr y gorffennol diweddar i gystadlu o flaen cynulleidfa. Daliwyd awyrgylch Eisteddfod Gydwladol Llangollen(Opus) i’r dim gan daro cydbwysedd effeithiol rhwng cyflwyno gwybodaeth a chyflwyno adloniant, rhwng rhoi dimensiwnCymreig ac adlewyrchu natur ryngwladol yr ^wyl. Dyma’r tro cyntaf i Nia Roberts gyflwyno oddi yno gan wneud eigwaith gyda’r graen arferol, gan gynnwys cynnal cyfweliadau yn Ffrangeg ac Eidaleg.Cafwyd gwasanaeth cynhwysfawr yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau (BBC) ar draws ygwasanaeth analog a digidol. Un pryder yw fod gwylwyr teledu analog yn teimlo nad ydynt yn cael cymaint o’r cystadlubyw ag yr arferent ei gael – un o sgîl effeithiau, mae’n ymddangos, cynnal seremonïau ar ddiwedd y dydd.Cafwyd rhaglen o uchafbwyntiau Sioe Aeaf Llanelwedd (Telesgôp) ynghyd â rhifyn arbennig o Ffermio ac am yr ailflwyddyn yn olynol darlledwyd cystadlu’r nos o’r ^Wyl Gerdd Dant (Tonfedd/Eryri) mwy neu lai ar ei hyd, a hynny’ngelfydd a diymdrech.DigidolMae’r darllediadau byw o’r gwahanol wyliau ar <strong>S4C</strong> Digidol bellach wedi ennill eu plwyf er fod yna lai o wyliaucenedlaethol eleni. Roedd Alwyn Humphreys yn feistr ar y gwaith o lywio’n hamddenol yn ystod cystadlu EisteddfodLlangollen a’r Eisteddfod Genedlaethol a chafodd Hywel Gwynfryn flas ar wneud yr un gwaith yn yr ^Wyl Gerdd Dant.Mae P’nawn Da (Agenda) yn datblygu’n fan cyfarfod deniadol rheolaidd, ac mae Croma (Cwmni Da) yn rhoi llwyfan idrafodaeth sylweddol ar y celfyddydau bob nos Wener. Mae Bandit (Boomerang) yn ennill parch ymysg y to iau gydagIan Cottrell yn creu enw iddo’i hun fel awdurdod ar ganu Cymraeg. Cafwyd ambell i sg ^wp ryngwladol yn ogystal â bodyn driw i’r sîn Gymraeg. Mae Du a Gwyn (HTV) yn cynnal trafodaeth estynedig ar bynciau llosg y dydd tra bo Hacio(HTV) yn rhoi cyfle i griw o newyddiadurwyr ifanc gymryd golwg wahanol ar bethau. Mae yna werthfawrogiad hefyd isafon y chwarae yn Le Rygbi (Agenda) lle ceir holl uchafbwyntiau pencampwriaeth rygbi Ffrainc.Mae’r cyfleoedd ychwanegol sydd yna i fwynhau yr arlwy cyfoethog i blant, drwy’r oriau estynedig ar ddigidol, hefyd yncael eu gwerthfawrogi.Wrth adolygu blaenoriaethau’r holl wasanaeth, yng ngoleuni’r cyllid sydd ar gael, penderfynwyd dod â rhai cyfresidigidol i ben. Bu Cwmni Hon (Hon) wrthi’n ddiwyd am dros dair blynedd yn ceisio sefydlu lle i gylchgrawn canol dydd ifenywod ym mhob rhan o Gymru, tra oedd Byd Natur (Telesgôp) yn darparu chwarter awr dyddiol o newyddion am fydnatur a’r amgylchfyd.36

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!