13.07.2015 Views

Dangosyddion Perfformiad Allweddol, Gwasanaeth ... - S4C

Dangosyddion Perfformiad Allweddol, Gwasanaeth ... - S4C

Dangosyddion Perfformiad Allweddol, Gwasanaeth ... - S4C

SHOW MORE
SHOW LESS

Create successful ePaper yourself

Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.

YMWNEUD Â’N GWYLWYRMae S4C yn naturiol yn dymuno i bawb yng Nghymru deimlo perthynas â’r gwasanaethau mae’n eu cynnig. Rhaid i’rberthynas â’r gwyliwr unigol fod yn gadarn ac yn ddyfnach byth yn y dyfodol os yw’r gwasanaethau am gystadlu ynllwyddiannus yn yr oes aml sianelog.Mae gwerthfawrogi a deall y pethau hynny sy’n bwysig i’n gwylwyr, a bod yn rhan o fywyd cymunedau Cymru, ynthema ganolog yng ngwaith yr adrannau yn S4C sydd yn ymwneud â materion corfforaethol, marchnata a’r wasg.Nosweithiau GwylwyrCynhaliwyd nosweithiau ar gyfer gwylwyr yn y Rhyl, Y Drenewydd, Castell-nedd a Phorthmadog, gyda’r bwriad o roicyfle i gymaint o bobl a phosibl holi’r Cadeirydd, Y Prif Weithredwr a’r Cyfarwyddwr Rhaglenni ar wahanol agweddau arwaith S4C. Gwnawn ymgais i adlewyrchu blaenoriaethau a natur yr ardaloedd hyn yn ffurf y cyflwyniadau, ac mae’rmaterion a godwyd gan y cyhoedd yn amrywio o ddyfodol darlledu, triniaeth o chwaraeon a chynnwys cyfresi drama ibolisi iaith y Sianel. Unwaith eto cynhaliodd y Cadeirydd sesiwn holi ac ateb fywiog yn Siop Siarad S4C ar y we.Materion CorfforaetholMae S4C yn awyddus i chwarae ei rhan yn llawn yn y drafodaeth yngl^yn â dyfodol darlledu yn y Deyrnas Unedig acrydym wedi cyflwyno ein hymateb i Bapur Gwyn y Llywodraeth ar ddyfodol cyfathrebu ac wedi derbyn gwahoddiadauamrywiol eraill i gyfrannu at y drafodaeth gyhoeddus.Fel darlledwr cyhoeddus, mae S4C yn cydnabod bod ganddi gyfrifoldeb arbennig i sicrhau ei bod yn ymatebol ac yndryloyw. Rydym wedi trefnu cyflwyniadau yngl^yn â’n gwaith a’n dulliau gweithredu i wleidyddion a phleidiau yngNghaerdydd a San Steffan. Rydym wedi cyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, naill ai yn ysgrifenedig neu ar lafar,dystiolaeth yngl^yn â chyfraniad S4C i’r economi yng Nghymru yn ogystal â chyfrannu sylwadau ar adolygiad yCynulliad ar yr Iaith Gymraeg a’r adolygiadau polisi ar gyfer y celfyddydau a diwylliant yng Nghymru.Gwifren Gwylwyr S4CGwifren Gwylwyr S4C yw’r ffordd hawsaf a mwyaf uniongyrchol o gysylltu ag S4C. Mae rhywun ar gael i dderbyngalwadau drwy’r flwyddyn o 9.00 yb tan 10.00 yh gyda gwasanaeth neges ffôn dros nos.Yn ystod 2001 deliodd y wifren â chyfanswm o 13,859 o alwadau, llythyrau, negeseuon ffacs ac e-byst. Roedd ycyfartaledd wythnosol o 267 ychydig yn is na’r 279 a dderbyniwyd yn 2000. Fodd bynnag, roedd yna newid yn natur ypynciau oedd yn derbyn sylw’r gwylwyr. Mae ymholiadau yngl^yn â theledu digidol, oedd wedi cynyddu yn fawr dros ytair blynedd flaenorol, yn parhau i gynyddu ond ar raddfa lai. Mae natur yr ymholiadau yngl^yn â theledu digidol hefydwedi newid wrth i wylwyr ymgyfarwyddo â’r gwahanol wasanaethau sydd ar gael ar deledu analog a digidol ganadlewyrchu, o bosibl, gynulleidfa ddigidol fwy aeddfed yng Nghymru.Cynyddodd nifer yr ymholiadau a dderbynnir yn yr iaith Gymraeg o 33% i 38%. Yn unol â phatrwm y llynedd, parhaoddnifer y llythyrau i ostwng – i lawr 4% o gymharu â 2001, gyda chyfathrebu trwy gyfrwng e-bost yn tyfu yn eiboblogrwydd.42

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!