cylchgrawn
Rhifyn 47 Haf 2004 - Cyd
Rhifyn 47 Haf 2004 - Cyd
You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Cadwyn_16pp_47.qxd 27/5/04 10:20 am Page 1

Rhifyn 47 Haf 2004

Am ddim/Free

Y cylchgrawn i siaradwyr a dysgwyr

The magazine for Welsh

y Gymraeg

speakers and learners

CYD

Tudalen/Page 3

Penwythnos Cyd ar y cyd â Nant

Gwrtheyrn

Tudalen/Page 4

Enillydd Cystadleuaeth Merched y

Wawr

Tudalen/Page 5

Cymru _ Cuba (llun y clawr)

Tudalen/Page 7

Enillydd Tlws Coffa Robina

Tudalen/Page 8

Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Tudalen/Page 10/11

Penwythnos Cyd Glan-llyn

Cyhoeddir 15,000 o Cadwyn

Cyd bedair gwaith y

flwyddyn fel arfer. Cyfle

gwych i hysbysebu

BWRDD

YR IAITH

GYMRAEG

WELSH

LANGUAGE

BOARD
Cadwyn_16pp_47.qxd 27/5/04 10:21 am Page 2

ad

Llywydd Anrhydeddus

Yr Athro Bobi Jones

Cadeirydd

Mary Burdett-Jones

Is-Gadeirydd

Kathryn Hughes

Trysorydd

Emyr-Wyn Francis

Ysgrifennydd Cyffredinol a Chadeirydd yr Is-Bwyllgor

Marchnata a Chyhoeddi

Glyn Saunders-Jones

Rheolwr Swyddfa

Jaci Taylor (01970) 622143 e-bost: jct@aber.ac.uk

Rheolwr y Gogledd a’r Canolbarth

Rhodri Francis (01970) 628599 e-bost: rhf@aber.ac.uk

Rheolwr y De

Martin Davies (01554) 776587 e-bost: davieswizlet@aol.com

Swyddfa Cyd Office

10 Maes Lowri, Aberystwyth, Ceredigion

SY23 2 AU

Ffôn/Ffacs: 01970 622143

e-bost: cyd@aber.ac.uk

y we: www.aber.ac.uk/cyd

Mae Cadwyn Cyd yn ymddangos bedair gwaith y flwyddyn.

Dyddiadau cyhoeddi arferol: Mawrth, Mehefin, Medi, Tachwedd

Mae Cyd yn elusen gofrestredig rhif 518371.

Cefnogir gwaith Cyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.

Cyhoeddwyd gan/Published by: Cyd, 10 Maes Lowri, Aberystwyth,

Ceredigion SY23 2AU.

Argraffwyd a dyluniwyd gan/Printed and designed by: Cambrian Printers

Swyddog Datblygu newydd Cyd yn Sir

Gaerfyrddin a Chwm Tawe yw John Dixon.

Mae John o Gaerdydd yn enedigol, a dysgodd

e'r Gymraeg yn y 70au cynnar. 'Roedd e'n byw

yn Ninas Powys, ym Mro Morgannwg, tan 1991,

pan symudodd e a'i deulu i fyw yn ardal

Llanpumsaint. Tan yn ddiweddar, bu'n

gweithio i gwmni ymgynghori rhyngwladol, ond

mae bellach yn gweithio’n rhan amser i Cyd a rhan amser ar

ei liwt ei hun fel ymgynghorydd. Mae hefyd yn gwneud

rhywfaint o gyfieithu, ac yn diwtor dosbarth Cymraeg i

Oedolion yn Alltwalis. Mae ei wraig Fran hithau wedi

dysgu'r Gymraeg trwy gwrs Wlpan, hefyd yn y 70au, ac mae

ganddynt dri o blant.

Mae e wrthi ar hyn o bryd yn cwrdd â'r gwahanol grwpiau

ac aelodau Cyd yn ei ardal, ac yn gobeithio cychwyn

grwpiau newydd yn y dyfodol agos hefyd. Mae'n bwriadu

cyd-weithio yn agos gyda'r gwahanol fentrau iaith er mwyn

gwneud y gorau o'r adnoddau prin sydd ar gael.

2

Gair o’r Gadair

Parch ar y ddwy ochr yw’r allwedd i’r berthynas

rhwng y gymuned Gymraeg a’r dysgwyr. Nod Cyd

yw integreiddio dysgwyr yn y gymuned honno yn

hytrach na’u cymathu. Mewn traethawd prifysgol

diffiniodd Cynog Dafis integreiddiad drwy ddweud

bod ‘unigolyn (neu deulu) yn cymryd ei le’n

esmwyth, heb dyndra na gwrthdaro o bwys, mewn cymdeithas y daw iddi o’r

tu allan, ond heb o anghenraid golli ei wahanolrwydd na’r priodoleddau a’i

gwnâi’n bosibl ei adnabod fel “dyn d˘ad” (neu “deulu d˘ad”)’.

Mae Cynog Dafis yn diffinio cymathiad fel ‘[p]roses fwy radicalaidd o

dipyn, sef bod y dyfodiad yn mewnoli gwerthoedd a phriodoleddau y

gymdeithas sy’n ei dderbyn, i’r fath raddau fel iddo ddod yn fwyfwy anodd

ei adnabod fel person a darddodd o gymdeithas arall. Gellir cael graddau o

gymhathiad (sic); go anaml, os o gwbl, y cwblheir yr ail broses gyda

dyfodiad o oedolyn.’

Nod Cyd yw integreiddio, sydd nid yn unig yn fwy realistig ond hefyd yn

cydnabod bod gan y dysgwr rywbeth i’w gyfrannu i’r gymuned Gymraeg.

Yn ôl un tiwtor beth mae dysgwyr yn ei roi iddi hi yw eu gobaith a’u hyder

ynglfln â dyfodol yr iaith Gymraeg. Gan fod y gymuned Gymraeg yn

datblygu’n gyflym gyda phobl yn symud mwy gyda’u gwaith, mae’n haws i

ddysgwyr gael eu derbyn. Mae’r dysgwyr yn awyddus iawn i fod yn rhan

o’r prosiect cenedlaethol o adfer yr iaith Gymraeg ym mhob rhan o Gymru.

Cyfrannu a derbyn. Fe roddodd y diweddar Tudor Henson, a oedd wedi

dysgu Cymraeg yn eithriadol o dda ei hunan, lawer drwy siarad â dysgwyr

ar Gynllun Pontio Cyd. Fe gafodd gymaint o bleser wrth wneud fel y

rhoddodd ei weddw, Nia Henson, rodd o £250 i gangen Cyd Aberystwyth er

cof amdano. Mae rhoddion fel hyn yn galonogol iawn i ni ac rydym yn

ddiolchgar iawn iddi.

Braf yw cael cyfle i ddiolch hefyd i Ann Jones sydd wedi ymddeol fel

Ysgrifennydd Cangen Cyd Aberystwyth ar ôl blynyddoedd lawer o

wasanaeth i Cyd gyda chefnogaeth ei g˘r Gwyn. Wedi byw am flynyddoedd

yn Llundain, doedd Ann ei hunan ddim yn hyderus wrth siarad Cymraeg ond

mae gwirfoddoli gyda Cyd wedi ei helpu hi hefyd. Mae Ann wedi

trosglwyddo’r gwaith yn llwyddiannus iawn i Linda Gay ac eraill.

A hoffech fod yn Ymddiriedolwr Cyd? Mae angen Trysorydd arnom, ac

rydym yn awyddus i gael pobl o wahanol rannau o Gymru. Os ydych yn

fodlon teithio i Aberystwyth ar gyfer cyfarfodydd tua pum gwaith y

flwyddyn (telir treuliau), cysylltwch â ni a dywedwch pa sgiliau a phrofiad

sydd gennych i’w cynnig.

A Word from the

Chair

Respect on both sides is the key to the relationship between the Welshspeaking

community and the learners. Cyd’s aim is to integrate learners

into that community rather than to assimilate them. In a university thesis

Cynog Dafis defined integration as ‘an individual (or a family) taking his or

her (or its) place comfortably, without tension or significant conflict, in a

society to which he or she (or it) comes from outside, without necessarily

losing his or her (or its) distinctness or the characteristics which make it

possible to recognize him or her (or it) as a ‘newcomer’ (or ‘newcomer

family’).

Cynog Dafis defines assimilation as ‘a much more radical process, whereby

the incomer internalizes the values and characteristics of the society which

accepts him or her, to such a degree that it becomes more and more difficult

to recognize him or her as someone who comes from another society. There
Cadwyn_16pp_47.qxd 27/5/04 10:23 am Page 3

are degrees of assimilation; only rarely, if at all, is the second process

completed in the case of an adult.’

Cyd’s aim is integration, which is not only more realistic but also

recognizes that the learner has something to contribute to the Welshspeaking

community. According to one tutor what learners give her is

their hope and faith in the future of the Welsh language. As the Welshlanguage

community is itself changing fast as people move about more

with their work, it is easier for learners to be accepted. Learners are

eager to be part of the national project of restoring the Welsh language in

every part of Wales.

Contributing and receiving. The late Tudor Henson, who had learnt

Welsh exceptionally well himself, gave a great deal by talking to learners

on Cyd’s Bridging Scheme. He gained so much pleasure from it that his

widow, Nia Henson, gave a gift of £250 to the Aberystwyth branch of Cyd

in his memory. Such gifts are very encouraging to us and we are very

grateful to her.

I am glad to have this opportunity to thank also Ann Jones who has retired

as Secretary of the Aberystwyth branch of Cyd after many years of service

with the support of her husband Gwyn. Having lived for years in London,

Ann was not very confident when speaking Welsh and voluntary work with

Cyd has helped her as well. Ann has transferred the work very

successfully to Linda Gay and others.

Would you like to be a Trustee of Cyd? We need a Treasurer, and we are

keen to have people from different parts of Wales. If you are willing to

travel to Aberystwyth for meetings about five times a year (we pay

expenses), do get in touch with us and tell us what skills and experience

you have to offer.

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

Cyd

Annual General Meeting

Gorffennaf 24 July 2004

Yr Hen Goleg, Aberystwyth

Cofiwch fod pob Cefnogwr Cyd â’r hawl i bleidleisio

Remember that every Cyd Supporter has the right to vote

PWYSIG

Nid yw grwpiau sydd heb dalu’r tâl cofrestru cangen yn

cael eu diogelu gan yswiriant Cyd. Cofrestrwch nawr!

IMPORTANT

Groups which have not paid their branch registration fee

are not covered by Cyd insurance. Register now!

PENWYTHNOS CYD AR Y CYD Â

NANT GWRTHEYRN

29 – 31 Hydref 2004

Taith Gerdded ac Arferion Calan Gaeaf gyda Twm Elias

Ysgrifennu Creadigol gydag Eleri Llywelyn Morris

Gwersi Cymraeg bore Sadwrn a bore Sul

£95 llety llawn

£75 hunanddarpar gan gynnwys swper nos Wener

Am fanylion pellach a ffurflen archebu cysylltwch â

Rhodri Francis 01970 628599 rhf@aber.ac.uk

neu Jaci Taylor 01970 622143 jct@aber.ac.uk

Ysgoloriaeth Dan Lynn James 2004

Cafodd y bobl ganlynol (following people) ysgoloriaeth eleni –

llongyfarchiadau (congratulations) i bob un ohonoch chi (to each one of

you).

Anne Holly £150, Helen Evans £50, Siân Lewis £50, Ian Debeddyn £50,

Helen Gwyddanes £50, Mrs Margaret Lowe £50, Lavern Bailey £50,

Rebecca Edwards £50

Dyma ddau o’r llythyrau o ddiolch mae Cyd wedi’u derbyn. Here are

two of the letters of thanks Cyd has received.

Annwyl Cyd,

Diolch yn fawr iawn am eich llythyr. Rydw i’n ddiolchgar

iawn i’r panel. Rydw i’n edrych ymlaen at y cwrs. Dyma

lun ohono i. Yn gywir iawn Anne Holly, Aberystwyth

Bydd Anne yn mynd ar gwrs Cymraeg yn Llanbedr Pont

Steffan am 8 wythnos yn yr haf.

Annwyl Cyd

Diolch yn fawr am eich llythyr chi am Ysgoloriaeth Dan Lynn James.

Dan ni wedi cysylltu â Nant Gwrtheyrn. Mae ’na le ar y cwrs i’r ddau

ohonon ni (for both of us), felly dan ni’n edrych ymlaen at fynd. Yn

gywir iawn Ian Debeddyn a Helen Gwyddanes

Caernarfon

Mae Ian a Helen yn mynd ar gwrs ysgythru

sychbwynt (dry point etching) drwy gyfrwng

y Gymraeg yn yr haf.

3
Cadwyn_16pp_47.qxd 27/5/04 10:59 am Page 4

G˘yl Merched y Wawr 2004

Cystadleuaeth y Dysgwyr - paratoi tâp rhwng 5 a 10

munud gydag Aelod o Ferched y Wawr yn holi.

Mike Hughes oedd y beirniad, enillydd gwobr “Tlws y

Dysgwyr”, Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau.

Dwedodd mai’r rhai mwyaf llwyddiannus oedd y dysgwyr sy’n

ymdoddi i’r gymdeithas trwy ymaelodi â gwahanol fudiadau ac

yn gwneud defnydd cyson o’r iaith.

Yn fuddugol Nick Dunkley, holwraig Medi James,

Cangen Tal-y-bont, Ceredigion

Sgwrs gwbl naturiol rhwng dwy sy’n casglu a pharatoi

deunydd i’r Papur Bro. Trafodwyd natur yr erthyglau a

gasglwyd, pwy sy’n gyfrifol am beth, o ble maen nhw’n cael

erthyglau/newyddion o fis i fis, a’r profiad o ddefnyddio y

camera digidol. Roedd yn ceisio meddwl am ffyrdd o ddenu

dysgwyr i fod yn rhan o’r broses o baratoi papur bro a denu

cynulleidfa o ddarllenwyr newydd. Mae’n canmol cefnogaeth

y Cymry Cymraeg ac yn diolch iddynt am eu cefnogaeth.

Yr 2il oedd Jane Greene, yr holwraig oedd Stella

Treharne, Cangen Pont-y-berem

Roedd Jane yn sôn am ei chefndir. Dechreuodd ddysgu

Cymraeg ar y cwrs WLPAN yn 2000 yn Llanelli. Er bod ei

thad a’i mam yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf cafodd hi a’i

brawd eu magu yn ddi-Gymraeg yn Nyfnaint. Mae’n manteisio

ar bob cyfle i siarad Cymraeg â’i phlant sy’n mynychu yr

Ysgol Gynradd yn y Tymbl, sy’n rhugl yn y Gymraeg. Mae’n

gweithio yn Cwtsh y Gloyn, lle mae cael cyfle i gwrdd â llawer

o bobl a phlant a thrafod llyfrau Cymraeg.

Y 3ydd oedd Linda Gay, yr holwraig oedd Mary Thomas,

Cangen Rhydypennau

Cafwyd hanes y teulu’n symud i ardal Aberystwyth ar ddiwedd

y 70au oherwydd gwaith ei g˘r. Dyna pryd y dechreuodd

ddysgu Cymraeg. Yn 1996 symudon nhw i Gaergrawnt a byw

yno am 5 mlynedd ond roedd hiraeth arnynt a dychwelyd yn ôl

i Bow Street. Hi yw Ysgrifenydd Cangen Cyd Aberystwyth ac

mae’n trefnu rota o siaradwyr rhugl i ddwad i sgwrsio efo’r

dysgwyr. Mae’n falch o’r cyfle i sgwrsio yn Gymraeg efo’i

chymdogion a’r siopwyr yn ei bro.

MERCHED Y WAWR A CHLYBIAU GWAWR

MUDIAD CENEDLAETHOL I FERCHED CYMRU

1 Pwy yw Merched y Wawr?

Merched o bob oedran

Croeso cynnes i ferched sy'n dysgu Cymraeg i ymuno.

2. Ble mae'r canghennau?

Mae dros 275 o ganghennau a chlybiau yng

Nghymru, ac yn sicr mae cangen

neu glwb lleol i chwi. Cysylltwch â'r Ganolfan

Genedlaethol am fwy o fanylion ar y rhif ffôn

canlynol 01970 611661

3. Pryd mae'r clybiau a'r canghennau yn cyfarfod?

Unwaith y mis gan amla er mae llawer o

weithgareddau ychwanegol yn cael ei

cynnal yn ystod y flwyddyn.

4. Beth mae nhw'n wneud?

Pob math o bethau! - Coginio, crefftau, ciniawa,

teithiau, chwaraeon, darlithiau, cynorthwyo

elusennau eraill, canu, cwisiau, pryd ar glud - CHI

fydd yn penderfynu.

5. Pam ddylwn i ymuno?

Dyma gyfle i gymdeithasu a gwneud rhywbeth

cadarnhaol trwy gyfrwng y Gymraeg. Dyma gyfle i

hyrwyddo Cymreictod yn eich ardal chi a chael

hwyl wrth wneud hynny.

6. Mae Merched y Wawr yn ymgyrchu dros

hawliau'r iaith Gymraeg a hawliau merched.

Maent yn:

cyhoeddi cylchgrawn ‘Y Wawr’

wedi sefydlu ysgolion meithrin

cefnogi yr ymgyrchoedd dros S4C a Deddf Iaith

Coffâu'r Dywysoges Gwenllian

adnewyddu tfl'r anabl yn Nant Gwrtheyrn

codi arian at gancr y fron

cefnogi gwragedd fferm Cymru

tapio casetiau ar gyfer y deillion

addysgu am warchod ein amgylchedd

7. Mae llawer iawn o ddysgwyr sy’n ymuno â

Merched y Wawr yn mwynhau cymdeithasu.

Beth am ymuno yn yr hwyl?

Cysylltwch â Canolfan Genedlaethol Merched y

Wawr, Stryd yr Efail,

Aberystwyth, Ceredigion SY23 1JH

Ffôn: 01970 611661 Ffacs: 01970 626620

Mike Hughes, Nic Dunkley, Medi James

4
Cadwyn_16pp_47.qxd 27/5/04 10:26 am Page 5

T a i t h f e i c i o C y m r u - C u b a

Mae Jenny Pye newydd ddod yn ôl o Cuba lle mae hi wedi

seiclo dros 1,000 milltir mewn 15 diwrnod o un pen Cuba

i’r llall. Roedd chwech ohonyn nhw’n seiclo ac maen nhw

wedi codi chwe mil o bunnoedd i brynu offer meddygol i’r

wlad. Roedd pawb wedi talu eu costau eu hunain yn

ogystal â chodi o leiaf £500 yr un tuag at yr achos. Roedd

Cymdeithas Cymru-Cuba yn helpu i drefnu’r daith. Dyma

rai o’r pethau fydd Jenny yn eu cofio fwya:

Y peth anodda: y gwres mawr (35ºC) ar ganol dydd –

chwys domen ac yn methu seiclo am bedair awr

Y peth hawdda: cael llety ar ddiwedd y dydd – llawer o

bobl yn cynnig stafell a bwyd mewn ‘casa’ yn rhad iawn

Y peth mwya rhyfeddol: trafnidiaeth – hen geir mawr

Americanaidd, loris a bysys hen iawn yn llawn dop efo

pobl, motobeics a seicars, beiciau’n cario’r teulu cyfan, cert

a cheffyl neu ych, tacsi beic

Y peth mwya diddorol: crocodeils – mewn fferm y tu ôl

i ffens – diolch byth!

Y bwyd gorau: y ffrwythau – llawer o fananas, afal pîn,

orennau, mango, cnau coco, guanabana, a chirimoya

Y diod rhata: ‘guayabo’ – diod oer braf o sudd siwgr cân

am hanner peso (un geiniog) wrth ochr y ffordd

Y profiad gorau: diwrnod rhydd yng nghanol y daith i

wneud deifio sgwba, gweld pysgod o bob siâp, maint a lliw

Y profiad gwaetha: y tîm cefnogi yn colli goriadau y car

yn y môr wrth snorclio

Y braw mwya: broga a choesau hir iawn ganddo yn

sboncio pum medr oddi ar wal ac yn glanio arna i!

Y peth mwya poenus: llosg haul ar y clustiau, y trwyn, y

gwefusau, a’r dwylo hyd yn oed

Y pethau gorau am Cuba: Pobl gyfeillgar, bywyd

hamddenol, gwlad hardd, dim glaw (yn y tymor sych)

Y peth gwaetha: crancod mawr coch ar draws y ffordd

ymhobman – sawl pynctiar, a chael crancod i swper!

Y teimlad brafia: cyrraedd Maria la Gorda ar ben y daith

ac ymlacio ar draeth o dywod aur dan y coed palmwydd a

nofio ym Môr y Caribi – braf iawn!

GEIRFA

Hugo

Dafydd

Jenny

Tom

o un pen i’r llall

offer meddygol

chwys domen

trafnidiaeth

llawn dop

ych

cnau coco

diwrnod rhydd

tîm cefnogi

goriadau

llosg haul

crancod

coed palmwydd

from one end to the other

medical equipment

all of a sweat

transport

full to bursting

oxen

coconut

free day

back-up team

keys

sunburn

crabs

palm trees

Tom, Dafydd, Iain, Veron, Hugo, Jenny, Francisco

(meddyg yn Cuba) Sam a Charles (tîm cefnogi)

5
Cadwyn_16pp_47.qxd 27/5/04 10:28 am Page 6

TAITH GERDDED GREGYNOG

Cynhaliwyd y daith ddiweddara yng Nghregynog ar 3 Ebrill 2004. Roedd rhagolygon y tywydd wedi addo diwrnod

ofnadwy, felly roedd hi’n syndod gweld saith o bobl yn y maes parcio. Er ei bod yn bwrw glaw, roedd pawb yn edrych

ymlaen at gerdded yn yr awyr iach ac ymarfer eu Cymraeg. Penderfynon ni wneud taith fer yn y bore a chyrraedd yn ôl i’r

maes parcio erbyn amser cinio. Penderfynwyd cerdded mewn cylch i'r gogledd o

Gregynog. Ar ôl cychwyn gwlyb roedd y tywydd yn gwella ac roedd y rhan fwyaf

o’r daith yn sych – dan ni'n gallu siarad mwy o Gymraeg pam y mae hi’n braf!!

Cawson ni ginio ger yr ardd dd˘r – roedd y blodau yn ddiddorol a hardd, ond cyn

i ni orffen ein brechdanau, dechreuodd hi fwrw glaw eto. Penderfynodd pawb fynd

adre, diolch i Josie Thomas am arwain y daith. Er hynny, roedden ni'n meddwl y

basai'r tywydd yn gwella eto, a phenderfynon ni gerdded i Fwlch-y-Ffridd (heb

fap, yn anffodus). Stopiodd y glaw ac roedd pawb yn mwynhau’r daith; roedd hi'n

dal yn sych pan gyrhaeddon ni Fwlch-y-Ffridd. Ar y ffordd yn ôl, roedd hi'n

arllwys y glaw – beth bynnag, roedd pawb wedi mwynhau ac roedden ni wedi cael

cyfle i ymarfer ein Cymraeg!

G E I R F A

Keith a Margaret Teare, Llanidloes

Cynhaliwyd y daith ddiweddara

Er ei bod yn bwrw

Yn edrych ymlaen at

awyr iach

Penderfynwyd cerdded

Y basai’r tywydd

the most recent walk was held

even though it was raining

looking forward to

fresh air

it was decided to walk

that the weather would

C E R D D E D Y N S I R F A E S Y F E D

Fel arfer dan ni'n cerdded yn Sir Drefaldwyn, ond weithiau yn rhywle arall. Ar 6 Mawrth 2004 roeddem ni’n cerdded

yn Sir Faesyfed _ yn Fforest Clud (Radnor Forest) a Dyffryn Casgob. Mae’r llun yn dangos y criw yn mwynhau eu

cinio ar ôl taith y bore. Cyn i ni orffen ein cinio, roedd hi'n bwrw cenllysg (raining hailstones) – dim ond cawod

(shower). Ar y ffordd yn ôl, aethon ni i weld Eglwys Sant Mihangel, Casgob. Roedd yno wybodaeth ynglfln â chwedl

Draig y Fforest Clud _ diddorol iawn. Diolch i Stuart Pettifer am daith ardderchog.

Keith a Margaret Teare, Llanidloes

6
Cadwyn_16pp_47.qxd 27/5/04 10:29 am Page 7

Cyflwyno Tlws Coffa Robina

Mewn seremoni urddasol a gynhaliwyd yn ystod

Eisteddfod Gadeiriol Crymych ar Fai 15fed.

cyflwynwyd Tlws Coffa er cof am Robina Elis

Gruffydd. Yn dilyn colli Robina yn Nhachwedd 2002,

agorwyd Cronfa Goffa yn ei henw gan Fenter Iaith Sir

Benfro, Cynllun Ogam a Cyd Bro’r Preseli. Crëwyd

y Tlws gan Wynmor Owen, Trefdraeth, ac eleni oedd

y tro cyntaf i’r Tlws gael ei gyflwyno

Nod y Tlws yw hyrwyddo a gwobrwyo cyfraniadau i’r

meysydd hynny yr oedd Robina’n ymddiddori

ynddynt ac yn poeni amdanynt, sef yr Iaith Gymraeg,

Dysgu Cymraeg, y Diwylliant Cymraeg, Lles yr

Amgylchedd, Byd Natur a Chadwraeth.

Dyfarnwyd mai Dilys Parry oedd yn fuddugol ac fe

gyflwynwyd y Tlws iddi gan Dyfed Elis Gruffydd.

Yn ogystal â derbyn y Tlws Coffa sydd i’w gadw am

flwyddyn, derbyniodd Dilys Parry fedal arian a wnaed

gan Gemwaith Rhiannon, Tregaron, i’w gadw’n

barhaol yn tystio iddi dderbyn yr anrhydedd hwn.

Mae Mrs. Dilys Parry wedi rhoi oes o wasanaeth i

ddysgu Cymraeg i blant ac oedolion yn ardal

Hwlffordd. Bu’n gefnogol i fudiadau Cymraeg

Hwlffordd a’r cylch megis y Cymrodorion, Merched y

Wawr, Cyd ac ati. Mae hefyd wedi bod yn cyfieithu i

gyrff fel Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gan wneud hynny

yn raenus ac yn ddealladwy. Mae ganddi ddiddordeb

hefyd yn amrywiaeth cyfoethog byd natur Sir Benfro,

ac fel aelod o Gymdeithas Edward Llwyd arweiniodd

nifer o deithiau’r Gymdeithas honno.

Taith Gerdded Gyntaf Clwb

Cerdded Cyd, Caerdydd

Aeth Clwb Cerdded Cyd Caerdydd ar ei daith gyntaf ar nos

Lun, 10 Mai i’r Wenallt y tu allan i Gaerdydd. I’r rhai sy ddim

yn gyfarwydd â Chaerdydd, y Wenallt yw’r allt tua’r gogleddorllewin

os ydych chi ym Mharc Bute yng nghanol y ddinas,

yr allt sydd ar y gorwel gyda’r mastiau microdon.

Daeth chwech ohonon ni ar y daith i weld y clychau gleision

yn y coedwig, ac yn wir, roedd llawr y goedwig yn orchudd

glas ohonyn nhw.

Treulion ni tua awr a hanner yn crwydro yn y goedwig, yn

mwynhau’r blodau a’r coed – y fedwen, y dderwen, yr onnen

a llu o goed eraill. Er bod y tir o dan draed braidd yn llithrig

ar ôl yr holl law yr ydyn ni wedi ei gael yn ddiweddar, wnaeth

neb gwympo.

Roedd hi’n braf iawn dianc o’r ddinas brysur am ychydig i fod

mewn lle tawel, i glywed yr adar yn canu ac i anadlu’r aer pur

sydd heb ei lygru gan fwg ceir – fe allai rhywun fynd yn gaeth

i aer fel hwn!

Wedi gadael y goedwig, penderfynon ni fynd am ddiod mewn

tafarn gerllaw. Tafarn to gwellt ydy’r Traveller’s Rest, ac

mae’n hen iawn, gyda nenfydau isel, sy ddim yn arbennig o

ddiogel os ydych ch’n chwech troedfedd pump modfedd fel fi

– ow!

Diolch yn fawr iawn i Siân Ifan am drefnu’r daith i ni, ac am

iddi ein colli ni sawl tro tra oedden ni’n chwilio am lyn

bychan! Diolch i bawb am eu presenoldeb, diolch hefyd i

Caddy hithau am brynu creision i ni yn y dafarn ar ddiwedd y

daith!

Padi Phillips

Dyfed Elis-Gruffydd yn cyflwyno’r

tlws er cof am Robina i Dilys Parry

7
Cadwyn_16pp_47.qxd 27/5/04 11:12 am Page 8

Cyd

Eisteddfod Genedlaethol Cymru Casnewydd a’r Cylch

Pabell Cyd ar y maes – this year Cyd has a tent on the Eisteddfod field

Dewch i gael clonc a mwynhau’r gweithgareddau canlynol – call in for a chat and enjoy the following activities

2.00 – 4.00 bob prynhawn

Dydd Llun

Dydd Mawrth

Dydd Gwener

Dydd Sadwrn

Triniaethau amgen (alternative therapy)

Canu Gwerin gyda Robin Campbell a’r bachyn glas

Gweithdy serameg

Dawnsio bola

Pabell y Dysgwyr – Gweithgareddau Cyd

Cwis Cyd 2003

Dydd Llun 2.00pm Adweitheg (reflexology) gyda Lowri Gwenllian

Meddygaeth llysieuol (herbal medicine) gyda Heather Henderson

Dydd Iau 2.00pm Cwis Cyd – rownd derfynol (final round) Cwisfeistr – Edwyn Wiliam

Dydd Gwener 2.00pm ‘Gamelan’ – gweithdy offerynnol – music workshop

Mae Cyd yn 20 mlwydd oed eleni

Dewch i ddathlu gyda ni …

Lowri Gwenllian

8
Cadwyn_16pp_47.qxd 27/5/04 10:32 am Page 9

Y Prawf

Stori gan Jane Black

Dros y blynyddoedd yr oedd ffermdy Cwmllydan wedi

nythu yng nghysgod y bryn bach rhwng y traeth a’r cwm.

Tfl cerrig ydoedd, y muriau yn dair troedfedd o drwch. Yr

oedd y paent ar y ffenestri sgwâr a’r drysau isel yn

fflawiog, ac yr oedd yn amhosibl dyfalu beth oedd y lliw

gwreiddiol. O gwmpas y ffermdy yr oedd casgliad o hen

dractorau rhydlyd, ceir heb olwynion ac offer fferm wedi

eu gwasgaru yma ac acw mewn gwely o ddanadl poethion.

Ar ochr arall i’r cwm, ar y clogwyn, yn herio’r gwynt

creulon a chwythai yn syth o Fôr Iwerddon, safai fila

goncrid wen a adeiladwyd yn y tridegau fel tfl gwyliau, ei

tho gwastad yn fwy addas i Sbaen na Cheredigion.

Plygai’r planhigion yn yr ardd daclus tuag at y dwyrain fel

pe basent yn ceisio dianc o stormydd yr hydref a ratlai

fframwaith metel y ffenestri.

tad y Cyrnol wedi gosod y tfl i deulu o Lundain. Yn y

pumdegau yr oedd yn well ganddo dreulio ei wyliau yn

Ewrop ac yn ddiweddarach yn y Bahamas ond nid oedd

wedi gwerthu’r tfl. Yr oedd wedi ei osod yn yr haf am rent

sylweddol heb wario llawer ar gynnal a chadw. Pan

etifeddodd y Cyrnol Clifftops yn yr wythdegau yr oedd yn

dal yn y fyddin a pharhaodd â’r un polisi. Ym 1992

gadawodd y Cyrnol y fyddin ac aeth i fyw ar y stad deuluol

yn Swydd Gaerlflr. Yn dilyn cyngor rhai o’i ffrindiau

cyfoethog daeth yn aelod o Lloyd’s ond dewisodd syndicet

anffodus a chollodd bopeth bron. Yr oedd rhaid gwerthu’r

stad i gyflawni ei ymrwymiadau i Lloyd’s a phenderfynodd

symud i Clifftops. Anwybyddai bobl eraill a oedd wedi

ymddeol i’r ardal, ac yr oedd tanysgrifiad y clwb golff

gryn dipyn yn llai nag yng Nghanolbarth Lloegr.

Cewch chi ddarllen gweddill y stori hon ar wefan Cyd

www.aber.ac.uk/cyd

Aled Rhys oedd yr olaf o deulu a oedd wedi bod yn ffermio

yn y cwm am fwy na phedair canrif. Nid oedd wedi ei

addasu ei hun i’r ffordd fodern o ffermio ac o’r braidd y

crafai fywoliaeth. Cawsai nifer o gynigion gan bobl a oedd

yn awyddus i newid y tfl a’r ysguboriau yn fflatiau gwyliau

a llenwi’r cwm â charafannau, ond fyddai Cwmllydan byth

yn ystyried gwerthu’r fferm. Ei etifeddiaeth ydoedd ac yr

oedd yn rhan o’i hunaniaeth. Pan werthasai ei dad y safle

ar y clogwyn yn ystod y dirwasgiad, dewis rhwng hynny a

mynd i’r wal oedd hi. Er bod hynny wedi digwydd cyn ei

enedigaeth yr oedd Cwmllydan yn dal i deimlo yn ddig fod

ei dad wedi colli darn o dir y teulu.

Cartref Cyrnol Montford oedd Clifftops. Yn ystod y

rhyfel, ac am ychydig o flynyddoedd ar ôl hynny, yr oedd

Llun Felicity Elena Haf

Hawlfraint Jane Black

Gwers Yrru yng Ngheredigion

(H = Mr Ifans, Hyfforddwr; N = Nia, Dysgwraig)

H

N

H

N

H

N

H

P’nawn da, Nia.

P’nawn da, Mr Ifans. Siwt ych chi?

Iawn, diolch, Nia. Bant â ni, te. Ar y groesffordd nesaf,

tro i’r dde.

Reit, Mr Ifans. Wps! Sori am y ‘petrol cangarw’.

I’r dde, ddwedais i, Nia, i’r dde!

Wps, sori eto.

Paid â gyrru ar y palmant. Mae pobl yn cerdded yna.

Mae’n ddanjerys.

N O, sori, ond gwelais i Mam yn dod allan o’r siop ddillad

newydd, gyda bag enfawr! Ydych chi’n iawn, Mr Ifans.

Chi’n edrych braidd yn wyn?

H Nac ydw, dw i ddim yn iawn a dw i’n gorffen y wers am

heddiw.

N: O diar. Wel, wela i chi’r wythnos nesaf, te, ar yr un

amser. Hwyl nawr.

H Hwyl! Ffiw!!!

Jill Roberts

9
Cadwyn_16pp_47.qxd 27/5/04 10:33 am Page 10

P E N W Y T H N O S C Y D

Fel arfer roedd y cyfle i fynd ar cwrs Cymraeg yn

atyniadol iawn i mi ond y tro ’ma roedd o’n rhywbeth

hollol wahanol. Nid penwythnos yn y dosbarth oedd o

ond cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg wrth cael hwyl yn yr

awyr agored.

Ar ôl swper nos Wener aeth nifer ohonon ni i’r ‘Off

Licence’ i brynu unrhyw beth a oedd yn gryfach na

choffi i yfed wrth fwynhau cwis Rhodri.

Deffrôdd pawb yn gynnar (!) bore Sadwrn, cael brecwast

ac wedyn i lan y llyn lle roedd y can˘od yn aros

amdanon ni. Cododd y gwynt ond ar ôl tua awr roedd

dau o’r can˘od wedi dychwelyd yn saff ond roedd rhaid

i’r trydydd gael ei achub gan y cwch achub cyn iddyn

nhw gyrraedd Caer!

Ar ôl cinio roedd gwibdaith i’r Bala a chyfle i

ddefnyddio’r iaith yn y siopau a thafarnau. Yn gyntaf

aethon ni i’r ‘Ship’ am beint ac ar ôl gofyn am ddiod yn

fy Nghymraeg gorau daeth yr ymateb ‘I’m sorry but I

don’t speak Welsh’! Felly aethon ni i’r Plas Coch a chael

dipyn o hwyl mewn awyrgylch Cymraeg.

Nos Sadwrn ar ôl swper mawr aeth y criw i’r Eryrod,

tafarn yn Llanuwchllyn. Roedd o’n brofiad gwerthfawr

i glywed pawb yn y dafarn yn defnyddio’r iaith

Gymraeg.

Bore Sul roedden ni’n bwriadu mynd am dro ond cafodd

o ei ganslo ar ôl i’r tywydd droi’n ddiflas. Awgrymodd

Huw y basai’n syniad da i ddatrys nifer o broblemau fel

maen nhw’n gwneud ar gyrsiau ‘adeiladu timau’. Roedd

o’n bleserus iawn er gwaethaf llawer o dwyllo ac wedyn

ymlaen i’r rhaffau dringo (nid fi wrth gwrs), yna cinio a

ffarwelio.

Mwynheuais y penwythnos yn fawr iawn. Roedd cyfle i

gyfarfod â phobl o bob safon ag ymarfer yr iaith wrth

ymlacio, a r˘an dw i’n edrych ymlaen at y cwrs yn Nant

Gwrtheyrn.

Cyn i mi orffen rhaid i mi ddweud diolch i Rhodri, Huw

a thîm Glan-llyn.

Steve Owens

Bwy r y Tir Ad-Cadwyn CYD 24/5/04 1:42 pm Page 1

ARDDANGOSFA

Byw ar yTir

datblygiad amaeth yng Nghymru

12 MAI - 9 HYDREF

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

ABERYSTWYTH

www.llgc.org.uk 01970 632800

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

The National Library of Wales

Aberystwyth

GEIRFA

atyniadol

hollol wahanol

awyr agored

yn gryfach na

yn aros amdanon ni

(g)cael ei achub

gwibdaith

awyrgylch Cymraeg

cafodd o ei ganslo

ar ôl i’r tywydd droi

adeiladu timau

er gwaethaf

yn fawr iawn

edrych ymlaen at

EXHIBITION

Life on the Land

the development of agriculture in Wales

12 MAY - 9 OCTOBER

The National Library of Wales

ABERYSTWYTH

attractive

completely different

open air

stronger than

waiting for us

be rescued

trip

Welsh atmosphere

it was cancelled

after the weather turned

team building

inspite of

very much

looking forward to

10
Cadwyn_16pp_47.qxd 27/5/04 10:35 am Page 11

GWERSYLL YR URDD, Y BALA

Dach chi wedi sylwi pan mae dysgwyr Cymraeg yn

ymgynnull maen nhw’n cael hwyl. Wel doedd

Penwythnos Cyd yn Y Bala ddim yn wahanol.

Ar ôl brecwast dydd Sadwrn mi aethon ni mewn can˘

ar Lyn Tegid. Pan oedden ni’n hapus ac yn si˘r na

fydden ni ddim yn suddo, mi wnaethon ni ddechrau

canu caneuon Cymraeg. Mi alwon ni ar y can˘au

eraill a mi benderfynon ni gael ras yn ôl i lan y llyn.

Wrth gwrs enillodd ein can˘ ni!

Wedyn mi adeiladon ni rafft o bedwar o farilau a

rhaff, ond pan oedd gofyn i ni eu rhoi nhw yn y llyn

ac eistedd arnyn nhw, wel dôn i ddim mor si˘r.

Beth bynnag, aeth pedwar ohonon ni ar y rafft a

wnaeth o ddim suddo, diolch byth.

Wedyn roedden ni’n medru dewis

rhwng wâl ddringo a thaith ar y llyn

mewn cwch modur. Mi ddewises i’r

daith ar y llyn. Roedd y nefoedd yn

agor pan oedden ni ar ganol y llyn a mi

gaethon ni ein gwlychu. Roedd rhaid i

ni fynd i lan y llyn mewn cwch bach a

gweiddodd merch yn ein gr˘p i’r dyn yn

y cwch bach “Take me, take me.”

Dwedon ni wrthi hi “Sgen ti ddim

cywilydd?”!

Roedd pawb isio bwyd ar ôl y

gweithgareddau, ond doedden ni ddim yn

medru ymlacio. Roedd rhaid i ni siarad

Cymraeg efo ein hyfforddwr.

Roedd hi’n rhy wyntog i hwylio yn y prynhawn, felly mi benderfynon

ni fynd i dre Y Bala i ymarfer siarad Cymraeg. Aeth tri ohonon ni i

mewn i siop lyfrau a dechreuon ni siarad efo’r perchennog. Roedd hi

mor gyfeillgar ac mi arhoson ni yno a siaradon ni am amser maith efo

hi. Roedd yn brofiad hyfryd iawn.

rned

Roedd bore dydd Sul yn stormus ac yn wlyb. Roeddden ni i fod i fynd am dro, ond

mi benderfynon ni drio datrys problemau. Roedd rhaid i ni ddefnyddio planciau a theiar i groesi afon

ddychmygol oedd yn llawn o siarcod. Yn anffodus mi wnes i farw droeon!

Roedd penwythnos Cyd yn arbennig iawn. Roedd pawb yn glên, roedd Glan-llyn a’r hyfforddwyr yn

wych a doedd hyd yn oed y tywydd ddim yn difetha’r penwythnos.

Magi Bebb

11
Cadwyn_16pp_47.qxd 27/5/04 10:36 am Page 12

Cysgod_Coed_Advert 21/5/04 12:15 pm Page 1

Y PROFIAD O DDARLLEN

EIRONI: NOFEL ANTUR I DDYSGWYR

J. Philip Davies (Gwasg Gomer, 3ydd argraffiad 1990)

Adolygiad gan Linda Gay

Mewn ymdrech i

ddechrau darllen

llyfrau Cymraeg eto fe

es i yn ôl at rai a ges i

ar gyfer lefel ‘O’.

Nofel arbennig i

ddysgwyr yw Eironi a

enillodd wobr yn

E i s t e d d f o d

Genedlaethol Abertawe

a’r Cylch ym 1982.

Mae hi’n dweud stori

am seicopath sy’n

dianc o ysbyty ac yn

ymuno â gr˘p o

derfysgwyr o’r enw

Plant y Paith. Maen

nhw’n herwgipio tancer olew mawr ar ei ffordd i

ddadlwytho yn Amlwch, ac maen nhw’n bygwth tanio’r

tancer os nad yw’r Llywodraeth yn cwrdd â gofynion y

terfysgwyr. Ar yr un pryd mae dyn o Iwerddon yn

gwneud rhywbeth cyfrinachol ar ynys ym mae

Iwerddon. Does ’na ddim cysylltiad rhwng y ddau beth

ond yn y diwedd mae rhywbeth yn digwydd sy’n

effeithio ar y ddau.

Mae’r stori’n eithaf cyffrous a gwnes i fwynhau ei

darllen, er nad oedd hi ddim yn hollol gredadwy. Roedd

pennod gyda manylion am y llong a’r angorfa a

ffeindiais i’n anodd. Ond ar y llaw arall roedd hwn yn

ymarfer da i ddysgu geiriau technegol. Rydw i’n

meddwl ei fod e’n llyfr da iawn ar gyfer dysgwyr, gyda

nodiadau ar y dechrau am dafodiaith a gramadeg, ac ar

ddiwedd y nofel mae ymarferion darllen a deall.

GEIRFA

terfysgwyr

olew

dadlwytho

gofynion

cyfrinachol

cysylltiad

credadwy

angorfa

terrorists

oil

to unload

demands

secret, confidential

connection

believable

anchorage

Casgliad o storïau

cyfoes ysgafn

i ddysgwyr

gan Lois Arnold,

tiwtor o Went

Dewch i’r lansiad

ar Faes yr Eisteddfod

ym Mhabell y Dysgwyr

4ydd Awst

am 2 o’r gloch

£4.99

gomer

CRONICLAU PENTRE SIMON

Mihangel Morgan (Y Lolfa, 2003, £7.95)

Adolygiad gan T. Robin Chapman

Nofel i'r llygaid yn

ogystal â’r dychymyg

ydy hon, ac mae’n bosibl

cael blas arni trwy droi’r

dail ar eich sefyll mewn

siop lyfrau. Beth welwch

chi? Ambell bennod

mewn teip addurnedig,

Fictoraidd; penodau

wedyn mewn teip mwy

cyfoes, sans serif, a rhwng

y ddwy, ffughysbysebion

am nwyddau

dychmygol. Llyfr od yr

olwg, ac od iawn ei

gynnwys hefyd. Croeso

(neu groeso’n ôl, efallai) i

fyd y nofel Gymraeg ôl-fodernaidd.

Ydy, mae hi’n nofel anghonfensiynol, ond dydy hynny ddim yn

golygu nad oes stori ynddi – neu ddegau o storïau, yn wir.

Mae’r nofel yn agor trwy adrodd hanes trigolion lliwgar,

ecsentrig pentre dychmygol yn Oes Fictoria. Fe’n cyflwynir i

Miss Silfester, er enghraifft, sy’n fwy o lyffant nag o wraig –

a’r dewin Dr Marmadiwc Bifan, a’r gantores opera Madam

Orelia Simone. Ymwneud y rhain â’i gilydd ydy traean gynta’r

nofel. Ond wrth inni ddechrau ymgolli yn eu bywydau a’u

helyntion dyma Mihangel Morgan yn ein tynnu ni chwap i

gyfnod gwahanol, i Gymru wahanol, i Gaerdydd yr unfed

ganrif ar hugain. Hanes brawd a chwaer – Dafydd a Hazel –

ydy testun ein sylw wedyn. Ac mae gweddill yn nofel yn

gwibio rhwng y ddwy Gymru wrthgyferbyniol.

Mae Mihangel Morgan yn ein gorfodi, felly, i ddarllen y ddau

hanes trwy ei gilydd. A’r cwestiwn anorfod ydy pa un ydy’r

wir Gymru? Ydy Cymru Pentre Simon yn Gymreiciach na

12
Cadwyn_16pp_47.qxd 27/5/04 10:37 am Page 13

Chymru’r tai teras a siop Mr Patel ar y gornel? Os felly, sut?

Ym mha Gymru yr hoffech chi fyw? Ai Cymru fewnblyg,

ddiogel ond cul Pentre Simon, ynteu Cymru gosmopolitanaidd

y boblogaeth symudol a’r bywydau ansicr? On’d ydy

diogelwch Pentre Simon weithiau yn fath o gaethiwed?

Ond dyna ddigon o gwestiynau, rhag ofn imi greu camargraff.

Nid nofel drymaidd mo hon. Mae’n anodd dychmygu nofelydd

mwy chwareus na Mihangel Morgan, na neb sy’n sgrifennu

mewn arddull mwy hygyrch. Penodau byr, digon o sgwrsio –

a rhyfeddod newydd ar bob tudalen. Fe fydd eich Cymraeg ar

ei hennill, a fydd Cymru ddim yr un lle ichi ar ôl ei darllen.

GEIRFA

dychymyg

cael blas arni

ar eich sefyll

troi’r dail

addurnedig

ôl-fodernaidd

anghonfensiynol

gwrthgyferbyniol

anorfod

mewnblyg

caethiwed

camargraff

hygyrch

imagination

to get a taste of it

standing up

to turn the pages

ornamental

post-modern

unconventional

contradictory

inevitable

introspective

captivity

wrong impression

approachable

DYSGU CYFANSAWDD

R.M. Jones

Adolygiad gan Cen Williams

Canolfan Bedwyr Prifysgol Cymru, Bangor

Bobi Jones

Braf yw gweld yr Athro Bobi Jones yn troi’n ôl at ddysgu a datblygu

iaith eto ar ôl rhoi cymaint o’i lafur a’i amser i’n goleuo ni ynglfln â

chymaint o agweddau ar ein llenyddiaeth.

Yn Dysgu Cyfansawdd mae’n canolbwyntio ar ddiffygion y cyrsiau

yn fwy na diffygion yr athrawon neu diwtoriaid. Tanlinellir yr hyn a

nodwyd gan Mr Gareth Davies Jones mewn adroddiad ar addysgu’r

ail iaith yn y sector cynradd ganol y nawdegau, sef bod angen

fframwaith ieithyddol neu strwythurol i unrhyw gwrs gyda’r

ffwythiannau yn llawforwyn i’r fframwaith honno. Heb hynny,

dysgu ar gyfer un sefyllfa yn unig a geir ac nid yw’r wybodaeth

ramadegol / ieithyddol na’r hyder yn debyg o drosglwyddo i

sefyllfaoedd eraill. Rhaid wrth (i) raddio a dethol, (ii) cysylltu’r

strwythurau â’i gilydd ac â’r ffwythiannau, (iii) gweld sut y mae

trefnu’r holl elfennau a geir yn yr eclectig yn ddull dysgu cyfansawdd

grymus a llwyddiannus.

Mae yma gyfoeth o gefndir a dysg ac yn Rhan 111 ymdriniaeth lawn

a diddorol â’r gwahanol dechnegau dysgu ail iaith sy’n dueddol o gael

eu hanghofio gan rai erbyn heddiw.

PAN DDAW’R DYDD?

Elfyn Pritchard (Gwasg Gomer, 2003, £7.99)

Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen (Eisteddfod Genedlaethol

Maldwyn a’r gororau 2003)

Adolygiad gan Mary Neal

Yn y nofel hwn cawn gipolwg ar fywyd tri o bobl mewn cyfnod byr

o’u bywydau. Y prif gymeriad yw Eirwyn. Dyn canol oed yw ef,

wedi bod yn briod â Cissie ers dros ugain mlynedd. Athro ydy

Eirwyn, yn dysgu Saesneg yn yr Ysgol Uwchradd.

Cissie yw ei wraig, a’i chwmni hi trwy’r wythnos fel gwraig tfl ydy

ei chi bach Swsi a’r gr˘p o wragedd sy’n cwrdd â’i gilydd yn y caffi

parchus yn y dref i glebran.

Drwy fanylion bychain dangosir bywyd beunyddiol Eirwyn a Cissie.

Mae Eirwyn yn ddyn tawel dan fawd ei wraig, dim cysur yn unman,

methiant yn yr ysgol, dyn gwan yn y capel ac yn y gymuned. Cissie

yn dioddef o ffobias o bob math ac o achos y rhain mae’n rhaid i

Eirwyn ddioddef hefyd. Dyma sail anhapusrwydd eu priodas. Mae

Eirwyn yn hiraethu oblegid nad oes plant a Cissie yn teimlo’n euog

oblegid celwydd ydy’r cwbl. Mae hi wedi twyllo ei g˘r. Mas o’r

twyll hwn mae twyll ar ôl twyll yn dod unwaith mae Gwen brydferth

yn cyrraedd. Dyna stori y nofel hon.

Ar ôl i mi ddarllen i’r diwedd (a rhaid i mi gyfaddef fod y

diweddglo’n un siomedig) roedd fy nheimladau yn hollol gydag

Eirwyn. Dim felly gyda fy ng˘r. Roedd e’n teimlo dros wraig

Eirwyn (ac mewn gwirionedd mae Eirwyn yn dipyn o anorac yn

gwrthod pob ymdrech gan Gwen i’w ddenu i amrywiaeth o

ystafelloedd gwely, nid o achos ei anffyddlondeb i Cissie ond o achos

iddo gael llond plât o bwdin yn gyntaf!).

Ar y cyfan fe wnes i fwynhau’r nofel, sy’n hawdd i’w darllen ac yn

nofel hen ffasiwn fatha nofelau’r chwedegau. Ar gyfer dysgwyr –

nofel berffaith.

GEIRFA

parchus

clebran

bywyd beunyddiol

dan fawd

twyllo

ymdrech

respectable

to chat

everyday life

under the thumb

to deceive

effort

Mae’r ymdriniaeth lawn i’w chael am ddim ar safle gwe www.

aber.ac.uk/cyd

13
Cadwyn_16pp_47.qxd 27/5/04 10:38 am Page 14

Noson o Hwyl gyda Cyd

Ysgol Dridiau, Dehongli Cymru

a drefnwyd gan Brifysgol Cymru Aberystwyth

Rhai o aelodau Cyd Llanelli

(cefn) Kay, Sharon, Steve, Vaughan

(blaen) Lynn, Martin, Christine

Trip Cyd Llanelli / Caerfyrddin

i’r Tafarn Sinc Rosebush,

Sir Benfro

Côr Cyd Aberystwyth yn cymryd rhan (taking part)

yn ‘Wythnos Gymraeg yn Gyntaf’ a drefnwyd gan Cered

Mae Cangen Cyd Llanfairfechan yn cyfarfod

bob nos Wener.

Cangen Cyd Llanfairfechan ar Ynys

Llanddwyn _ Diwrnod Santes Dwynwen

Rhodd Gymorth/Gift Aid £

A wnewch chi ddarllen y canlynol yn ofalus? / Please read the following carefully

Rwy’n datgan fy mod yn talu rhagor o dreth incwm a/neu dreth enillion cyfalaf na’r dreth y bydd Cyd yn adennill ar fy

rhodd/nghyfraniad/tâl cefnogi, sef 28c ym mhob £1 a roddir ar hyn bryd, a fy mod yn fodlon i Cyd drin y rhodd uchod a phob

rhodd yn y dyfodol fel rhodd gymorth.

I declare that I pay income tax and/or capital gains tax at least equal to the tax that Cyd claims on my donations/supporter’s

fee in the tax year (currently 28p for each £1 you give), and I am willing for Cyd to treat the above donation and all donations in

the future as gift aid.

Llofnod/Signature

14
Cadwyn_16pp_47.qxd 27/5/04 10:40 am Page 15

CANGEN CYD PONTRHYDGROES

DYSGWYR YN DATHLU DYDD G¯YL DEWI

YM MORGANNWG

Eleni eto daeth myfyrwyr Cymraeg i Oedolion

Morgannwg at ei gilydd i ddathlu eu Cymreictod.

Cynhaliwyd noson gyda Phyllis Kinney (ar y dde) yn Y Talbot,

Tregaron. Roedd cyfle i ni siarad â hi am ei phrofiadau o ddysgu

Cymraeg a chafwyd sgwrs ddiddorol iawn am ganeuon gwerin o

Geredigion. Roedd cyfle i’r gr˘p i ganu tipyn bach hefyd!

CANGEN CYD ABERYSTWYTH

Nos Lun, noson yr ˘yl, daeth trigain o fyfyrwyr seloca

dosbarthiadau ardal Taf Elai ynghyd. Bu'n rhaid siomi

rhyw ddwsin a adawodd pethe'n rhy hwyr.

Paratowyd y pryd pedwar cwrs gan fyfyrwyr adran

arlwyo (catering department) Coleg Morgannwg ym

Mwyty Lemon Tree, campws Rhydyfelin. Cafwyd

anerchiad difyr dros ben gan Craig Duggan. Aeth â'r

dysgwyr ar daith llawn hiwmor o Baris i Foscow, o Nice

i Efrog Newydd gan rannu rhai o'i brofiadau fel

newyddiadurwr y BBC. Adroddodd ei hanes yn cyfweld

Bryn Terfel a Gwyn Hughes Jones yn Neuadd Carnegie.

Uniaethai'r gynulleidfa â (the audience identified with)

hanes ei gyfweliad rhyfeddol ag Eva cyn gêm beldroed

Cymru a Rwsia. Dyma'r ferch a fagwyd yn ninas

Moscow a ddysgodd y Gymraeg am iddi syrthio mewn

cariad â'r chwedlau Arthuraidd (Arthurian tales). Erbyn

hyn, mae ganddi'i dosbarth Cymraeg ei hunan _ mae'n

diwtor i ddeg Rwsiad arall sy am ddysgu'r Gymraeg.

Nos Fawrth 2 Mawrth, cynhaliwyd noson arall ym

Mwyty Seasons, Coleg Pen-y-bont. Cafodd y trigain

oedd yn bresennol noson ddiddorol tu hwnt yng

nghwmni'r Parchedig John Gillibrand, ei wraig Jill sydd

hefyd yn dysgu'r iaith yn llwyddiannus dros ben a Peter

y mab ieuengaf sy'n falch o'r ffaith ei fod yn ddisgybl yn

Ysgol Bro Ogwr. Adroddodd John hanes ei ‘daith’ yntau

_ yn Sais uniaith a anwyd ac a fagwyd ym Manceinion,

ei ymweliadau achlysurol â Phenllyn, ei fywyd fel athro

hanes yn Llundain, yr arallgyfeirio (the change of

direction) a'i ordeinio'n (his ordination) ficer, ei ‘yrfa’

fel dysgwr, a phinacl yr yrfa honno yn Eisteddfod

Genedlaethol Cwm Rhymni 1990 le enillodd Dlws

Dysgwr y Flwyddyn, ei waith fel ficer y plwyf yn

ardaloedd Dolgellau a Chaernarfon ac yna symud i Beny-bont

i weithio gyda'r Gymdeithas Autistiaeth (Autistic

Society).

A dyna Ddydd G˘yl Dewi drosodd am flwyddyn arall

tan y tro nesaf pan fydd pawb sawl cam ymhellach ar

hyd y ‘daith’ i feistroli'r iaith. Hei lwc i bob un _ daliwch

ati bois!

Roedd Jane a John Black wedi trefnu dwy daith gerdded ym

Mrynafan, gyda Brian Evans yn arwain un, a John ei hun yn arwain

y llall. Ar ôl ein gwaith caled (ac roedd tipyn o wynt a glaw y

diwrnod hwnnw!), roedd gwledd o fwyd blasus wedi’i baratoi gan

Jane a John yn eu tfl braf i fyny yn y bryniau. Rydym yn ddiolchgar

iawn iddynt ac i Brian Evans am rannu o’i wybodaeth fanwl am yr

ardal gyda ni.

Colin Williams

The above article tells of how the learners in

Morgannwg celebrated St Davids Day.

15
Cadwyn_16pp_47.qxd 27/5/04 10:40 am Page 16

CYD AD (267x190mm) 24/5/04 12:14 pm Page 1

Trwy CYD cewch chi gofrestru ag Acen a derbyn

dau gylchgrawn bob chwarter AM DDIM. Pob lefel.

Through CYD you can register with Acen and receive

two magazines every three months FREE. All levels.

Llenwch y ffurflen hon a’i dychwelyd i:

Please complete this form and send it back to us:

Acen, Tŷ Ifor, Stryd y Bont, Caerdydd. CF10 2EE.

Rhaid ateb pob cwestiwn. Cedwir y wybodaeth yn hollol gyfrinachol.

All questions must be answered. Information will be treated as strictly confidential.

Enw Cyntaf / First Name: . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Cyfenw / Family Name: . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Cyfeiriad / Address: . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Côd Post / Post Code: . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

E-bost / E-mail: . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Dyn / Male

Menyw / Female

Tarddiad Ethnig / Ethnic Origin:

Cymro/Cymraes / Welsh

Prydeinig Arall / Other UK

Ewropeaidd Arall / Other European

Caribiaidd / Caribbean

Indiaidd / Indian

Pacistanaidd / Pakistan

Tshieineaidd / Chinese

Asiaidd Arall / Asian Other

Affricanaidd / African Arall / Other . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Unol Daleithiau/Canada / USA/Canada

Ddim Eisiau Dweud / Withhold Information

Dych chi wedi dilyn unrhyw gwrs gradd, lefel A, TGAU, NVQ neu gymhwyster proffesiynol arall yn ystod y 3 blynedd diwethaf?

Have you followed any course leading to a degree, A level, GCSE, NVQ or other professional qualification during the last 3 years?

Ydw / Yes

Nac ydw / No

Fyddwch chi’n gallu defnyddio’r Rhyngrwyd wrth ddysgu’r Gymraeg?

Will you be able to use the Internet for the purpose of learning Welsh?

Bydda / Yes

Na fydda / No

Os ‘bydda’, ble byddwch chi’n defnyddio’r Rhyngrwyd? / If ‘yes’ , where will you be using the Internet?

(Ticiwch bob un sy’n berthnasol / Please tick all that are relevant)

Yn y gwaith / In work

Cartref cyfaill neu berthynas / A friend or relative’s home

Gartref / At home

Mewn canolfan dysgu / In a learning centre

Dych chi yn ystod y ddwy flynedd diwethaf wedi elwa o ddefnyddio gwasanaethau Acen o gwbl

(rhaglenni i ddysgwyr ar S4C, e-wasanaethau, Radio Acen, llyfrau, tapiau fideo a sain etc)?

Have you, during the last two years, benefited as a learner from using Acen services at all

(programmes for learners on S4C, e-services, Radio Acen, books, video and audio tapes etc)?

Ydw / Yes

Nac ydw / No

www.acen.co.uk www.learn.cd www.radioacen.fm