cylchgrawn
Rhifyn 47 Haf 2004 - Cyd
Rhifyn 47 Haf 2004 - Cyd
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Cadwyn_16pp_47.qxd 27/5/04 10:36 am Page 12

Cysgod_Coed_Advert 21/5/04 12:15 pm Page 1

Y PROFIAD O DDARLLEN

EIRONI: NOFEL ANTUR I DDYSGWYR

J. Philip Davies (Gwasg Gomer, 3ydd argraffiad 1990)

Adolygiad gan Linda Gay

Mewn ymdrech i

ddechrau darllen

llyfrau Cymraeg eto fe

es i yn ôl at rai a ges i

ar gyfer lefel ‘O’.

Nofel arbennig i

ddysgwyr yw Eironi a

enillodd wobr yn

E i s t e d d f o d

Genedlaethol Abertawe

a’r Cylch ym 1982.

Mae hi’n dweud stori

am seicopath sy’n

dianc o ysbyty ac yn

ymuno â gr˘p o

derfysgwyr o’r enw

Plant y Paith. Maen

nhw’n herwgipio tancer olew mawr ar ei ffordd i

ddadlwytho yn Amlwch, ac maen nhw’n bygwth tanio’r

tancer os nad yw’r Llywodraeth yn cwrdd â gofynion y

terfysgwyr. Ar yr un pryd mae dyn o Iwerddon yn

gwneud rhywbeth cyfrinachol ar ynys ym mae

Iwerddon. Does ’na ddim cysylltiad rhwng y ddau beth

ond yn y diwedd mae rhywbeth yn digwydd sy’n

effeithio ar y ddau.

Mae’r stori’n eithaf cyffrous a gwnes i fwynhau ei

darllen, er nad oedd hi ddim yn hollol gredadwy. Roedd

pennod gyda manylion am y llong a’r angorfa a

ffeindiais i’n anodd. Ond ar y llaw arall roedd hwn yn

ymarfer da i ddysgu geiriau technegol. Rydw i’n

meddwl ei fod e’n llyfr da iawn ar gyfer dysgwyr, gyda

nodiadau ar y dechrau am dafodiaith a gramadeg, ac ar

ddiwedd y nofel mae ymarferion darllen a deall.

GEIRFA

terfysgwyr

olew

dadlwytho

gofynion

cyfrinachol

cysylltiad

credadwy

angorfa

terrorists

oil

to unload

demands

secret, confidential

connection

believable

anchorage

Casgliad o storïau

cyfoes ysgafn

i ddysgwyr

gan Lois Arnold,

tiwtor o Went

Dewch i’r lansiad

ar Faes yr Eisteddfod

ym Mhabell y Dysgwyr

4ydd Awst

am 2 o’r gloch

£4.99

gomer

CRONICLAU PENTRE SIMON

Mihangel Morgan (Y Lolfa, 2003, £7.95)

Adolygiad gan T. Robin Chapman

Nofel i'r llygaid yn

ogystal â’r dychymyg

ydy hon, ac mae’n bosibl

cael blas arni trwy droi’r

dail ar eich sefyll mewn

siop lyfrau. Beth welwch

chi? Ambell bennod

mewn teip addurnedig,

Fictoraidd; penodau

wedyn mewn teip mwy

cyfoes, sans serif, a rhwng

y ddwy, ffughysbysebion

am nwyddau

dychmygol. Llyfr od yr

olwg, ac od iawn ei

gynnwys hefyd. Croeso

(neu groeso’n ôl, efallai) i

fyd y nofel Gymraeg ôl-fodernaidd.

Ydy, mae hi’n nofel anghonfensiynol, ond dydy hynny ddim yn

golygu nad oes stori ynddi – neu ddegau o storïau, yn wir.

Mae’r nofel yn agor trwy adrodd hanes trigolion lliwgar,

ecsentrig pentre dychmygol yn Oes Fictoria. Fe’n cyflwynir i

Miss Silfester, er enghraifft, sy’n fwy o lyffant nag o wraig –

a’r dewin Dr Marmadiwc Bifan, a’r gantores opera Madam

Orelia Simone. Ymwneud y rhain â’i gilydd ydy traean gynta’r

nofel. Ond wrth inni ddechrau ymgolli yn eu bywydau a’u

helyntion dyma Mihangel Morgan yn ein tynnu ni chwap i

gyfnod gwahanol, i Gymru wahanol, i Gaerdydd yr unfed

ganrif ar hugain. Hanes brawd a chwaer – Dafydd a Hazel –

ydy testun ein sylw wedyn. Ac mae gweddill yn nofel yn

gwibio rhwng y ddwy Gymru wrthgyferbyniol.

Mae Mihangel Morgan yn ein gorfodi, felly, i ddarllen y ddau

hanes trwy ei gilydd. A’r cwestiwn anorfod ydy pa un ydy’r

wir Gymru? Ydy Cymru Pentre Simon yn Gymreiciach na

12