cylchgrawn
Rhifyn 47 Haf 2004 - Cyd
Rhifyn 47 Haf 2004 - Cyd
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Cadwyn_16pp_47.qxd 27/5/04 10:40 am Page 15

CANGEN CYD PONTRHYDGROES

DYSGWYR YN DATHLU DYDD G¯YL DEWI

YM MORGANNWG

Eleni eto daeth myfyrwyr Cymraeg i Oedolion

Morgannwg at ei gilydd i ddathlu eu Cymreictod.

Cynhaliwyd noson gyda Phyllis Kinney (ar y dde) yn Y Talbot,

Tregaron. Roedd cyfle i ni siarad â hi am ei phrofiadau o ddysgu

Cymraeg a chafwyd sgwrs ddiddorol iawn am ganeuon gwerin o

Geredigion. Roedd cyfle i’r gr˘p i ganu tipyn bach hefyd!

CANGEN CYD ABERYSTWYTH

Nos Lun, noson yr ˘yl, daeth trigain o fyfyrwyr seloca

dosbarthiadau ardal Taf Elai ynghyd. Bu'n rhaid siomi

rhyw ddwsin a adawodd pethe'n rhy hwyr.

Paratowyd y pryd pedwar cwrs gan fyfyrwyr adran

arlwyo (catering department) Coleg Morgannwg ym

Mwyty Lemon Tree, campws Rhydyfelin. Cafwyd

anerchiad difyr dros ben gan Craig Duggan. Aeth â'r

dysgwyr ar daith llawn hiwmor o Baris i Foscow, o Nice

i Efrog Newydd gan rannu rhai o'i brofiadau fel

newyddiadurwr y BBC. Adroddodd ei hanes yn cyfweld

Bryn Terfel a Gwyn Hughes Jones yn Neuadd Carnegie.

Uniaethai'r gynulleidfa â (the audience identified with)

hanes ei gyfweliad rhyfeddol ag Eva cyn gêm beldroed

Cymru a Rwsia. Dyma'r ferch a fagwyd yn ninas

Moscow a ddysgodd y Gymraeg am iddi syrthio mewn

cariad â'r chwedlau Arthuraidd (Arthurian tales). Erbyn

hyn, mae ganddi'i dosbarth Cymraeg ei hunan _ mae'n

diwtor i ddeg Rwsiad arall sy am ddysgu'r Gymraeg.

Nos Fawrth 2 Mawrth, cynhaliwyd noson arall ym

Mwyty Seasons, Coleg Pen-y-bont. Cafodd y trigain

oedd yn bresennol noson ddiddorol tu hwnt yng

nghwmni'r Parchedig John Gillibrand, ei wraig Jill sydd

hefyd yn dysgu'r iaith yn llwyddiannus dros ben a Peter

y mab ieuengaf sy'n falch o'r ffaith ei fod yn ddisgybl yn

Ysgol Bro Ogwr. Adroddodd John hanes ei ‘daith’ yntau

_ yn Sais uniaith a anwyd ac a fagwyd ym Manceinion,

ei ymweliadau achlysurol â Phenllyn, ei fywyd fel athro

hanes yn Llundain, yr arallgyfeirio (the change of

direction) a'i ordeinio'n (his ordination) ficer, ei ‘yrfa’

fel dysgwr, a phinacl yr yrfa honno yn Eisteddfod

Genedlaethol Cwm Rhymni 1990 le enillodd Dlws

Dysgwr y Flwyddyn, ei waith fel ficer y plwyf yn

ardaloedd Dolgellau a Chaernarfon ac yna symud i Beny-bont

i weithio gyda'r Gymdeithas Autistiaeth (Autistic

Society).

A dyna Ddydd G˘yl Dewi drosodd am flwyddyn arall

tan y tro nesaf pan fydd pawb sawl cam ymhellach ar

hyd y ‘daith’ i feistroli'r iaith. Hei lwc i bob un _ daliwch

ati bois!

Roedd Jane a John Black wedi trefnu dwy daith gerdded ym

Mrynafan, gyda Brian Evans yn arwain un, a John ei hun yn arwain

y llall. Ar ôl ein gwaith caled (ac roedd tipyn o wynt a glaw y

diwrnod hwnnw!), roedd gwledd o fwyd blasus wedi’i baratoi gan

Jane a John yn eu tfl braf i fyny yn y bryniau. Rydym yn ddiolchgar

iawn iddynt ac i Brian Evans am rannu o’i wybodaeth fanwl am yr

ardal gyda ni.

Colin Williams

The above article tells of how the learners in

Morgannwg celebrated St Davids Day.

15