cylchgrawn
Rhifyn 47 Haf 2004 - Cyd
Rhifyn 47 Haf 2004 - Cyd
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Cadwyn_16pp_47.qxd 27/5/04 10:35 am Page 11

GWERSYLL YR URDD, Y BALA

Dach chi wedi sylwi pan mae dysgwyr Cymraeg yn

ymgynnull maen nhw’n cael hwyl. Wel doedd

Penwythnos Cyd yn Y Bala ddim yn wahanol.

Ar ôl brecwast dydd Sadwrn mi aethon ni mewn can˘

ar Lyn Tegid. Pan oedden ni’n hapus ac yn si˘r na

fydden ni ddim yn suddo, mi wnaethon ni ddechrau

canu caneuon Cymraeg. Mi alwon ni ar y can˘au

eraill a mi benderfynon ni gael ras yn ôl i lan y llyn.

Wrth gwrs enillodd ein can˘ ni!

Wedyn mi adeiladon ni rafft o bedwar o farilau a

rhaff, ond pan oedd gofyn i ni eu rhoi nhw yn y llyn

ac eistedd arnyn nhw, wel dôn i ddim mor si˘r.

Beth bynnag, aeth pedwar ohonon ni ar y rafft a

wnaeth o ddim suddo, diolch byth.

Wedyn roedden ni’n medru dewis

rhwng wâl ddringo a thaith ar y llyn

mewn cwch modur. Mi ddewises i’r

daith ar y llyn. Roedd y nefoedd yn

agor pan oedden ni ar ganol y llyn a mi

gaethon ni ein gwlychu. Roedd rhaid i

ni fynd i lan y llyn mewn cwch bach a

gweiddodd merch yn ein gr˘p i’r dyn yn

y cwch bach “Take me, take me.”

Dwedon ni wrthi hi “Sgen ti ddim

cywilydd?”!

Roedd pawb isio bwyd ar ôl y

gweithgareddau, ond doedden ni ddim yn

medru ymlacio. Roedd rhaid i ni siarad

Cymraeg efo ein hyfforddwr.

Roedd hi’n rhy wyntog i hwylio yn y prynhawn, felly mi benderfynon

ni fynd i dre Y Bala i ymarfer siarad Cymraeg. Aeth tri ohonon ni i

mewn i siop lyfrau a dechreuon ni siarad efo’r perchennog. Roedd hi

mor gyfeillgar ac mi arhoson ni yno a siaradon ni am amser maith efo

hi. Roedd yn brofiad hyfryd iawn.

rned

Roedd bore dydd Sul yn stormus ac yn wlyb. Roeddden ni i fod i fynd am dro, ond

mi benderfynon ni drio datrys problemau. Roedd rhaid i ni ddefnyddio planciau a theiar i groesi afon

ddychmygol oedd yn llawn o siarcod. Yn anffodus mi wnes i farw droeon!

Roedd penwythnos Cyd yn arbennig iawn. Roedd pawb yn glên, roedd Glan-llyn a’r hyfforddwyr yn

wych a doedd hyd yn oed y tywydd ddim yn difetha’r penwythnos.

Magi Bebb

11