cylchgrawn
Rhifyn 47 Haf 2004 - Cyd
Rhifyn 47 Haf 2004 - Cyd
You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Cadwyn_16pp_47.qxd 27/5/04 10:26 am Page 5

T a i t h f e i c i o C y m r u - C u b a

Mae Jenny Pye newydd ddod yn ôl o Cuba lle mae hi wedi

seiclo dros 1,000 milltir mewn 15 diwrnod o un pen Cuba

i’r llall. Roedd chwech ohonyn nhw’n seiclo ac maen nhw

wedi codi chwe mil o bunnoedd i brynu offer meddygol i’r

wlad. Roedd pawb wedi talu eu costau eu hunain yn

ogystal â chodi o leiaf £500 yr un tuag at yr achos. Roedd

Cymdeithas Cymru-Cuba yn helpu i drefnu’r daith. Dyma

rai o’r pethau fydd Jenny yn eu cofio fwya:

Y peth anodda: y gwres mawr (35ºC) ar ganol dydd –

chwys domen ac yn methu seiclo am bedair awr

Y peth hawdda: cael llety ar ddiwedd y dydd – llawer o

bobl yn cynnig stafell a bwyd mewn ‘casa’ yn rhad iawn

Y peth mwya rhyfeddol: trafnidiaeth – hen geir mawr

Americanaidd, loris a bysys hen iawn yn llawn dop efo

pobl, motobeics a seicars, beiciau’n cario’r teulu cyfan, cert

a cheffyl neu ych, tacsi beic

Y peth mwya diddorol: crocodeils – mewn fferm y tu ôl

i ffens – diolch byth!

Y bwyd gorau: y ffrwythau – llawer o fananas, afal pîn,

orennau, mango, cnau coco, guanabana, a chirimoya

Y diod rhata: ‘guayabo’ – diod oer braf o sudd siwgr cân

am hanner peso (un geiniog) wrth ochr y ffordd

Y profiad gorau: diwrnod rhydd yng nghanol y daith i

wneud deifio sgwba, gweld pysgod o bob siâp, maint a lliw

Y profiad gwaetha: y tîm cefnogi yn colli goriadau y car

yn y môr wrth snorclio

Y braw mwya: broga a choesau hir iawn ganddo yn

sboncio pum medr oddi ar wal ac yn glanio arna i!

Y peth mwya poenus: llosg haul ar y clustiau, y trwyn, y

gwefusau, a’r dwylo hyd yn oed

Y pethau gorau am Cuba: Pobl gyfeillgar, bywyd

hamddenol, gwlad hardd, dim glaw (yn y tymor sych)

Y peth gwaetha: crancod mawr coch ar draws y ffordd

ymhobman – sawl pynctiar, a chael crancod i swper!

Y teimlad brafia: cyrraedd Maria la Gorda ar ben y daith

ac ymlacio ar draeth o dywod aur dan y coed palmwydd a

nofio ym Môr y Caribi – braf iawn!

GEIRFA

Hugo

Dafydd

Jenny

Tom

o un pen i’r llall

offer meddygol

chwys domen

trafnidiaeth

llawn dop

ych

cnau coco

diwrnod rhydd

tîm cefnogi

goriadau

llosg haul

crancod

coed palmwydd

from one end to the other

medical equipment

all of a sweat

transport

full to bursting

oxen

coconut

free day

back-up team

keys

sunburn

crabs

palm trees

Tom, Dafydd, Iain, Veron, Hugo, Jenny, Francisco

(meddyg yn Cuba) Sam a Charles (tîm cefnogi)

5