cylchgrawn
Rhifyn 47 Haf 2004 - Cyd
Rhifyn 47 Haf 2004 - Cyd
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Cadwyn_16pp_47.qxd 27/5/04 10:29 am Page 7

Cyflwyno Tlws Coffa Robina

Mewn seremoni urddasol a gynhaliwyd yn ystod

Eisteddfod Gadeiriol Crymych ar Fai 15fed.

cyflwynwyd Tlws Coffa er cof am Robina Elis

Gruffydd. Yn dilyn colli Robina yn Nhachwedd 2002,

agorwyd Cronfa Goffa yn ei henw gan Fenter Iaith Sir

Benfro, Cynllun Ogam a Cyd Bro’r Preseli. Crëwyd

y Tlws gan Wynmor Owen, Trefdraeth, ac eleni oedd

y tro cyntaf i’r Tlws gael ei gyflwyno

Nod y Tlws yw hyrwyddo a gwobrwyo cyfraniadau i’r

meysydd hynny yr oedd Robina’n ymddiddori

ynddynt ac yn poeni amdanynt, sef yr Iaith Gymraeg,

Dysgu Cymraeg, y Diwylliant Cymraeg, Lles yr

Amgylchedd, Byd Natur a Chadwraeth.

Dyfarnwyd mai Dilys Parry oedd yn fuddugol ac fe

gyflwynwyd y Tlws iddi gan Dyfed Elis Gruffydd.

Yn ogystal â derbyn y Tlws Coffa sydd i’w gadw am

flwyddyn, derbyniodd Dilys Parry fedal arian a wnaed

gan Gemwaith Rhiannon, Tregaron, i’w gadw’n

barhaol yn tystio iddi dderbyn yr anrhydedd hwn.

Mae Mrs. Dilys Parry wedi rhoi oes o wasanaeth i

ddysgu Cymraeg i blant ac oedolion yn ardal

Hwlffordd. Bu’n gefnogol i fudiadau Cymraeg

Hwlffordd a’r cylch megis y Cymrodorion, Merched y

Wawr, Cyd ac ati. Mae hefyd wedi bod yn cyfieithu i

gyrff fel Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gan wneud hynny

yn raenus ac yn ddealladwy. Mae ganddi ddiddordeb

hefyd yn amrywiaeth cyfoethog byd natur Sir Benfro,

ac fel aelod o Gymdeithas Edward Llwyd arweiniodd

nifer o deithiau’r Gymdeithas honno.

Taith Gerdded Gyntaf Clwb

Cerdded Cyd, Caerdydd

Aeth Clwb Cerdded Cyd Caerdydd ar ei daith gyntaf ar nos

Lun, 10 Mai i’r Wenallt y tu allan i Gaerdydd. I’r rhai sy ddim

yn gyfarwydd â Chaerdydd, y Wenallt yw’r allt tua’r gogleddorllewin

os ydych chi ym Mharc Bute yng nghanol y ddinas,

yr allt sydd ar y gorwel gyda’r mastiau microdon.

Daeth chwech ohonon ni ar y daith i weld y clychau gleision

yn y coedwig, ac yn wir, roedd llawr y goedwig yn orchudd

glas ohonyn nhw.

Treulion ni tua awr a hanner yn crwydro yn y goedwig, yn

mwynhau’r blodau a’r coed – y fedwen, y dderwen, yr onnen

a llu o goed eraill. Er bod y tir o dan draed braidd yn llithrig

ar ôl yr holl law yr ydyn ni wedi ei gael yn ddiweddar, wnaeth

neb gwympo.

Roedd hi’n braf iawn dianc o’r ddinas brysur am ychydig i fod

mewn lle tawel, i glywed yr adar yn canu ac i anadlu’r aer pur

sydd heb ei lygru gan fwg ceir – fe allai rhywun fynd yn gaeth

i aer fel hwn!

Wedi gadael y goedwig, penderfynon ni fynd am ddiod mewn

tafarn gerllaw. Tafarn to gwellt ydy’r Traveller’s Rest, ac

mae’n hen iawn, gyda nenfydau isel, sy ddim yn arbennig o

ddiogel os ydych ch’n chwech troedfedd pump modfedd fel fi

– ow!

Diolch yn fawr iawn i Siân Ifan am drefnu’r daith i ni, ac am

iddi ein colli ni sawl tro tra oedden ni’n chwilio am lyn

bychan! Diolch i bawb am eu presenoldeb, diolch hefyd i

Caddy hithau am brynu creision i ni yn y dafarn ar ddiwedd y

daith!

Padi Phillips

Dyfed Elis-Gruffydd yn cyflwyno’r

tlws er cof am Robina i Dilys Parry

7