You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
C A D W Y N

GRADD ALLANOL

Prifysgol Cymru

Astudio'r Gymraeg??

Chwilio am gwrs newydd??

Beth am fanteisio ar y cyfle i ennill 40 credyd, Tystysgrif, a

chymryd un cam ar hyd y llwybr i ennill gradd yn y Gymraeg?

Mae'r cwrs DEFNYDDIO'R GYMRAEG yn cynnig hyfforddiant

i'r rhai hynny sy'n awyddus i weHa safon eu Cymraeg

ysgrifenedig, yn ddysgwyr ac yn Gymry Cymraeg fel ei gilydd.

Cynigir dau fodiwl:

MEISTROLI'R IAITH YSGRIFENEDIG

LLENYDDIAETH GYFOES

a dysgir y modiwlau gan ddarlithwyr Adran y Gymraeg,

Prifysgol Cymru Aberystwyth

Os oes gennych ddiddordeb, neu os hoffech dderbyn manylion

pellach ynghyd â ffurflen gais, cysylltwch â:

Mari Elin Jones

Cyfarwyddwr Academaidd y Radd Allanol

Adran y Gymraeg

Yr Hen Goleg, Stryd y Brenin,

Aberystwyth, Ceredigion, SY23 2AX

Ffôn: 01970-622050 E-bost: mlj@aber.ac.uk

Hybu rhagoriaeth meiun dysgu ac ymchiuil

Cyfarpar Newydd i CYD

Diolch i Gyngor Sir Ceredigion ac Arian i Bawb Cymru am gynnig

grantiau i brynu peiriant llungopì'o a chyfrifiadur newydd.

GWYBODAETH O'R CANGHENNAU

TYDDEWI

Mae CYD Tyddewi yn cwrdd bore Sadwrn cyntaf y mis, ac mae croeso i

ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg ymuno. Mae'r gr p yn cwrdd yng nghanol

Tyddewi, yn siop goflfi y "Coach House". Dyma gyfle i ddysgwyr ddefnyddio

eu Cymraeg a chwrdd â pobl sydd â diddordeb yn yr iaith a'r diwylliant

Cymraeg. Mae rhagor o fanylion CYD Tyddewi gyda Rob Pugh [ffôn: 01437

720404] neu Nigel Acton [ffôn: 01437 720758].

Mae llawer o bobl yn y dosbarthiadau Cymraeg yn ardal Tyddewi eleni, yn

rhannol mae'n debyg, o achos bod yr Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld â sir

Benfro, ym mis Awst.

CLWB CLEBER CRYMYCH

Mae dysgwyr a siaradwyr Cymraeg Bro'r Preseli yn cwrdd fore Gwener cyntaf

bob mis; mae nifer o diwtoriaid Cymraeg hef d yn helpu yn ffyddlon. Cyswllt

newydd y Clwb Cleber yma yw Delia Abbot, rhif ffôn: 01994 448424.

Diolch hef d i Margaret James, y tiwtor fu'n gyswllt gweithgar i Glwb

Cleber Bro'r Preseli am sawl blwyddyn.

BOREAU SADWRN CYMRAEG SIR BENFRO

Mae cyfle i siarad Cymraeg a chymdeithasu ar gael bron bob bore Sadwrn eleni

mewn gwahanol drefi yn sir Benfro. Fore Sadwrn laf a 3ydd y mis, mae CYD

yn cwrdd am goffì yn Hwlffordd, yn Nhafarn y Pembrolce Yeoman. Ar ail fore

Sadwrn y mis, mae'r aelodau yn cwrdd yn Abergwaun, yn y Stafell Goffi, wrth

ochr Siop DJ.

CYD HWLFFORDD

Mae CYD Hwlfifordd yn cwrdd ar nos Iau. Rhyw unwaith y mis mae'r aelodau

yn ymweld ag ardal arall yn sir Benfiro, megis Solfach ac Arberth. Cyswllt CYD

Hwlffordd yw Cefin Knox [ffôn: 01437 762223].

DYSGWYR NEWYDD TREFDRAETH

Mae CYD Trefdraeth yn cwrdd ers tua deuddeng mlynedd o dan arweiniad

cyfeillgar Eiry Ladd Lewis. Roedd cyfarfod mis Rhagfyr diwethaf yn

ardderchog. Ymunodd gr p o ddeuddeg dysgwr newydd gydag aelodau CYD

Trefdraeth, gyda'u tiwtor, Margaret James. Cafodd pawb goffi a phastai Dolig.

Roedd y dysgwyr yn aelodau o ddosbarth newydd yn Nhrefdraeth; mae'r

dosbarth yn astudio'r cwrs "Dosbarth Nos" yn ystod y dydd! Croesawyd pawb

gan Dafydd Gwylon, Swyddog Cyswllt CYD, ac yn fuan roedd pobl CYD a'r

dysgwyr newydd yn cyfnewid enwau a siarad am eu bro enedigol, "places of

origin". Roedd aelodau CYD hef d yn cynnig ambell i gyngor, "advice", a

llawer o gefnogaeth i'r dysgwyr. Roedd y cyfarfod yn un dymunol, gyda llawer

o ddysgwyr newydd. Ry'n ni'n edrych ymlaen at gynnydd, "progress", a

byddwn ni i gyd yn cael llawer o hwyl wrth ddysgu Cymraeg.

Ray Jones

ì

DIGWYDDIADAU CYD CASTELL NEWYDD EMLYN

lOfed o Hydref a'r gangen yn

cwrdd ym Maes Llewelyn pan

gafwyd profiad gwahanol gan yr

aelodau wrth chwarae'r gêm

"Disgrifìo" yng nghwmni'r

cynllunydd sef Robert Davies,

Arberth, ac yntau'n ddysgwr.

Llongyfarchiadau iddo am wneud

mor dda. Talwyd diolchiadau iddo

gan Margaret am noson

ardderchog oedd yn codi sgwrs a

hwyl a phawb wedi enjoio mas

draw ar ôl iddynt ddysgu'r rheolau

rhaid dweud! Margaret oedd yn

ennill y raffl fìsol roddedig gan

Mary Jane. Daethpwyd â'r cyfarfod

i ben gyda the a bisgedi.

"Fy Hoff Miwsig" oedd ar

raglen Tachwedd ac oherwydd fod

noson o gerddoriaeth mor

llwyddiannus y llynedd a'n

Cadeirydd yn absennol ar yr

achlysur hwnnw penderfynwyd ei

ail-gynnal eleni. Felly ar I4eg y mis

daeth nifer dda ynghyd â thapiau

i'w chwarae ac adrodd hanes o'u

dewis. Bu gennym gerddoriaeth

glasurol, opera, canu gwlad a jazz.

Gwnaed y diolchiadau gan

Morwenna a Margaret oedd yn

lwcus unwaith eto gan ennill

gwobr raffl Keith. Gorffennwyd y

cyfarfod gyda chlonc dros baned.

Dathlwyd y Nadolig gan

aelodau'r gangen yng nghwmni

gw r, gwragedd, ffrindiau a rhai

aelodau cangen Bro'r Preseli yn

Plas Rhos y Gilwen ac yn ein

croesawu wrth y drws roedd Ken

ein Cadeirydd. Mewn ystafell

wedi'i haddurno ar gyfer y tymor

arbennig hwn dechreuwyd y noson

gyda gwydraid o win o flaen tân

coed a phawb yn sgwrsio gyda'i

gilydd mewn awyrgylch gyfeillgar

iawn wrth i Marion O'Toole ganu'r

delyn. Ar ôl cinio Nadolig

traddodiadaol a'r gwasanaeth heb

ei ail bu Dilys, Dennis, Steve a

Nesta yn ein diddori trwy ganu

mewn pedwarawd ac ar ben eu

hunain mor dalentog. Ymunodd

pawb â nhw'n canu carolau a

Marion O'Toole oedd y cyfeilydd.

Mwynheuwyd coffì a chlonc cyn i

Bob dynnu'r raffl fawr. Noson

ardderchog, cyfeillgar a hwylus.

Mis Ionawr a'r aelodau wedi

dod â'u haddunedau blwyddyn

newydd. Er gwaetha absenoldeb

cymaint oherwydd salwch, cafwyd

noson dda iawn. Enillwyr y raffl

oedd Nesta a Fleur a diolchodd

Beti i bawb oedd wedi cyfrannu i

hwyl y noson. Daeth y cyfarfod i

ben gyda phaned a chlonc.

Margaret Holman

YN EISIAU

Gwybodaeth

lluniau

o'ch gweithgareddau

ar gyfer Cadwyn

CYD