Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Y GYFRAITH UG / U2

Wyt ti erioed wedi ystyried beth yw’r gwahaniaeth rhwng

Llofruddiaeth a Dynladdiad? Wyt ti erioed wedi ystyried

beth mae cymdeithas yn ceisio ei gyflawni trwy ddanfon

person i’r carchar am 10 mlynedd? Neu beth yw’r gwahaniaeth

rhwng cyfreithiwr a bargyfreithiwr? Mi fydd

cwestiynau yma a sawl cwestiwn arall yn cael eu hateb

yn ystod y cwrs.

Mae’r Gyfraith yn gwrs ddwy flynedd sy’n bwriadu datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o’r

cysyniadau a methodoleg o fewn ein system gyfreithiol. Mae’n cynnig sail gref i astudiaethau

pellach.

Ceir 4 rhan i’r arholiad y Gyfraith dros y ddwy flynedd o astudio

UWCH GYFRANNOL (UG)

LA1 — Strwythuron a Phrosesau

Beth yw'r Gyfraith a sut mae hi wedi datblygu — Ecwiti, Sefydliadau Ewrop, Systemau Cyfiawnder

Troseddol a Sifil, Y Gyfraith a Moesau

Arholiad 90 munud (2 draethawd, dewis allan o 6) [UG—50%, U2—25%] - I’w sefyll

mis Ionawr

LA2 — Rhesymu a Phersonél

Sut mae’r Gyfraith yn gweithio - Cynsail, Deddfwriaeth, Diwygiad, Proffesiwn Cyfreithiol,

Barnwriaeth

Arholiad 90 munud (2 ymateb i ysgogiad, dewis allan o 4) [UG—50%, U2—25%] - I’w

sefyll mis Mehefin

LEFEL A (U2)

LA3 — Deall y Gyfraith Sylweddol

Elfennau Cyfraith Droseddol Sylweddol, Llofruddiaeth, Dynladdiad, Tramgwyddau yn erbyn y

Person amddiffyniadau cyffredinol, Pwerau’r Heddlu a remediau

Arholiad 90 munud (2 broblem, dewis allan o 4) [U2—20%] - I’w sefyll mis Mehefin

LA4 - Deall Cyd-destun y Gyfraith

Egwyddorion Gyfraith Droseddol, mens rea, actus reus, atebolrwydd caeth, y broses treial ac

erlyn, dedfrydu

Arholiad 150 munud (2 draethawd, dewis o 4; 1 ymateb i ysgogiad, dewis o 2) [U2—

30%] - I’w sefyll mis Mehefin

(Nid yw gwaith cwrs yn rhan o’r asesiad terfynol)

17