You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
SEICOLEG UG/U2

Mae Seicoleg yn faes astudio cyffrous a diddorol sydd

yn ceisio darganfod sut mae meddwl dynol yn

gweithio. Mae'r pwnc yn wyddoniaeth ifanc ond un

sydd yn tyfu yn gyflym mewn poblogrwydd, wrth i'r

maes gael ei ddefnyddio i esbonio ymddygiad pobl a

chael ei gymhwyso i drin amrywiaeth o broblemau a

phryderon. Mae seicoleg yn helpu pobl i fabwysiadu

gwell dealltwriaeth o'u hymddygiad eu hunain a phobl eraill

Mae Seicoleg yn archwilio amrediad eang o faterion pob dydd fel straen, iechyd,

rhyngweithiad cymdeithasol a'r amgylchfyd i enwi ychydig. Rhai o'r cwestiynau sy'n cael

eu trafod ar y cwrs yw:

• Ydy pwysau cymdeithasol yn cael effaith ar ymddygiad?

• Ydy'r gwahaniaethau ymddygiadol rhwng dynion a menywod yn cael eu dysgu

neu ydynt yn gynhenid?

• Sut mae'n bosib gwella'r cof?

• Pam ydyn ni'n cael breuddwydion?

• Beth ydyn ni'n ei ddysgu am bobl trwy astudio ymddygiad anifeiliaid?

Arholiadau

UG- PY1 a PY2

PY1: 1 awr 15 munud- Ymaqweddau mewn Seicoleq

> Bydd rhaid i ymgeiswyr ddangos eu gwybodaeth a ‘u dealltwriaeth am y 4 prif

ymagwedd o fewn seicoleg; Biolegol, Seicodynamig, Gwybyddol ac Ymddygiadol.

(Bydd yr arholiad yn cael ei sefyll ym mis Ionawr)

PY2: 1 awr 45 munud- Astudiaethau Craidd a Dulliau Ymchwil Cymhwysol

> Bydd yr arholiad yn profi dealltwriaeth a gwerthusiad yr ymgeiswyr

o 10 astudiaeth graidd o fewn Seicoleg (10 arbrawf Seicolegol).

(Bydd yr arholiad yn cael ei sefyll yn yr haf)

U2- PY3 a PY4

PY3: 1 awr 30 munud- Dulliau Ymchwil a Materion mewn Ymchwil

> Bydd yr arholiad yn profi gwybodaeth a gwerthusiad yr ymgeiswyr o amrywiaeth a

thechnegau ymchwil a bydd rhaid trafod unrhyw faterion moesol a moesegol sydd

yn codi o'r arbrof ion.

(Bydd yr arholiad yn cael ei sefyll yn yr haf)

PY4: 2 awr 30 munud- Materion Dadleuol, Testunau a Chymwysiadau

> Bydd yr ymgeiswyr yn astudio amrywiaeth o gymwysiadau gan gynnwys arbrof ion

ar y cof, Seicoleg Chwaraeon a Seicoleg Fforensig.

(Bydd yr arholiad yn cael ei sefyll yn yr haf)

22