Postgraduate Prospectus 2013 - Swansea University
Postgraduate Prospectus 2013 - Swansea University
Postgraduate Prospectus 2013 - Swansea University
You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Cymraeg – Academi Hywel Teifi

Entry requirements

Ar gyfer yr MA yn y Gymraeg a’r MA

Cyfieithu gyda Thechnoleg Iaith, fel rheol

bydd gan fyfyrwyr eisoes radd

Anrhydedd dda (dosbarth cyntaf neu 2.1)

yn y Gymraeg neu ddisgyblaeth arall

berthnasol drwy gyfrwng y Gymraeg,

ond nid bob amser. Ystyrir pob cais yn

unigol.

Ar gyfer yr MA Cyfryngau a Chreadigrwydd

Digidol, fel rheol gofynnir am radd

Anrhydedd dda (dosbarth cyntaf neu 2.1)

yn y Cyfryngau neu ddisgyblaeth arall

berthnasol megis Drama, Cymraeg,

Hanes, Saesneg, Gwleidyddiaeth,

Addysg, y Gyfraith a’r Gwyddorau.

Ystyrir pob cais yn unigol.

Sefydlwyd Academi Hywel Teifi yn 2010

yn bwerdy ac yn sefydliad o ragoriaeth ar

gyfer y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe.

Cyfunwyd Adran y Gymraeg a Chanolfan

Cymraeg i Oedolion De-Orllewin Cymru,

gan greu un Academi newydd a chanddi’r

statws a’r adnoddau angenrheidiol ar

gyfer creu a chynnal cymuned ddysgu

fywiog, sy’n cynnwys ynddi fyfyrwyr MA,

MPhil a PhD. Mae’r Academi hefyd yn

hyrwyddo pynciau eraill a ddysgir trwy

gyfrwng y Gymraeg, gan ddwyn ynghyd y

nifer cynyddol o ysgolheigion ar draws

gwahanol ddisgyblaethau sy’n gweithio

trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol

Abertawe.

Bydd y graddau hyn yn:

• meithrin ynoch sgiliau perthnasol ar

gyfer gyrfa lwyddiannus mewn

amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys

dysgu, cyfieithu, rheoli, y cyfryngau a’r

Gwasanaeth Sifil

• eich cynorthwyo i ennill sgiliau

trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio

fel rhan o dîm, cyfathrebu, cyflwyno a

sgiliau dadansoddi

• eich paratoi ar gyfer gradd ymchwil

Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau

Mae ystod o ysgoloriaethau a

bwrsariaethau ar gyfer myfyrwyr ôl-radd

ar gael. Am fanylion, ewch i:

www.swansea.ac.uk/scholarships/

Postgraduate neu cysylltwch â’r Academi

yn uniongyrchol am arweiniad pellach.

Mae gan yr Academi lyfrgell eang ac

adnoddau clyweledol sylweddol. Darperir

adnoddau cyfrifiadurol a gweithle ar gyfer

holl fyfyrwyr ôl-radd.

MA yn y Gymraeg

Mae’r cynllun MA hwn yn adlewyrchu ystod

eang y diddordebau llenyddol ymhlith y staff

academaidd yn Academi Hywel Teifi ac

mae’n rhoi cyfle i chi astudio meysydd a

chyfnodau mewn mwy o ddyfnder nag a

wnaed ar gyfer gradd gyntaf, a hynny dan

gyfarwyddyd staff sy’n ymchwilio ac yn

cyhoeddi yn y maes. Os yw eich bryd ar

fynd ymlaen i wneud ymchwil bellach ar

gyfer doethuriaeth, dyma gynllun delfrydol ar

eich cyfer gan fod ei bwyslais ar feithrin

sgiliau ymchwil sy’n ateb gofynion y corff

ariannu perthnasol. Fel arall, gall y radd

fod yn estyniad delfrydol ar gyfer eich

gradd gyntaf. Dyma rai o nodweddion

amlycaf y rhaglen:

• Modiwlau gorfodol ar sgiliau ymchwil

ac egwyddorion beirniadaeth

• Astudir pynciau megis, rhyddiaith a

barddoniaeth yr Oesoedd Canol, yr

Anterliwt, y Diwygiad Methodistaidd, y

canon llenyddol, cynhyrchu llenyddiaeth

Gymraeg gyfoes, treftadaeth lenyddol,

beirniaid llenyddol, arddulleg,

blodeugerddi’r Ugeinfed Ganrif a

chyfieithu llenyddol.

Strwythur y graddau

Y mae strwythur y cwrs llawn-amser wedi’i

rannu ar draws blwyddyn gyda thri

modiwl yn cael eu cynnig ym mhob

semester academaidd (cyfanswm o

chwech modiwl yn Rhan Un) ac yna

cwblheir traethawd estynedig yn ystod yr

haf (Rhan Dau). Byddwch yn astudio tri

modiwl gorfodol a thri modiwl dewisol.

Chi, yn sgil trafodaeth gyda thiwtor, sydd

â’r dewis o bwnc ymchwil arbenigol ar

gyfer y traethawd estynedig. Fel arfer,

mae myfyrwyr rhan amser yn cymryd un

modiwl gorfodol a dau fodiwl dewisol yn

eu blwyddyn gyntaf ac yn eu hail

flwyddyn gan gyflawni’r traethawd

• Darlithoedd/seminarau wythnosol

• Asesu trwy draethodau neu waith cwrs

• Traethawd hir, dan gyfarwyddyd (hyd at

20,000 o eiriau).

MA Cyfieithu gyda Thechnoleg Iaith

Dyma gynllun gradd delfrydol ar gyfer y

sawl sydd am weithio ym maes cyfieithu.

Mae’n rhoi pwyslais ar loywi safonau

ieithyddol a defnyddio meddalwedd cof

cyfieithu. Gall myfyrwyr a enillodd radd

2.1 yn y Gymraeg neu mewn disygblaeth

arall berthnasol ddilyn y rhaglen MA hwn.

Edrychir ar gyfieithu ar gyfer y cyhoeddi,

cyfieithu mwy technegol ar gyfer

arbenigwyr, a hefyd gyfieithu ar y pryd.

Defnyddir amrywiaeth o dechnegau ar

gyfer datblygu’r safonau cyfieithu uchaf,

gan gynnwys profiad gwaith. Y mae sawl

un a enillodd MA Cyfieithu o Abertawe

bellach yn gweithio yn y proffesiwn, ac

mae’r cyfuniad o bwyslais ar dechnoleg

cof cyfieithu a safonau ieithyddol yn

gaffaeliad mawr i’n graddedigion. Mae’r

cynllun yn cynnwys:

• Modiwlau cyfieithu uwch ym maes

addysg, iechyd cyhoeddus a’r gyfraith, lle

y creffir ar safon eich cyfieithu personol

• Modiwl cyfieithu ar y pryd, dan ofal

cyfieithydd proffesiynol

• Modiwl technoleg cyfieithu, lle y dysgir sut

i ddefnyddio gwahanol offer cof cyfieithu

estynedig yn ystod y drydedd

flwyddyn.

Cynhelir darlithoedd a seminarau

ymchwil yn rheolaidd gan Academi

Hywel Teifi, gan Ganolfan

Astudiaethau Cymreig Richard Burton

a chan Sefydliad Ymchwil y

Celfyddydau a’r Dyniaethau, ac

anogir myfyrwyr i’w mynychu.

• Nifer o fodiwlau eraill ym maes theori

ac arfer cyfieithu, ynghyd â’r cyfle I

ddechrau dysgu iaith o’r newydd

• Cyfle i elwa ar gysylltiadau’r Academi

â chwmnïau cyfieithu.

MA Cyfryngau a Chreadigrwydd Digidol

(i’w ddilysu yn 2011)

Ym Medi 2011, bydd Academi Hywel

Teifi, Prifysgol Abertawe yn cyflwyno am y

tro cyntaf gwrs MA cyfrwng Cymraeg

newydd a chyffrous ar y cyd â Phrifysgol

Cymru: Y Drindod Dewi Sant o’r enw MA

Cyfryngau a Chreadigrwydd Digidol.

Bydd y cwrs arloesol a blaengar hwn, yn

ymdrechu i gyflwyno’r datblygiadau

diweddaraf ym maes y cyfryngau

amllwyfan – yn benodol radio, teledu a’r

cyfryngau newydd – trwy gyfuno y wedd

academaidd a’r wedd ymarferol. Yn

ogystal â rhoi arweiniad i fyfyrwyr ar sut i

lunio cynyrchiadau mewn oes o

gydgyfeiriant a digido cynyddol, y mae’r

cwrs hefyd yn meithrin sgiliau

arweinyddiaeth a busnes ac yn ymdrin â

sut y mae’r tirlun darlledu yn datblygu yng

Nghymru. Bydd y cwrs yn rhoi cyfle i bob

myfyriwr gydweithio’n agos gyda rhai o

ymarferwyr proffesiynol amlycaf Cymru er

mwyn hybu ei g/chyflogadwyaeth a’I b/

phrofiad. Dyma rai o nodweddion

amlycaf y rhaglen:

Asesu

Caiff y graddau hyn eu hasesu trwy

waith cwrs a thraethawd estynedig.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â

Swyddog Cyrsiau ôl-radd yr Academi:

Gwefan: www.abertawe.ac.uk/

academihywelteifi

Swyddog Derbyn:

Ebost: s.morris@abertawe.ac.uk

Ffôn: +44 (0)1792 602070

• Modiwlau gorfodol ar Sgiliau Ymchwil,

Sgiliau Allweddol ar gyfer Gwaith

Amllwyfan

• ac Arweinyddiaeth a Gwerthoedd

Cynhyrchu.

• Modiwlau dewisol ar Y Gynulleidfa a’r

Defnyddiwr Aml-lwyfan, Delweddu a

Dehongli Cenedl,Busnes a’r Tirlun

Amllwyfan, Creadigrwydd Aml-lwyfan,

Sefydliadau Diwydiannau Creadigol.

• Darlithoedd/seminarau/gweithdai

ymarferol trwy gyfrwng cyfnodau dysgu

dwys.

• Asesu trwy draethodau, adroddiadau,

cyflwyniadau llafar a gwaith cynhyrchu

• cyfryngol ymarferol.

• Cynigir dewis i fyfyrwyr gyflawni

traethawd hir (hyd at 20,000 o eiriau),

neu brosiect cynhyrchu 360º o safon

broffesiynol ar gyfer Rhan Dau y cwrs.

Darperir arweiniad gan diwtor

academaidd yn ogystal â mentor o’r

diwydiant cyfryngau ar gyfer pob

myfyriwr.

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler

tudalen 174 am fanylion

Gellir gwneud ceisiadau ar-lein trwy:

Gweler tudalennau 176 – 177 am fwy

o wybodaeth

Mae rhaglenni MPhil neu PhD ar gael

yn Academi Hywel Teifi yn ogystal. Am

fanylion o’r graddau ymchwil hyn ewch

i dudalen 106.

Master’s Degrees – Cymraeg – Academi Hywel Teifi

46

47