Postgraduate Prospectus 2013 - Swansea University
Postgraduate Prospectus 2013 - Swansea University
Postgraduate Prospectus 2013 - Swansea University
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Cymraeg – Academi Hywel Teifi

106

Cyfleodd ymchwil

MPhil, PhD, MA drwy Ymchwil

Canlyniad yr asesiad ymchwil yn 2008

Dangosodd canlyniadau’r RAE (asesiad

ymchwil) a gyhoeddwyd ar 18 Rhagfyr

2008 fod 95% o’r ymchwil a wnaed gan

aelodau’r Adran yn ystod cyfnod yr

asesiad o safon ryngwladol neu o safon

uwch na hynny. Barnwyd bod 65% o’r

ymchwil o safon 3* (rhagoriaeth ar

wastad rhyngwladol) neu o safon

4* (safon sy’n arwain y ffordd yn

rhyngwladol). Yr oedd y canlyniad

hwn yn un o’r goreuon yn y Brifysgol

ac yn y maes yn genedlaethol.

Sefydlwyd Academi Hywel Teifi yn 2010

yn bwerdy ac yn sefydliad o ragoriaeth

ar gyfer y Gymraeg ym Mhrifysgol

Abertawe. Cyfunwyd Adran y Gymraeg

a Chanolfan Cymraeg i Oedolion

De-Orllewin Cymru, gan greu un

Academi newydd a chanddi’r statws a’r

adnoddau angenrheidiol ar gyfer creu a

chynnal cymuned ddysgu fywiog, sy’n

cynnwys ynddi fyfyrwyr MA drwy

Ymchwil, MPhil a PhD. Mae’r Academi

hefyd yn hyrwyddo pynciau eraill a

ddysgir trwy gyfrwng y Gymraeg, gan

ddwyn ynghyd y nifer cynyddol o

ysgolheigion ar draws gwahanol

ddisgyblaethau sy’n gweithio trwy

gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol

Abertawe.

Mae i’r Gymraeg draddodiad

anrhydeddus o gynhyrchu ymchwil o’r

radd flaenaf ym Mhrifysgol Abertawe, a

rhan bwysig o’r diwylliant ymchwil hwnnw

yw’r berthynas rhwng y staff academaidd

a’r myfyrwyr ymchwil.

Mae graddau ymchwil yn y Gymraeg,

graddau MPhil a PhD, yn rhoi cyfle i

fyfyrwyr ddatblygu arbenigedd ym

meysydd iaith, cymdeithaseg iaith,

cyfieithu, llenyddiaeth o bob cyfnod,

drama, ffilm a theledu, theori ddiwylliannol

ac agweddau ar hanes a sefydliadau

Professors

G Ffrancon

T Hallam

C James

A C Lake

S Morris

R Rhys

Staff academaidd ac ymchwil 9

Ôl-raddedigion 21

Cymru. Mae ysgolheigion y Gymraeg ac

Astudiaethau’r Cyfryngau trwy gyfrwng y

Gymraeg yn Academi Hywel Teifi yn

croesawu ceisiadau wrth fyfyrwyr ymchwil

a garai gydweithio â nhw yn y meysydd

hyn.

Bydd astudio ar gyfer gradd ymchwil yn y

Gymraeg neu’r Cyfryngau trwy’r Gymraeg:

• ddatblygu sgiliau ymchwil newydd ac

arbenigol

• paratoi ar gyfer gyrfa academaidd neu

addysgol

• ennill sgiliau a chymhwyster sy’n

berthnasol ar gyfer ystod eang o

lwybrau gyrfaol ym meysydd addysg, y

cyfryngau, adloniant, cyfieithu, rheoli,

busnes a pholisi iaith

Mae gan lyfrgell y Brifysgol gasgliad

gwych o lyfrau a deunyddiau

amlgyfryngol ym maes y Gymraeg a

phynciau cysylltiedig. Sicrheir bod gan

bob myfyriwr ymchwil ofod addas ar gyfer

ei waith, gan gynnwys adnoddau

cyfrifiadurol a ddarperir yn benodol ar

gyfer myfyrwyr ymchwil. Bydd modd i

fyfyrwyr ddefnyddio’r labordy Iaith a

chyfieithu amlgyfryngol, ynghyd â’r

feddalwedd iaith gyfrifiadurol

ddiweddaraf.

Gofynion

Fel rheol, gradd is-raddedig dda (dosbarth

cyntaf neu 2:1), a gradd feistr yn y Gymraeg

y Cyfryngau neu bwnc perthnasol.

Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau

Mae ystod o ysgoloriaethau ar gael.

Am fanylion, gweler: www.swan.ac.uk/cy/

astudioynabertawe/

ysgoloriaethauabwrsariaethau

Cryfderau Ymchwil

Mae gan y staff academaidd arbenigedd

mewn nifer o feysydd. Maen nhw’n

cynnwys:

• Llenyddiaeth o bob cyfnod, gan

gynnwys golygu testunau neu

ymdriniaethau beirniadol ar waith

awduron unigol, cyfnodau neu themâu

arbennig. Gellir arbenigo ym maes

llenyddiaeth yr Oesoedd Canol, y

Cyfnod Modern neu lenyddiaeth

ddiweddar

• Cyfreithiau Hywel Dda, gan gynnwys

golygu testunol

• Sefydliadau ac amrywiol agweddau ar

ddiwylliant Cymru, gan gynnwys yr

Eisteddfod Genedlaethol, pleidiau

gwleidyddol ac S4C

• Drama, gan gynnwys anterliwtiau’r

ddeunawfed ganrif a dramâu diweddar

• Teledu ffilm a radio, gan gynnwys

astudiaethau hanesyddol, testunol neu

theoretig

• Y cyfryngau digidol ac aml-lwyfan

• Hanes a theori animeiddio rhyngwladol

• Ysgrifennu creadigol ac agweddau

cymdeithasol ar hyrwyddo llên

• Cyfieithu, cyfieithu llenyddol a

dwyieithrwydd

• Iaith a chymdeithaseg iaith, gan

gynnwys cynllunio ieithyddol

Am ragor o wybodaeth

Gwefan:

www.abertawe.ac.uk/academihywelteifi

Cysylltwch â’r Swyddog

Derbyn Ôl-raddedig:

E-bost: s.morris@abertawe.ac.uk

Ffôn: +44 (0)1792 602070

Os ydych am ymweld â’r Brifysgol:

gweler tudalen 174 am fanylion.

• Cymraeg i oedolion a maes caffael

iaith. Mae’r Academi yn gartref i

Ganolfan Cymraeg i Oedolion

De-Orllewin Cymru sydd yn arwain yn

genedlaethol ym maes ymchwil

Cymraeg i Oedolion

Croesewir ceisiadau ar gyfer graddau

PhD yn y meysydd hyn, ac mae astudio’n

rhan amser yn bosibl. Gellir hefyd elwa

ar arbenigedd staff mewn adrannau eraill

yn y Brifysgol a gweithio gyda mwy nag

un cyfarwyddwr ymchwil ar draws

disgyblaethau, e.e. cyfuno’r Gymraeg ag

astudiaeth sy’n berthnasol i’r Gyfraith,

Hanes, Saesneg, Cyfieithu, Ieithoedd

Modern, Ieithyddiaeth Gymhwysol,

Astudiaethau’r Cyfryngau, Seicoleg,

Busnes, Iechyd neu faes arall.

Gellir cael mwy o wybodaeth a

gwneud cais drwy edrych ar

www.swansea.ac.uk/cy/

astudioynabertawe – gweler

tudalennau 176 – 177 am ragor o

wybodaeth

Am wybodaeth ynghylch cyrsiau

MA yn y Gymraeg, Cyfeithu ac

Astudiaethau’r Cyfryngau trwy gyfrwng

y Gymraeg, gweler tudalennau 46.

Sefydliad Ymchwil y

Celfyddydau a’r Dyniaethau

Mae Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau

a’r Dyniaethau yn cynnwys ynddo dair

canolfan ymchwil fawr, gan gynnwys (i)

Canolfan Ymchwil Iaith, canolfan sy’n

elwa ar arbenigedd staff ym maes y

Gymraeg, ieithyddiaeth gymhwysol,

Saesneg a Ieithoedd Modern, a (ii)

Canolfan Astudiaethau Cymreig Richard

Burton, canolfan sy’n tynnu ynghyd staff a

myfyrwyr ymchwil o nifer o

ddisgyblaethau, gan ymchwilio i

amrywiol agweddau ar ddiwylliant

Cymru. O’r tu fewn i Goleg y

Celfyddydau a’r Dyniaethau ceir nifer o

grwpiau ymchwil gweithgar a chynhelir

seminarau ymchwil yn rheolaidd y gall

myfyrwyr eu mynychu, gan gynnwys

seminar y Gymraeg dan ofal Academi

Hywel Teifi.

Research Degrees – Cymraeg – Academi Hywel Teifi

107