12.07.2015 Views

Postgraduate Prospectus 2011

Postgraduate Prospectus 2011

Postgraduate Prospectus 2011

SHOW MORE
SHOW LESS
  • No tags were found...

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

Aberystwyth University - ABWTH A4052 Welsh and Other Celtic LanguagesAdran y Gymraeg(gan gynnwys Astudiaethau Celtaidd)MA Llenyddiaeth Gymraeg Ganoloesol / Medieval Welsh LiteratureMA Gwyddeleg/IrishTystysgrif mewn CyfieithuGraddau ymchwil: MPhil a PhDGwybodaeth BellachFurther InformationYr Athro / Professor Marged HaycockTiwtor y Graddedigion / <strong>Postgraduate</strong> TutorAdran y Gymraeg / Department of WelshPrifysgol Aberystwyth / Aberystwyth UniversityYr Hen Goleg / The Old CollegeStryd y Brenin / King StreetAberystwythCeredigion SY23 2AXFfôn / Tel: 01970 622137Ffacs / Fax: 01970 622976E-bost / Email: mah@aber.ac.ukwww.aber.ac.uk/cymraeg-welshMae’r Adran yn ganolfan ymchwil ers ei chychwyn cyntaf, a chynhelir y traddodiadhwn yn egnïol heddiw, fel y dengys ei bri rhyngwladol a’i llwyddiant yn AsesiadYmchwil 2008. O ran ymchwil a chyhoeddiadau ei staff, cyflwynwyd mwy o waithymchwil gennym ym maes y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd na chan yr unbrifysgol arall drwy Brydain a Gogledd Iwerddon. Barnwyd bod 65% ohono ynperthyn i’r ddau gategori uchaf sy’n dynodi rhagoriaeth ryngwladol, a thestunbalchder yw fod chwarter ein gwaith yn cael ei ddisgrifio fel ymchwil sy’n arwain yffordd yn rhyngwladol. Mae’r canlyniad gwych hwn yn ein gosod ymhlith y pedwarsefydliad gorau ym Mhrydain a Gogledd Iwerddon.O ran yr adrannau dysgu ym Mhrydain, y ddwy ar y brig oedd Prifysgol Caer-grawnt (sef yr AdranEingl-Saesneg, Norseg a Cheltaidd sydd yn wahanol ei gogwydd i ni) a’r Adran hon. Erbyn hyn ceir ynyr Adran fwy o uwchraddedigion nag mewn unrhyw adran Gymraeg gyffelyb. Caiff myfyrwyr ymchwilAberystwyth fanteisio ar gyfleusterau ac adnoddau o’r radd flaenaf. Ar wahân i gasgliadau Cymraeg aCheltaidd helaeth Llyfrgell Hugh Owen yn y Brifysgol ei hun, gall ein myfyrwyr elwa hefyd ar LyfrgellGenedlaethol Cymru, lle y ceir casgliadau digymar o lawysgrifau, o lyfrau printiedig, o gyfnodolionCymraeg, o ddeunydd ffilm, ac o archifau llenyddol eraill.Mae’r Adran yn cynnig y graddau uwch a restrir isod, sef dwy radd MA a gaiff eu dysgu, a graddauymchwil, sef naill ai MPhil (blwyddyn) neu PhD (tair blynedd). Mae hefyd ar gael Dystysgrif mewnCyfieithu. Fel arfer, bydd gan y sawl sy’n ceisio am le i ddilyn y cyrsiau hyn radd dda (dosbarth I neu IIi)yn y Gymraeg neu yn yr Wyddeleg neu mewn Astudiaethau Celtaidd. Cynigir ychydig o fwrsarïau bobblwyddyn, gan gynnwys dwy ‘Ysgoloriaeth y Gyngres Geltaidd’ (sy’n werth £500 yr un) a glustnodirar gyfer myfyrwyr tramor.MA Llenyddiaeth GymraegGanoloesolCwrs blwyddyn yw hwn, ac fe’i bwriedir ar gyfer myfyrwyr nad ydynt wediastudio’r Gymraeg a’i llenyddiaeth o’r blaen, ond sydd am ddysgu llawermewn amser byr. Er mai astudio deunydd a thraddodiadau canoloesolyw craidd y cwrs hwn, cynnwys hefyd gyflwyniad i Gymraeg Modern.Yn aml, bydd myfyrwyr yr MA yn mynd rhagddynt i weithio ar PhD, naillai yn Aberystwyth neu mewn prifysgol arall. Bydd eraill yn parhau euhastudiaethau mewn gwlad dramor. Saesneg yw cyfrwng dysgu’r cwrshwn.

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!