12.07.2015 Views

Postgraduate Prospectus 2011

Postgraduate Prospectus 2011

Postgraduate Prospectus 2011

SHOW MORE
SHOW LESS
  • No tags were found...

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

Aberystwyth University - ABWTH A40Welsh and Other Celtic Languages 53Seilir 120 o gredydau’r cwrs ar fodiwlau sy’n cael eu dysgu, a60 credyd ar draethawd (hyd at 20,000 o eiriau) y rhoddir hydat ddwy flynedd i’w gyflwyno. Astudir tri modiwl craidd, sefPedair Cainc y Mabinogi, Cymraeg (Iaith) I a Chymraeg (Iaith)II. Gyda’r modiwlau craidd dewisir dau fodiwl pellach o blith yrhain: Barddoniaeth Gymraeg Gynnar, Y Cylchoedd Englynion,Llenyddiaeth Arthuraidd, Dafydd ap Gwilym, a LlenyddiaethGeltaidd Gymharol. Fel arfer, bydd yr holl fodiwlau hyn argael, ond weithiau gall fod angen amrywio rhestr y modiwlaudewisol.MPhil (blwyddyn) a PhD(tair blynedd)Ar gyfer y graddau hyn mae gofyn llunio traethawd ymchwil.Traethawd hyd at 30,000 o eiriau yw’r MPhil, fel arfer, tra bo’rPhD yn waith mwy sylweddol sy’n gallu estyn hyd at 100,000gair. A bwrw bod yr Adran yn barnu ei bod yn addas, gellirdewis unrhyw bwnc ym meysydd iaith a llenyddiaeth yGymraeg. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf bu myfyrwyr yngweithio ar lawer o wahanol bynciau, er enghraifft cynllunioieithyddol, iaith y teledu, gwrywdod yn y llenyddiaeth gynnar,gwisgoedd ac ategolion yn llenyddiaeth yr Oesoedd Canol,canu cynnar Guto’r Glyn, rhyddiaith grefyddol, Salmau CânEdmwnd Prys, llên gwerin Gwylliaid Cochion Mawddwy,barddoniaeth Lewis Morris, barddoniaeth Menna Elfyn,nofelau Islwyn Ffowc Elis, ac agweddau ar nofelau MarionEames, Sonia Edwards ac Eigra Lewis Roberts. Mae gan yrAdran arbenigwyr yn y rhan fwyaf o feysydd yn ymwneud â’rGymraeg a’r ieithoedd Celtaidd. Yn eu plith ceir awduron ofri sydd yn barod i gyfarwyddo prosiectau PhD â’u ffocws argreu gwaith llenyddol estynedig (practice-led PhD). Mae pobmyfyriwr ymchwil dan ofal dau gyfarwyddwr sy’n arbenigoyn y maes. Darperir rhaglen lawn o hyfforddiant ymchwilsydd hefyd yn meithrin sgiliau allweddol, megis ysgrifennuyn eglur a chyfathrebu yn effeithiol â gwahanol fathau ogynulleidfa. Pan ellir, rhoddir cyfle i’r myfyrwyr ymchwil iddysgu seminarau yn yr Adran.Astudiaethau CeltaiddYn ogystal â chroesawu gwaith ymchwil ar unrhyw un o’rieithoedd Celtaidd, mae Adran y Gymraeg hefyd yn falcho’r cyfle i gyfarwyddo ymchwil ar bynciau sy’n gofyn amarbenigedd mewn unrhyw gyfuniad o’r ieithoedd hynny.MA Gwyddeleg (blwyddyn)Cwrs blwyddyn yw hwn, ac fel arfer, rhagofynion yr Adran ywcymhwyster yn y Gymraeg neu yn yr Wyddeleg neu mewnAstudiaethau Celtaidd — gradd BA dda gan amlaf. Seilir120 o gredydau’r cwrs ar fodiwlau sy’n cael eu dysgu, a 60credyd ar draethawd (hyd at 20,000 o eiriau) i’w gyflwyno ofewn dwy flynedd. Ar ôl ymgynghori â’r Athro AstudiaethauCeltaidd, ceir dewis pedwar modiwl(30 credyd yr un), o blith y canlynol:Hen Wyddeleg I, Hen Wyddeleg II,Gwyddeleg Canol I, GwyddelegCanol II, Gwyddeleg Diweddar I,Gwyddeleg Diweddar II, GwyddelegDiweddar III, Gwyddeleg DiweddarIV, Ieitheg Wyddeleg, Ffonoleg aMorffoleg yr Ieithoedd Celtaidd(gan gynnwys ieithoedd Celtaiddy Cyfandir), Llenyddiaeth GeltaiddGymharol, Ethnograffeg Geltaidd, aGaeleg yr Alban.MPhil neu PhDGwyddeleg, Gaeleg yr Alban, aLlydawegCyrsiau ymchwil blwyddyn (MPhil) neu dair blynedd (PhD) yw’rrhain, a’n rhagofynion yw gradd dda mewn Gwyddeleg neumewn Astudiaethau Celtaidd. Croesewir ymchwilwyr i weithioym meysydd astudiaethau Gwyddeleg, Gaeleg yr Alban, aLlydaweg gan gynnwys iaith, llenyddiaeth ac astudiaethaudiwylliannol. Mae gan yr Adran gryfderau hefyd ym maesy Celtiaid ar gyfandir Ewrop ac yn Asia Leiaf, ac yn enwedigyn nosbarthiad enwau lleoedd ac enwau personol. Cryfderarbennig arall yw hanes gwasgaru pobl o’r gwledydd Celtaiddyn y 19g, a hanes iaith a diwylliant siaradwyr Gwyddeleg aGaeleg yr Alban yng Ngogledd America. Ymhlith y traethodaudoethuriaeth y buwyd yn gweithio arnynt yn ddiweddar ymae rhai ar enwau lleoedd Gâl ac Iberia ac ar dafodiaith YnysDiùra (Jura).Tystysgrif Mewn CyfieithuCwrs blwyddyn rhan-amser yw hwn, ac fe’i dysgir ar y cydgan Adrannau Cymraeg Prifysgolion Aberystwyth a Bangor.Y mae’r dystysgrif yn gymhwyster proffesiynol ar gyfercyfieithwyr, ac fe’i bwriedir i raddedigion yn y Gymraeg neui rai sydd â chymwysterau sy’n gyfwerth â gradd anrhydedd.Y mae gofyn i fyfyrwyr fynychu pedair sesiwn yn Aberystwytha phedair ym Mangor, cyflawni ymarferion wythnosol, llunioprosiect a sefyll arholiad ysgrifenedig.Y mae manylion llawn am y cyrsiau hyn i’w gweld yn Llawlyfr yGraddedigion, llyfryn adrannol sydd ar gael drwy’r post.Welsh and Other CelticLanguagesThe Department has always been a renowned centre forresearch, and has a world-class reputation. In the 2008Research Assessment Exercise, we submitted more research

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!