Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yng Nghymru
16-059-web-welsh
16-059-web-welsh
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
egwyddor gyffredinol sy’n rhagdybio darpariaeth brif ffrwd. Pan nad yw dysgwr ag AAA wedi cael

datganiad, mae’n rhaid iddo gael ei addysgu mewn ysgol brif ffrwd. Os yw wedi cael datganiad, mae’n

rhaid o hyd iddo gael ei addysgu mewn ysgolion prif ffrwd oni fydd ei rieni’n dymuno fel arall neu os

nad yw’n gydnaws ag addysg effeithlon plant eraill. 6

Ni chaiff ysgolion ac awdurdodau derbyn wrthod derbyn plentyn dim ond oherwydd bod ganddo

AAA. Yn achos dysgwyr ag AAA ond heb ddatganiad, rhaid dilyn yr un gweithdrefnau derbyn ag ar

gyfer plant eraill. Yn achos dysgwyr â datganiadau, mae'n rhaid i ysgol a gynhelir dderbyn y plentyn os

yw’n cael ei henwi yn y datganiad.

Mae’n rhaid bod gan ysgolion a gynhelir a lleoliadau blynyddoedd cynnar bolisi AAA ysgrifenedig.

Mae’n rhaid i ysgolion ddynodi ‘person cyfrifol’ (y pennaeth fel arfer ond gall fod yn llywodraethwr)

sy’n sicrhau bod pob athro yn ymwybodol o AAA plentyn. Mae paragraff 1.38 o’r Cod yn ei gwneud yn

glir bod darpariaeth i ddysgwyr ag AAA yn fater i bawb mewn ysgolion a gynhelir a lleoliadau

blynyddoedd cynnar, ac nid y Cydlynydd AAA yn unig.

Y Cydlynydd AAA yw’r aelod o staff mewn ysgol sy’n gyfrifol am gydlynu darpariaeth AAA yn yr ysgol

honno. Mewn ysgol fach, efallai mai’r pennaeth neu’r dirprwy bennaeth fydd hwn, ond mewn ysgol

fawr, efallai y bydd yna dîm cydlynu AAA. Mae gan AAA ran hanfodol i’w chwarae i weithio gyda’r

athro/athrawon dosbarth i nodi AAA disgybl a pha fath o ymyriad sydd ei angen.

Mae’n rhaid i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir wneud pob ymdrech i sicrhau y rhoddir y

ddarpariaeth angenrheidiol i unrhyw ddisgybl sydd ag AAA. Mae’n rhaid i gyrff llywodraethu hefyd

gyflwyno adroddiad blynyddol i rieni ynglŷn â’r ffordd y mae polisi AAA yr ysgol yn cael ei roi ar waith. 7

Pan fo dysgwr wedi cael datganiad, yr awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y ddarpariaeth a amlinellir yn y

datganiad hwnnw. Os nad yw dysgwyr wedi cael datganiad, yr ysgol sy’n gyfrifol am benderfynu yr hyn

sydd ei angen ac am wneud y ddarpariaeth honno.

Darpariaeth ôl-16

Mae'r ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr dros 16 oed nad ydynt mewn ysgol wedi'i nodi mewn

deddfwriaeth ar wahân, sef Deddf Dysgu a Sgiliau 2000, sy'n ymdrin â chynllunio ac ariannu addysg

ôl-16. Mae’r ddeddfwriaeth yn defnyddio’r term ‘Anawsterau a/neu Anableddau Dysgu’ (AAD) yn

hytrach nag AAA. Caiff AAD eu diffinio yn adran 41(5) o Ddeddf 2000. Mae'r diffiniad yn ei hanfod yr un

fath ag ar gyfer AAA; h.y. a yw'r dysgwr yn cael llawer mwy o anhawster wrth ddysgu na'r mwyafrif yn ei

grŵp oedran, neu a oes ganddo anabledd sy'n ei atal neu'n ei rwystro rhag manteisio ar yr addysg a'r

hyfforddiant sydd fel arfer ar gael.

Ar hyn o bryd, mae dyletswydd gyffredinol ar Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 i

sicrhau cyfleusterau priodol (i’r rhai rhwng 16 a 19 oed) a chyfleusterau rhesymol (i’r rhai dros 19

oed) ar gyfer addysg a hyfforddiant i ddysgwyr. Yn benodol, mae adran 140 yn gosod dyletswydd ar

Lywodraeth Cymru i wneud trefniadau i bobl ifanc o dan 19 oed sydd wedi cael datganiad o AAA

gael eu hasesu, lle y cred eu bod yn debygol o adael yr ysgol ar ddiwedd eu blwyddyn olaf o

addysg orfodol i fynd ymlaen i addysg bellach neu uwch neu hyfforddiant. Cynhelir asesiad yn ystod

y flwyddyn olaf o addysg orfodol.

6

Adran 316, Deddf Addysg 1996

7

Adran 317, Deddf Addysg 1996

5