Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yng Nghymru
16-059-web-welsh
16-059-web-welsh
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Rhoi terfyn ar ddatganiadau, eu diwygio neu eu hadolygu

Mae’r Cod yn rhoi canllawiau ar y gweithdrefnau y dylid eu dilyn wrth roi’r gorau i gynnal datganiad

(paragraffau 8.117-8.124), diwygio datganiad sy’n bodoli eisoes (paragraffau 8.125-8.133) ac adolygu

datganiadau (pennod 9).

Ni ddylid tybio y dylai awdurdod lleol, ar ôl gwneud datganiad, barhau i gynnal y datganiad hwnnw hyd

nes na fydd yn gyfrifol mwyach am y person ifanc. Mae'r Cod yn nodi mai ‘dim ond pan fydd angen y

dylid cynnal datganiadau’ ond mai dim ond os yw ‘o’r farn nad yw’n angenrheidiol ei gynnal bellach’

y gall yr awdurdod lleol roi’r gorau i’w gynnal (para 8.118). Mae datganiadau’n mynd yn ddi-rym pan

fydd person ifanc yn symud i addysg bellach neu uwch neu’n gadael yr ysgol yn 16 oed; nid oes

angen rhoi’r gorau i gynnal datganiad os bydd yn mynd yn ddi-rym sut bynnag.

Dim ond ar ôl cael gorchymyn gan Dribiwnlys AAA Cymru, os caiff ei gyfarwyddo i wneud hynny gan

Weinidogion Cymru, neu yn unol ag Atodlen 27 i Ddeddf Addysg 1996 y gall awdurdodau lleol

ddiwygio datganiad. Mae Atodlen 27 yn nodi’r broses y mae’n rhaid i awdurdodau lleol ei dilyn os

ydynt am ddiwygio datganiad. Er enghraifft, os bydd awdurdod lleol yn dymuno gwneud hynny ar ôl

adolygiad blynyddol dysgwr, rhaid ysgrifennu at y rhieni a rhoi cyfle iddynt gyflwyno sylwadau. Mae’r

broses ar gyfer diwygio datganiad ar ôl ailasesiad yr un fath ag wrth wneud datganiad newydd.

Mae paragraff 9.1 o’r Cod yn ei gwneud yn ofynnol i bob datganiad (ac eithrio’r rhai i blant o dan ddwy

oed) gael ei adolygu’n flynyddol. Gwneir hyn er mwyn i’r awdurdod lleol, yr ysgol, y disgybl a’r rhieni,

a phob gweithiwr proffesiynol dan sylw ystyried cynnydd y disgybl yn ystod y 12 mis blaenorol ac a oes

angen unrhyw ddiwygiadau. Mae'r Cod yn nodi pwysigrwydd penodol yr adolygiad blynyddol a

gynhelir ym mlwyddyn 9 wrth baratoi ar gyfer cyfnod pontio’r disgybl i addysg bellach, hyfforddiant

yn y gwaith, cyflogaeth a bywyd oedolyn. Felly mae paragraff 9.46 yn nodi bod yn rhaid i’r adolygiad

blynyddol ym mlwyddyn 9 gynnwys Gyrfa Cymru.

15