Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yng Nghymru
16-059-web-welsh
16-059-web-welsh
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl y bydd y cydbwysedd rhwng nifer y dysgwyr y mae ysgolion ac

awdurdodau lleol yn eu cynnal yn 'debyg iawn' i'r cydbwysedd presennol rhwng dysgwyr a gefnogir

naill ai drwy Gweithredu gan yr Ysgol neu Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy, a'r rheini sydd â datganiad.

Cadarnhawyd hyn gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau mewn llythyr at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac

Addysg (PDF 191KB) yn ystod ei waith craffu cyn deddfu ddiwedd 2015. Fodd bynnag, roedd y

dystiolaeth a gafodd y Pwyllgor gan randdeiliaid yn awgrymu nad oedd yn eglur ym mha

amgylchiadau y byddai'r awdurdod lleol, yn hytrach na'r ysgol neu'r sefydliad addysg bellach, yn

gyfrifol am CDU dysgwr (gweler adran yn nes ymlaen yn y bennod hon).

Yn y Memorandwm Esboniadol drafft, roedd Llywodraeth Cymru yn crynhoi'r manteision a ragwelir

o gael cynllun unedig ar gyfer pob math o ADY fel a ganlyn:

Effaith y darpariaethau hyn fydd gwaredu'r anghysondebau a'r annhegwch sy'n

deillio o'r categorïau statudol ac anstatudol presennol o AAA, a'r gwahanol systemau ar

gyfer dysgwyr mewn ysgolion a sefydliadau addysg bellach. Trwy gyflwyno cynllun

unigol i gwmpasu sbectrwm eang o angen, bydd y system newydd yn fwy hyblyg ac yn

gallu ymateb yn well gan y bydd yn haws i addasu CDU dros amser er mwyn

adlewyrchu unrhyw newid o ran anghenion neu amgylchiadau. Yn fwyfwy, bydd yn

gwaredu'r ansicrwydd ynghylch pryd y dylai datganiad gael ei wneud ac ar gyfer pwy

ddylai gael ei wneud a'r ansicrwydd sy'n deillio o hyn. Bydd hefyd yn sicrhau dilyniant i

ddysgwyr wrth iddynt drosglwyddo o'r ysgol i addysg bellach. (para 3.65) [fy mhwyslais

i]

Cynigion ar gyfer proses gydweithredol integredig gydag ymyriadau cynnar,

amserol ac effeithiol (amcan cyffredinol)

Rhagor o gydweithredu (nod craidd)

Roedd y Bil drafft yn cynnwys dyletswydd newydd ar gyrff iechyd i gyflwyno unrhyw Ddarpariaeth

Ddysgu Ychwanegol a bennir mewn CDU, ac y maent wedi cytuno i'w darparu. Os bydd CDU yn nodi

bod bwrdd iechyd yn gyfrifol am ryw agwedd ar ddarpariaeth ddysgu ychwanegol, byddai hyn yn

golygu na fyddai dyletswydd bellach ar ysgol, coleg neu awdurdod lleol i sicrhau'r ddarpariaeth honno.

Fodd bynnag, byddai angen bod y byrddau iechyd wedi cytuno i wneud y ddarpariaeth honno fel

rhan o'r broses o lunio'r CDU; ni fyddai awdurdodau lleol yn gallu rhwymo'r GIG i ddarparu rhywbeth i

ddysgwr ag ADY nad oedd y byrddau iechyd wedi cytuno i'w ddarparu.

Mae’n arwyddocaol y rhoddwyd y cyfrifoldeb terfynol ar gorff iechyd am ddarpariaeth ddysgu

ychwanegol y mae wedi cytuno i'w darparu wrth ddatblygu'r CDU. Mynegwyd pryderon yn ystod

ymgynghoriad Papur Gwyn 2014 (PDF 730KB) am ba mor ymarferol fyddai gwneud awdurdodau

lleol yn atebol (drwy gyfrifoldeb terfynol am y CDU) am ddarpariaeth gwasanaethau gan gyrff nad

oes ganddynt unrhyw reolaeth drostynt. Nododd Estyn na all awdurdodau lleol fod yn gyfrifol yn y

pen draw am baratoi, cyflawni neu adolygu darpariaeth neu gymorth sy’n gyfrifoldeb ar y gwasanaeth

iechyd.

Ceir cydnabyddiaeth yn eang bod cydweithio effeithiol o'r cychwyn cyntaf wrth adnabod ADY a

datblygu CDU yn hanfodol i wella'r system. Mae'r Memorandwm Esboniadol drafft yn datgan y bydd

CDU yn cynnwys cynllun gweithredu sy'n 'nodi'n glir pa asiantaeth sy'n gyfrifol am gyflenwi'r elfennau

unigol cynllun gweithredu'. Mae pennod 13 o'r Cod drafft yn nodi'r dyletswyddau gorfodol ac yn rhoi

arweiniad ar sut y dylai'r gwaith amlasiantaeth hwn ddigwydd wrth baratoi CDU.

39