Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yng Nghymru
16-059-web-welsh
16-059-web-welsh
You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Heriau o ran symud i'r system newydd

Yn ychwanegol at y pedwar maes a amlinellir uchod, mae'r Pwyllgor hefyd wedi nodi rhai heriau

posibl mewn perthynas â symud i'r system newydd. Mae'r rhain yn cynnwys goblygiadau ariannol y

diwygiadau. Mae'r Pwyllgor yn credu bod angen gwneud y rhain yn fwy eglur pan fydd Bil yn cael ei

gyflwyno'n ffurfiol.

Materion eraill a godwyd yw gallu'r gweithlu i weithredu'r newidiadau, gofynion hyfforddi staff, ac

ystyriaeth y Bil drafft o'r iaith Gymraeg.

Yn ei ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru nad yw'r materion hyn yn uniongyrchol berthnasol i

ddarpariaethau'r Bil ei hun ond cytunodd eu bod yn amlwg yn hanfodol i roi'r fframwaith

deddfwriaethol arfaethedig ar waith yn llwyddiannus.

O ran costau, roedd Llywodraeth Cymru yn cydnabod y bydd y cyfnod pontio yn heriol ac mae wedi

ymrwymo i ddarparu cymorth ariannol i sefydliadau sy'n rhoi'r system newydd ar waith.

Ymatebion i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru grynodeb o'r ymatebion i'w hymgynghoriad ar y Bil drafft ar 1

Gorffennaf 2016. Hefyd cyhoeddodd bob un o'r ymatebion unigol. Cafwyd cyfanswm o 263 o

ymatebion, ond roedd 31 o ymatebion union yr un fath gan ymgyrch ynghylch y Gymraeg a 73 gan

ymgyrch ynghylch materion sy'n effeithio ar ddysgwyr byddar a dall.

Roedd yr ymgynghoriad yn cynnwys pum cwestiwn caeedig yn gofyn i gyfranogwyr a oeddent yn

cytuno neu'n anghytuno â datganiad ynghylch a fydd agwedd ar y Bil drafft yn effeithiol, neu

nad oeddent yn cytuno nac yn anghytuno. Mae'r canlyniadau yng nghrynodeb Llywodraeth Cymru,

sydd hefyd yn cynnwys y gyfran na atebodd y cwestiwn, yn dangos bod mwy o ymatebwyr yn

anghytuno â'r datganiadau nag yn cytuno yn achos pob un o'r pum cwestiwn caeedig. Mae'r tablau

isod yn rhoi manylion o ddadansoddiad Llywodraeth Cymru o'r ymatebion. Mae’r Gwasanaeth

Ymchwil wedi ychwanegu colofnau yn dangos y dadansoddiad o’r rhai a ddywedodd eu bod yn cytuno

neu’n anghytuno.

Tabl 11: Ymatebion i gwestiwn 1 yr ymgynghoriad

A ydych yn cytuno bod y diffiniadau o Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a Darpariaeth Ddysgu

Ychwanegol (DDdY) a nodir yn y Bil drafft yn adlewyrchu'n briodol y ffocws a ddymunwn ar anghenion

addysgol ac a ydych yn cytuno y byddai'r Bil drafft yn delio'n iawn â'r ystod oedran dan sylw?

% o gyfanswm yr ymatebion

Cytuno Anghytuno

% y rheini a ddywedodd eu bod

yn cytuno neu'n anghytuno

Ddim yn

cytuno nac yn

anghytuno Heb ateb Cytuno Anghytuno

34% 41% 19% 6% 45% 55%

44