Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yng Nghymru
16-059-web-welsh
16-059-web-welsh
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Rhoddodd y Bil drafft ddyletswydd newydd ar gyrff iechyd i gydymffurfio â chais gan awdurdod lleol

am wybodaeth, a'i fwriad oedd mynd i'r afael â phroblemau lle nad yw cyrff yn rhannu gwybodaeth

gystal ag y gallent.

Er gwaethaf pwyslais penodol Llywodraeth Cymru ar fwy o gydweithio rhwng llywodraeth leol a chyrff

iechyd, roedd y dystiolaeth a gafwyd yn ystod gwaith craffu cyn deddfu y Pwyllgor yn awgrymu y

byddai'r mesurau arfaethedig yn annigonol gan fod y dyletswyddau ar gyrff iechyd yn annigonol

(gweler adran yn nes ymlaen).

Dyheadau uchel a gwell deilliannau (nod craidd)

Roedd y Bil drafft yn cynnwys dyletswydd ar awdurdodau lleol i gadw golwg ar y trefniadau ar gyfer

darpariaeth ddysgu ychwanegol yn eu hardaloedd ac ystyried a yw'r rhain yn ddigonol. Wrth wneud

hynny, byddai angen iddynt roi sylw i'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol y gellid ei threfnu o fewn

rheswm gan gyrff eraill, fel byrddau iechyd. Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai hyn yn sicrhau

bod safonau uchel yn bodoli drwyddi draw.

Mae'r Bil drafft yn cyflwyno dwy swydd statudol newydd: Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol

mewn ysgolion a gynhelir a cholegau addysg bellach, a Swyddog Meddygol Dynodedig neu

Swyddog Clinigol Dynodedig mewn byrddau iechyd.

Cynigion ar gyfer system deg a thryloyw (amcan cyffredinol)

System symlach sy’n achosi llai o wrthdaro (nod craidd)

Roedd y Memorandwm Esboniadol drafft yn cydnabod y daeth adolygiadau blaenorol i'r casgliad bod y

system bresennol o ddatganiadau gan awdurdodau lleol â chefnogaeth statudol a darpariaeth

anstatudol dan arweiniad ysgolion yn 'gymhleth, dryslyd a gwrthwynebol'. Yn yr Ail Gynulliad,

canfu'r Pwyllgor Addysg, Sgiliau a Dysgu Gydol Oes (PDF 262KB) y gall y broses fod yn

wrthwynebol, yn rhwystredig, yn gymhleth a pheri straen i rieni, ac y gall fod yn system anghyfartal lle

mae'r rhieni mwyaf uchel eu cloch ac abl yn gallu manteisio ar y system yn fwy nag eraill.

Roedd y Memorandwm Esboniadol drafft yn datgan y byddai cyflwyno CDU statudol ar gyfer pob

dysgwr ag ADY yn 'gwaredu'r rhaniad artiffisial a dadleuol presennol' ac yn 'gwaredu un o brif

achosion tensiwn sy'n achosi gwrthdaro' (paragraff 3.77).

Osgoi anghytundebau a'u datrys yn gynharach (nod craidd)

Roedd y Memorandwm Esboniadol drafft yn rhagweld:

40

Os bydd anghytundebau ynghylch CDU neu'r ddarpariaeth o'i fewn dylai'r system

newydd ganolbwyntio ar sicrhau bod y mater yn cael ei ystyried a'i ddatrys ar y lefel

fwyaf leol bosibl. (para 3.12) [fy mhwyslais i]

Roedd y Cod drafft yn datgan:

Local authorities’ focus should be on providing the parties with the opportunity to

raise concerns at every stage of the process and prevent problems from escalating.

(para 454) [fy mhwyslais i]

Mae'r Bil drafft yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol wneud trefniadau ar gyfer osgoi a

datrys anghytundebau rhwng y plentyn/person ifanc a/neu'r rhiant, a'r ysgol/coleg neu'r awdurdod

lleol. Byddai'n rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod person annibynnol ar gael i helpu i ddatrys yr