Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yng Nghymru
16-059-web-welsh
16-059-web-welsh
You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Dylai awdurdodau lleol nodi’n glir bod y rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i’r cyngor ymwneud â

nodweddion addysgol, meddygol a seicolegol neu nodweddion eraill sy’n ymddangos yn

berthnasol i anghenion addysgol presennol plentyn a’i anghenion addysgol yn y dyfodol. Mae’n rhaid

i’r cyngor hefyd nodi sut y gallai’r nodweddion hynny effeithio ar anghenion addysgol presennol y

plentyn a’i anghenion addysgol yn y dyfodol a’r ddarpariaeth yr ystyrir ei bod yn briodol yng ngoleuni’r

nodweddion hynny.

Mae paragraff 7.86 yn nodi fod yn rhaid i’r awdurdod lleol, ar ôl cael yr holl gyngor, benderfynu a oes

angen gwneud datganiad neu ddiwygio datganiad sy’n bodoli eisoes. Mae’n rhaid iddo wneud y

penderfyniad hwnnw cyn pen deg wythnos ar ôl cyflwyno’r hysbysiad ei fod yn cynnal asesiad

statudol. (Mae hyn yn cynnwys y cyfnod o chwe wythnos i geisio cyngor.)

Os bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu bod angen gwneud neu ddiwygio datganiad, mae’n rhaid

iddo anfon copi o’r datganiad arfaethedig at rieni’r plentyn cyn pen pythefnos. Dylid cynnwys y

cyngor a gafwyd hefyd.

Os bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu nad oes angen gwneud na diwygio datganiad, mae’n rhaid

iddo hysbysu’r rhieni a rhoi rhesymau, gan roi nodyn yn lle’r datganiad os oes modd, hefyd o fewn

pythefnos.

Mae’n rhaid i rieni fel arfer gael eu hysbysu’n ffurfiol o ganlyniad yr asesiad o fewn 12 wythnos i

ddechrau’r asesiad statudol. Os mai datganiad arfaethedig ydyw, bydd gan yr awdurdod lleol wyth

wythnos arall i wneud y datganiad terfynol.

Mae hyn yn golygu y dylai’r broses gyfan o atgyfeirio neu wneud cais am asesiad statudol i gael

datganiad terfynol gael ei chwblhau o fewn 26 wythnos. (Mae hyn yn cynnwys y cyfnod gwreiddiol o

chwe wythnos i benderfynu a ddylid cynnal asesiad a’r 20 wythnos ar gyfer y broses o benderfynu a

oes angen datganiad a pharatoi’r datganiad hwnnw.)

Mae data o wefan Fy Nghyngor Lleol yn dangos i 68% o ddatganiadau AAA yn 2015-16 gael eu rhoi

o fewn y targed o 26 wythnos a 94% lle nad oedd unrhyw amgylchiadau arbennig.

Fel yn achos penderfyniadau a ddylid cynnal yr asesiad, mae gan rieni a phlant yr hawl i apelio i

Dribiwnlys AAA Cymru yn erbyn y penderfyniad.

Cynnwys datganiadau

Mae’n rhaid i ffurf a chynnwys datganiad a roddir gan awdurdod lleol gydymffurfio â pharagraff 8.29

o’r Cod. Dylai datganiad gynnwys:

Rhan 1, Cyflwyniad: Enw, cyfeiriad a dyddiad geni’r plentyn; iaith aelwyd y plentyn a’i grefydd;

enwau a chyfeiriad(au) rhieni’r plentyn.

Rhan 2, Anghenion Addysgol Arbennig: Manylion pob un o AAA y plentyn fel y’u nodwyd gan yr

awdurdod lleol yn ystod yr asesiad statudol; manylion y cyngor a gafwyd ac a atodwyd fel atodiadau

i’r datganiad.

Rhan 3, Darpariaeth Addysgol Arbennig: Y ddarpariaeth addysgol arbennig sy’n angenrheidiol ym

marn yr awdurdod lleol er mwyn diwallu AAA y plentyn, gan gynnwys amcanion y ddarpariaeth, y

ddarpariaeth ei hun a’r trefniadau ar gyfer monitro cynnydd.

13