11.11.2016 Views

Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yng Nghymru

16-059-web-welsh

16-059-web-welsh

SHOW MORE
SHOW LESS

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

hyn sydd ar gael fel arfer yn y dosbarth neu’r pwnc hwnnw. Dylid rhoi ystyriaeth wedyn i

helpu’r disgybl drwy Gweithredu gan yr Ysgol. [fy mhwyslais i]

Y prawf allweddol o’r angen am weithredu y dylai ysgolion ei ddefnyddio yw tystiolaeth bod y

cyfraddau cynnydd ar y pryd yn annigonol. Nid yw hyn o anghenraid mor syml â’r ffaith bod plentyn ar

ei hôl hi o’i gymharu â disgyblion eraill, gan na ellir tybio bod pob plentyn yn gwneud cynnydd ar yr un

gyfradd ac mae’r Cod (para 5.42) yn rhoi canllawiau ynglŷn â sut y gellir diffinio cynnydd digonol. Mae

hefyd yn bwysig nodi nad oes gan blentyn AAA o anghenraid os gellid datrys ei anawsterau dysgu

drwy addysgu gwahaniaethol yn unig.

Gweithredu gan yr Ysgol

Gweithredu gan yr Ysgol yw’r haen gyntaf o dair haen o ymyrryd o dan y dull gweithredu graddedig a

hyrwyddir gan y Cod. Ni ddylid cymryd bod pob haen yn gam tuag at yr un nesaf, yn enwedig o

Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy i ddatganiadau.

Mae disgyblion yn cael cymorth o dan Gweithredu gan yr Ysgol pan nad ydynt yn gwneud cynnydd

digonol ac na ellir mynd i’r afael â hyn drwy addysgu gwahaniaethol rheolaidd. Mae Gweithredu gan yr

Ysgol yn cynnwys ‘ymyriadau sy'n ychwanegol at y rhai a ddarperir fel rhan o gwricwlwm

gwahaniaethol a strategaethau arferol yr ysgol ac yn wahanol iddynt’.

Mae paragraff 5.44 esbonio y gallai ymyrraeth drwy Gweithredu gan yr Ysgol fod oherwydd

pryder, a gefnogir gan dystiolaeth, bod plentyn, er gwaethaf cael cyfleoedd dysgu gwahaniaethol:

yn gwneud fawr ddim cynnydd, neu ddim o gwbl, hyd yn oed pan fo’r dulliau addysgu’n cael eu

targedu’n benodol at fan gwan y plentyn;

yn dangos arwyddion ei fod yn cael anhawster i ddatblygu sgiliau llythrennedd neu

fathemateg, sy’n arwain at gyrhaeddiad isel mewn rhai meysydd cwricwlaidd;

yn amlygu anawsterau emosiynol neu ymddygiadol parhaus nad ydynt yn gwella o ddefnyddio

technegau rheoli ymddygiad arferol yr ysgol;

yn cael problemau synhwyraidd neu gorfforol, ac yn parhau i wneud fawr ddim cynnydd, neu

ddim o gwbl, er bod offer arbennig wedi’u darparu ar ei gyfer;

yn cael anawsterau cyfathrebu a/neu ryngweithio, ac yn parhau i wneud fawr ddim cynnydd neu

ddim o gwbl, er bod cwricwlwm gwahaniaethol wedi’i ddarparu ar ei gyfer.

Mae gan y Cydlynydd AAA ran bwysig i’w chwarae o ran gweithio gydag athro/athrawon y plentyn i

benderfynu ar y camau gweithredu sydd eu hangen er mwyn helpu’r plentyn i wneud cynnydd. Mae’r

Cod yn awgrymu y gallai deunyddiau dysgu gwahanol neu gyfarpar arbennig fod ymhlith yr ymyriadau

a wneir. Dylai’r strategaethau ychwanegol a ddefnyddir gael eu cofnodi o fewn Cynllun Addysg

Unigol, a ddylai hefyd gynnwys gwybodaeth am dargedau byrdymor, canlyniadau a meini prawf

llwyddiant/ymadael. Mae paragraff 5.53 yn nodi y dylai Cynlluniau Addysg Unigol gael eu hadolygu o

leiaf ddwywaith y flwyddyn, a phob tymor yn ddelfrydol.

Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy

Os nad yw’r ymyriadau o dan Gweithredu gan yr Ysgol yn sicrhau canlyniadau digonol, efallai y bydd y

Cydlynydd AAA a’r athro/athrawon, ar ôl ymgynghori â’r rhieni ac arbenigwyr, yn penderfynu cynnwys

gwasanaethau cymorth allanol.

7

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!