Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yng Nghymru
16-059-web-welsh
16-059-web-welsh
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Y fframwaith cyfreithiol presennol yng Nghymru

Mae'r trefniadau presennol ar gyfer canfod a darparu ar gyfer AAA wedi'u gwreiddio yn Neddf Addysg

1996 (a oedd yn cydgrynhoi deddfwriaeth flaenorol Deddf Addysg 1993) ac yn cael eu nodi'n fanylach

yn y Cod Ymarfer AAA ar gyfer Cymru (a gyflwynwyd yn 2002 ac a ddiweddarwyd yn 2004).

Fel un o ofynion y ddeddfwriaeth, paratowyd y Cod Ymarfer cyntaf gan Lywodraeth y DU a daeth i rym

ym 1994. Yn sgil datganoli, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg a Dysgu Gydol Oes ar y pryd, Jane

Davidson, y Cod Ymarfer AAA cyntaf sy’n benodol i Gymru [‘y Cod’ o hyn ymlaen]. Daeth hwn i rym

o 1 Ebrill 2002 ac mae’n dal mewn grym hyd heddiw.

Mae’r Cod yn amlinellu’r gweithdrefnau y dylid eu dilyn ar gyfer asesu p’un a oes gan ddysgwr AAA a

rhoi ymyriadau ar waith i ymdrin â hwy. Fodd bynnag, mae’r ffordd y caiff anghenion dysgwyr eu

canfod ac y darperir ar eu cyfer wedi bod yn newid yn raddol a gellir dadlau nad yw’r Cod yn hollol

gyfredol mwyach. Mae’r newidiadau hyn yn cynnwys, er enghraifft, defnyddio mwy ar y cysyniad

ehangach o ‘Anghenion Dysgu Ychwanegol’ (ADY), y disgwylir i’r ddeddfwriaeth arfaethedig roi sail

gyfreithiol iddo, a dibynnu llai ar ddatganiadau.

Serch hynny, wrth esbonio'r rhesymau dros oedi o ran cyflwyno deddfwriaeth yn ystod haf 2015 er

mwyn caniatáu ar gyfer rhagor o ymgynghori, mynnodd Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar y

pryd, fod y gofynion cyfreithiol presennol yn parhau ac atgoffodd awdurdodau lleol am eu

cyfrifoldebau. Ailadroddodd hyn mewn gohebiaeth at Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y

Pedwerydd Cynulliad ym mis Ionawr 2016 (PDF 214KB).

Mae’n rhaid i’r asiantaethau perthnasol roi sylw i’r Cod ac er y gallant ddewis sut yn union y byddant

yn cyflawni eu dyletswyddau statudol, mae’n rhaid iddynt wneud hynny yng ngoleuni’r canllawiau a

roddwyd ynddo. Mae’r Cod yn seiliedig ar bum egwyddor gyffredinol:

Dylai anghenion plentyn ag AAA gael eu diwallu;

Fel rheol caiff anghenion addysgol arbennig plant eu diwallu mewn ysgolion neu sefydliadau prif

ffrwd;

Dylid ceisio barn y plentyn, a’i chymryd i ystyriaeth;

Mae gan rieni rôl holl bwysig i’w chwarae i gefnogi addysg eu plentyn;

Dylid cynnig cyfle llawn i blant sydd ag AAA gael addysg eang, gytbwys a pherthnasol.

Trosolwg o gyfrifoldebau allweddol

Mae paragraff 1.19 o’r Cod yn nodi y dylai awdurdodau lleol, mewn partneriaeth ag ysgolion, ‘roi’r

flaenoriaeth uchaf i’w dyletswydd statudol i hyrwyddo safonau addysg uchel ar gyfer pob plentyn, yn

cynnwys rhai ag AAA’. Mae paragraff 1.20 yn nodi mai un o swyddogaethau hanfodol awdurdodau lleol

yw sicrhau bod anghenion plant a phobl ifanc sydd ag AAA ‘yn cael eu canfod a’u hasesu’n gyflym a

bod darpariaeth addas yn cael ei gwneud’.

Mae rhwymedigaeth ar awdurdodau lleol i gyhoeddi eu polisïau AAA a gwybodaeth ynglŷn â’r ffordd y

maent yn ‘hyrwyddo safonau addysg uchel’ i ddysgwyr ag AAA a’u hannog i gyfranogi’n llawn yn eu

hysgol a’u cymuned leol.

Mae paragraff 1.24 o'r Cod yn cynghori, er mwyn cyflawni eu rôl yn effeithiol, y dylai awdurdodau lleol

ddarparu ar gyfer cynnwys dysgwyr sydd ag AAA mewn ysgolion prif ffrwd. Mae hyn yn cyd-fynd â’r ail

4