Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yng Nghymru
16-059-web-welsh
16-059-web-welsh
You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
Diwygiadau yn Lloegr

Gwnaeth y Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 newidiadau i'r ddarpariaeth AAA yn Lloegr.

Cyhoeddwyd Special Educational Needs and Disability Code of Practice: 0-25 years diwygiedig

ym mis Ionawr 2014 a daeth i rym ar 1 Medi 2014.

Mae’r newidiadau yn Lloegr yn dwyn ynghyd ymyriadau addysgol ag iechyd a gofal, fel y darperir

ar gyfer y rhain mewn un cynllun. Maent hefyd yn integreiddio’r ddwy system cyn 16 ac ôl-16

flaenorol yn system 0-25 oed. Mae rhwymedigaeth ar awdurdodau lleol a chyrff iechyd i

gydweithio er mwyn diwallu anghenion pobl ifanc. Dywedodd Llywodraeth y DU y byddai rhieni a

phlant yn cael eu cynnwys llawer mwy yn y broses gwneud penderfyniadau.

Mae papur briffio Llyfrgell Tŷ'r Cyffredin, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2016, Special Educational

Needs: support in England, yn rhoi trosolwg defnyddiol o'r newidiadau yn Lloegr o fis Medi 2014, y

drefn atebolrwydd a sefydlwyd i archwilio'r trefniadau newydd, a rhywfaint o waith ymchwil cynnar ar

eu heffeithiolrwydd.

Mae gwefan Llywodraeth y DU hefyd yn cynnwys gwybodaeth am SEND yn Lloegr.

Beth sydd wedi newid?

Mae datganiadau AAA a all gwmpasu dysgwyr hyd at 19 oed yn cael eu disodli gan gynlluniau

Addysg, Iechyd a Gofal, a all fod ar waith hyd at 25 oed os yw’r person ifanc yn dal mewn addysg neu

hyfforddiant. O 1 Medi 2014, ni chaiff datganiad ei roi i unrhyw ddysgwyr newydd a bydd y rhai sydd

eisoes wedi cael datganiad yn cael eu trosglwyddo’n raddol i gynllun Addysg, Iechyd a Gofal erbyn 31

Mawrth 2018. Mae cynlluniau Addysg, Iechyd a Gofal yn gosod rhwymedigaethau statudol ar

awdurdodau lleol a chyrff iechyd i gydweithredu er mwyn diwallu anghenion y person ifanc. Mae

llawer o’r gofynion cyfreithiol ar gyfer asesiadau Addysg, Iechyd a Gofal yr un fath â’r gofynion ar gyfer

datganiadau neu’n debyg iddynt.

Mae Gweithredu gan yr Ysgol a Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy yn cael eu disodli gan system

gymorth raddedig yn yr ysgol i ddysgwyr y mae eu hanghenion yn golygu nad oes angen cynllun

Addysg, Iechyd a Gofal arnynt. Gelwir y system newydd yn ‘Cymorth AAA’. Mae hyn yn wahanol i'r

hyn a gynigir yng Nghymru a fyddai'n rhoi'r un math o gynllun i bob dysgwr ag ADY: y Cynllun

Datblygu Unigol (CDU). Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd CDU i bob dysgwr ag ADY yn

gwaredu un o brif achosion tensiwn 32 (rhwng y rhai sy'n cael darpariaeth â chefnogaeth statudol a'r

rhai nad ydynt yn cael y ddarpariaeth hon).

Mae tystiolaeth anecdotaidd a gafwyd gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Pedwerydd Cynulliad

yn ystod gwaith craffu cyn deddfu ar y Bil drafft, yn ogystal â sylw yn y cyfryngau, yn awgrymu y bu

goblygiadau ariannol sylweddol yn Lloegr yn sgil darparu cynlluniau Addysg, Iechyd a Gofal i bob

dysgwr a oedd â datganiadau yn flaenorol. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig darparu cynlluniau

statudol i bob un o’r 105,000 o ddysgwyr ag ADY, nid dim ond y 12,000 sydd â datganiadau ar hyn o

bryd.

Mae rhwymedigaeth ar awdurdodau lleol bellach i ddatblygu a chyhoeddi ‘Cynnig Lleol’, sy’n nodi

mewn un man wybodaeth am y ddarpariaeth y maent yn disgwyl iddi fod ar gael ym maes

addysg, iechyd a gofal cymdeithasol i blant a phobl ifanc sydd ag AAA neu sy’n anabl yn eu hardal.

32

Llywodraeth Cymru, Memorandwm Esboniadol drafft, Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys

Addysg (Cymru), 2015, paragraff 3.77

48