Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yng Nghymru
16-059-web-welsh
16-059-web-welsh
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Yn drydydd, lle bernir bod angen hynny, yn unol â datganiad AAA gan awdurdod lleol sy'n rhoi

hawl gyfreithiol i becyn penodedig o gymorth.

(Ceir rhaglenni sy’n cyfateb yn fras i Gweithredu gan yr Ysgol a Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy o fewn

y Blynyddoedd Cynnar.)

Yng Nghymru, ceir 105,000 o ddysgwyr y cydnabyddir yn swyddogol bod ganddynt AAA, ac mae gan

12,000 ohonynt ddatganiadau (blwyddyn academaidd 2015/16). Mae £362 miliwn wedi’i gyllidebu ar

hyn o bryd gan awdurdodau lleol ar gyfer darpariaeth AAA (blwyddyn ariannol 2015-16).

Bydd AAA fel arfer yn dod o dan o leiaf un o’r pedwar maes cyffredinol canlynol:

Cyfathrebu a rhyngweithio;

Gwybyddiaeth a dysgu;

Ymddygiad, datblygiad emosiynol a chymdeithasol;

Synhwyraidd a/neu gorfforol.

Diwygiadau arfaethedig

Ers rhai blynyddoedd bellach, mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod nad yw'r system bresennol

bellach yn addas at y diben. 2 Mae'n credu felly y dylai ‘dull gweithredu mwy modern o weithio

amlasiantaethol er budd y plentyn neu’r person ifanc, a fydd yn eu cefnogi yn y daith drwy addysg

a’u dewisiadau bywyd’ gymryd lle 'model a gyflwynwyd fwy na 30 mlynedd yn ôl'. 3

Fel y nodwyd yn ystod ei hymgynghoriad ar y Bil drafft yn 2015, mae gan Lywodraeth Cymru dri

amcan cyffredinol ar gyfer y system arfaethedig newydd:

Fframwaith deddfwriaethol unedig i gynorthwyo plant a phobl ifanc rhwng 0 a 25 oed sydd ag

ADY mewn ysgolion ac mewn addysg bellach (yn hytrach na’r system AAA bresennol ar gyfer plant a

phobl ifanc hyd at 16 oed a’r system Anawsterau a/neu Anableddau Dysgu (AAD) ar gyfer pobl ifanc

dros 16 oed, sy’n cael eu cynnwys o dan ddeddfwriaeth wahanol ar hyn o bryd);

Proses integredig a chydweithredol o asesu, cynllunio a monitro gydag ymyriadau cynnar,

amserol ac effeithiol (gan gynnwys dyletswyddau ar fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol i

gydweithio â'i gilydd i ddiwallu anghenion pob plentyn a pherson ifanc sydd ag ADY drwy baratoi

Cynllun Datblygu Unigol);

System deg a thryloyw o ddarparu gwybodaeth a chyngor, ac o ymdrin â phryderon ac achosion

o apêl (gan gynnwys ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol wneud trefniadau i osgoi ac ymdrin

ag anghytundebau, gan ddiwygio system a ddisgrifiwyd fel un 'gymhleth, ddryslyd a

gwrthwynebol'). 4

2

Llywodraeth Cymru, Cynigion deddfwriaethol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, Rhagair Gweinidogol (Huw

Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau), Mai 2014, t2

3

Llywodraeth Cymru, Ymlaen mewn partneriaeth ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol: Cynigion

ar gyfer diwygio’r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer anghenion addysgol arbennig, Mehefin 2012, t4

4

Rhestrwyd yr amcanion hyn ym mharagraff 3.3 o'r Memorandwm Esboniadol i'r Bil drafft ac fe'u nodwyd yn wreiddiol ym

Mhapur Gwyn 2014. Llythrennau italig gan yr awdur hwn.

2