Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yng Nghymru
16-059-web-welsh
16-059-web-welsh
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
anghytundeb, yn ogystal ag esbonio i'r plentyn/person ifanc a/neu'r rhiant na fydd unrhyw

drefniadau y maent yn cymryd rhan ynddynt yn effeithio ar eu hawl i apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru

(o'i ailenwi).

Roedd y Bil drafft hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol wneud trefniadau ar gyfer

gwasanaethau eirioli annibynnol, er mwyn darparu cyngor a chymorth i blentyn neu berson ifanc y

maent yn gyfrifol amdano, gan gynnwys yr opsiwn o ddarparu cynrychiolaeth. Byddai’r gwasanaeth

eirioli hwnnw hefyd yn ymestyn i 'gyfeillion achos' a fydd yn cynrychioli'r plentyn/person ifanc.

Byddai gan Weinidogion Cymru bwerau i wneud rheoliadau ynglŷn â swyddogaeth y cyfeillion achos

hyn.

Hawliau clir a chyson i apelio (nod craidd)

Mae'r Bil drafft yn darparu ar gyfer ailenwi Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru yn

Tribiwnlys Addysg Cymru. Mae adrannau 63-65 yn cadw'r trefniadau ymarferol presennol i raddau

helaeth ar gyfer y Tribiwnlys. Nid oedd y Bil drafft yn cynnig unrhyw newidiadau sylweddol i'r ffordd y

mae'r Tribiwnlys yn gwrando ar apeliadau. Fodd bynnag, byddai'r hawl i apelio a roddwyd i blant a

phobl ifanc mewn ysgolion a gynhelir ym mis Ionawr 2015 yn cael ei hymestyn i bob plentyn a

pherson ifanc ag ADY hyd at 25 oed.

Nodau craidd trawsbynciol

Roedd dau o ddeg nod craidd Llywodraeth Cymru yn berthnasol i bob un o'i thri amcan trosfwaol.

Cod gorfodol (nod craidd)

O dan y Bil drafft, byddai’n ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi Cod ar gyfer ADY. Byddai angen

gosod hwn gerbron y Cynulliad Cenedlaethol o dan broses debyg i'r Codau Derbyn i Ysgolion a

Threfniadaeth Ysgolion. Byddai angen i Lywodraeth Cymru ymgynghori ar ddrafft o'r Cod yn gyntaf.

Byddai statws y Cod o dan y trefniadau arfaethedig yn wahanol i'r Cod Ymarfer AAA presennol, a

luniwyd yn 2002 ac a ddiwygiwyd yn 2004. Mae'r Cod cyfredol (sy'n parhau mewn grym) yn rhoi

cyngor ymarferol i'r asiantaethau perthnasol wrth gyflawni eu swyddogaethau ac mae'n rhaid iddynt

roi sylw iddo. Fodd bynnag, mae ei ragair yn datgan mai cyfrifoldeb yr asiantaethau perthnasol yw

penderfynu sut yn union y maent yn cyflawni eu dyletswyddau statudol yng ngoleuni’r canllawiau

[yn hytrach na glynu'n gaeth atynt.

Mae’n ymddangos bod y Cod newydd, fel y nodir yn y fersiwn ddrafft (PDF 987KB) a gyhoeddodd

Llywodraeth Cymru i ategu'r ymgynghoriad, yn rhoi cyfarwyddyd mwy pendant. Mae cyflwyniad y

Cod drafft yn esbonio y bydd yn gosod rhai gofynion absoliwt ac y bydd rhwymedigaeth ar

asiantaethau perthnasol i gydymffurfio ag unrhyw un o'r darpariaethau gorfodol; yn yr un modd,

rhaid iddynt beidio â gwneud rhywbeth y mae'r Cod yn ei wahardd.

Yn y gorffennol, mae rhanddeiliaid wedi mynegi cefnogaeth ar gyfer cod gorfodol yn hytrach nag un

sy'n wirfoddol neu'n ddewisol yn unig. Roedd 89% o'r ymatebwyr o blaid hyn yn ymgynghoriad y

Papur Gwyn yn 2014.

41