11.11.2016 Views

Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yng Nghymru

16-059-web-welsh

16-059-web-welsh

SHOW MORE
SHOW LESS

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

Mae paragraff 5.56 yn disgrifio’r sail dros Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy, sef bod y plentyn, er iddo

gael rhaglen unigol a/neu gefnogaeth ddwys yn ystod cyfnod Gweithredu gan yr Ysgol:

yn parhau i wneud fawr ddim cynnydd, neu ddim o gwbl, mewn meysydd penodol dros gyfnod hir;

yn parhau i weithio ar lefelau Cwricwlwm Cenedlaethol sy’n sylweddol is na’r lefel a ddisgwylir gan

blant o oedran tebyg;

yn parhau i gael anhawster i ddatblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd;

yn cael anawsterau emosiynol neu ymddygiadol sy’n amharu’n sylweddol ac yn rheolaidd ar addysg

y plentyn ei hun neu addysg grŵp y dosbarth, er bod ganddo ei raglen rheoli ymddygiad ei hun;

ag anghenion synhwyraidd neu gorfforol, a bod arno angen cyfarpar arbenigol ychwanegol neu

gyngor neu ymweliadau rheolaidd gan wasanaeth arbenigol;

yn cael anawsterau cyfathrebu neu ryngweithio parhaus sy’n amharu ar ddatblygiad perthnasoedd

cymdeithasol ac yn rhwystr sylweddol rhag dysgu.

Gall yr awdurdod lleol, yn ogystal ag asiantaethau allanol, ddarparu gwasanaethau, gan gynnwys

cyngor ar Gynlluniau Addysg Unigol newydd â thargedau a strategaethau newydd, asesiadau mwy

arbenigol a chyngor ar strategaethau neu ddeunyddiau arbenigol newydd. Er eu bod yn cael eu

datblygu gyda chymorth arbenigwyr allanol, dylai strategaethau fel arfer gael eu rhoi ar waith yn yr

ystafell ddosbarth arferol hyd y gellir a’r athro ystafell ddosbarth ddylai barhau i fod yn gyfrifol am

eu rhoi ar waith.

Asesiadau a datganiadau statudol

Os nad yw Gweithredu gan yr Ysgol na Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy wedi arwain at welliant digonol,

neu os yw’n amlwg yn syth bod anghenion dysgwr yn ddigon difrifol, gall yr awdurdod lleol gynnal

asesiad statudol. Gall hyn yn ei dro beri i’r awdurdod lleol roi datganiad am AAA y plentyn.

Arwyddocâd datganiadau yw bod yr awdurdod lleol yn dod yn gyfrifol yn gyfreithiol am wneud

darpariaeth i ddiwallu anghenion a nodwyd. Mae dyletswydd arno o dan adran 324 o Ddeddf Addysg

1996 i drefnu’r ddarpariaeth addysgol arbennig yn natganiad plentyn. Mae geiriad y Cod pan gafodd ei

baratoi ar ddechrau’r degawd diwethaf yn dangos disgwyliad y caiff datganiadau eu rhoi yn niffyg

popeth arall neu yn yr achosion mwyaf difrifol.

Ar gyfer y mwyafrif helaeth o blant, bydd eu sefydliad prif ffrwd yn diwallu eu holl

anghenion addysgol arbennig. (…) Bydd gan leiafrif bach iawn o blant AAA mor

ddwys neu gymhleth fel y bydd gofyn i’r [awdurdod lleol] bennu a threfnu’r

ddarpariaeth addysgol arbennig sy’n angenrheidiol ar gyfer eu hanawsterau dysgu.

(para 1.2) [fy mhwyslais i]

Fodd bynnag, mae rhieni wedi tueddu i gredu mai datganiadau yw’r ffordd orau o sicrhau ymyriadau

i’w plentyn, gan gael tawelwch meddwl fwy na thebyg gan y sicrwydd cyfreithiol a roddant y caiff

darpariaeth ei gwneud. Gellir dadlau bod hyn wedi peri i’r system o ddatganiadau ddod yn

wrthwynebol ac yn hirfaith rhwng awdurdod lleol a rhiant. Yn wir, cydnabu'r Gweinidog Addysg a

Sgiliau blaenorol, Huw Lewis, y farn bod y system wedi dod ‘yn gymhleth, yn ddyrys ac yn

wrthwynebol’. 8 Dyna un o’r rhesymau pam mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cyflwyno system

8

Llywodraeth Cymru, Cynigion deddfwriaethol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, Rhagair Gweinidogol (Huw

Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau), Mai 2014, t2

8

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!