Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yng Nghymru
16-059-web-welsh
16-059-web-welsh
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Nifer y dysgwyr ag AAA

Mae tablau 1-4 yn rhoi rhai ystadegau ynglŷn â darpariaeth AAA mewn ysgolion a gynhelir yng

Nghymru.

Mae tabl 1 yn dangos nifer y dysgwyr ag AAA yng Nghymru, a sawl un ohonynt sy'n cael cymorth o

dan bob un o’r tair haen o ymyriadau dros y blynyddoedd diwethaf. Mae tabl 2 yn dadansoddi’r data

hyn yn ôl awdurdod lleol ar gyfer y flwyddyn ddiwethaf, sef 2015/16.

Mae tabl 3 yn dangos nifer y dysgwyr ag AAA fel cyfran o gyfanswm y disgyblion, yn ogystal â sawl un

ohonynt sydd wedi cael datganiad fel cyfran o gyfanswm y disgyblion, ac o’r disgyblion ag AAA. Mae

tabl 4 yn dadansoddi data 2015/16 yn ôl awdurdod lleol, sy’n golygu bod modd dadansoddi eu

defnydd cymharol o ddatganiadau i ryw raddau.

O'r tablau hyn, gellir gweld y canlynol:

Yn 2015/16, roedd 105,143 o ddisgyblion ag AAA mewn ysgolion a gynhelir, sef 22.5 y cant o’r holl

ddisgyblion.

Nid oedd gan y mwyafrif (88.2 y cant) o ddisgyblion ag AAA ddatganiad. Roedd 11.8 y cant o

ddisgyblion ag AAA wedi cael datganiad.

Mae cyfran y dysgwyr ag AAA sydd wedi cael datganiad wedi gostwng o flwyddyn i flwyddyn o 13.9 y

cant yn 2009/10 i 11.8 y cant yn 2014/15 a 2015/16. Dros yr un cyfnod, mae’r gyfran gyffredinol

sydd ag AAA wedi codi o 21.2 y cant i 22.5 y cant.

Mae cyfran y dysgwyr ag AAA sy’n cael datganiad yn amrywio ymhlith awdurdodau lleol. Er mai 11.8

y cant oedd y cyfartaledd ledled Cymru yn 2015/16, rhoddodd pedwar awdurdod lleol

ddatganiadau i fwy na 15 y cant o’u dysgwyr ag AAA, ond defnyddiodd pedwar awdurdod lleol

ddatganiadau ar gyfer llai nag 8 y cant.

Sir Fynwy a oedd â’r gyfran leiaf o ddysgwyr ag AAA (16.7 y cant) ond rhoddodd y gyfran fwyaf o

ddatganiadau ymhlith y garfan AAA (15.1 y cant). Ar y llaw arall, Ceredigion (28.7 y cant) a Merthyr

Tudful (28.5 y cant) a oedd â'r gyfran fwyaf o ddysgwyr ag AAA ond a roddodd dwy o'r cyfrannau

lleiaf o ddatganiadau (5.9 y cant a 7.8 y cant yn y drefn honno).

Mae hyn yn awgrymu bod awdurdodau lleol yn defnyddio gwahanol ffyrdd o ddiwallu AAA/ADY eu

disgyblion, gyda rhai’n cadw’r system sefydledig o ddatganiadau ac eraill yn symud i ffwrdd oddi

wrth y dull gweithredu hwn. Dylid nodi bod Estyn wedi dweud ‘there is not necessarily a correlation

between the percentage of statements and the quality of ALN services being provided’. 10

10

Cynulliad Cenedlaethol Cymru, y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, CYP(4)-24-13: Papur 6 – Estyn (PDF 380KB), 2 Hydref

2013

16