Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yng Nghymru
16-059-web-welsh
16-059-web-welsh
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Cynigion ar gyfer un fframwaith cyfreithiol rhwng 0 a 25 oed (amcan cyffredinol)

Cyflwyno'r term Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) (nod craidd)

Byddai'r Bil drafft yn cael gwared ar y termau presennol Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) ac

anawsterau a/neu anableddau dysgu, ac yn gosod y term Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn eu

lle. I raddau helaeth yn achos AAA, byddai hyn sefydlu dull yn y gyfraith sydd eisoes yn gyffredin

ledled Cymru. Mae'r term ADY eisoes yn cael ei ddefnyddio mewn termau ymarferol a pholisi ers

cyhoeddi'r canllawiau Cynnwys a Chynorthwyo Disgyblion ym mis Tachwedd 2006, a sefydlu'r

cynlluniau peilot yn 2009.

Mae'r Bil drafft ar gyfer ADY yn cadw'r un diffiniad ag ar gyfer AAA; h.y. a yw'r dysgwr yn cael

llawer mwy o anhawster wrth ddysgu na'r mwyafrif yn ei grŵp oedran, neu a oes ganddo anabledd sy'n

ei atal neu'n ei rwystro rhag manteisio ar yr addysg sydd fel arfer ar gael. Yn ei hanfod, mae hwn yr

un fath â'r diffiniad presennol o anawsterau a/neu anableddau dysgu ôl-16.

Adeg y Bil drafft, roedd Llywodraeth Cymru yn rhagweld y byddai'r un nifer o ddysgwyr yn cael eu

cyfrif fel rhai ag ADY fel sydd ag AAA ar hyn o bryd, o ganlyniad i ddefnyddio'r un diffiniadau. Fodd

bynnag, roedd Llywodraeth Cymru o'r farn y byddai defnyddio'r un term ar gyfer pob dysgwr o dan 25

oed yn cynnig mwy o degwch ac yn tanlinellu cydlyniaeth y system newydd. Roedd hefyd yn credu y

byddai'r term newydd, ADY, yn lleihau stigma ac yn dangos y bwriad i gefnu’n llwyr ar system yr oedd

angen ei diwygio'n sylfaenol.

Ystod oedran 0-25 (nod craidd)

Roedd y Bil drafft yn darparu ar gyfer un system newydd ar gyfer ADY cyn 16 ac ôl-16, yn lle'r

systemau presennol ar gyfer AAA ac anawsterau a/neu anableddau dysgu. Mae'n amlinellu prosesau

tebyg y mae'n rhaid i ysgolion a sefydliadau addysg bellach eu dilyn wrth asesu a oes gan

ddisgyblion/myfyrwyr ADY a chreu Cynllun Datblygu Unigol (CDU) ar eu cyfer. Mae hyn yn golygu y

byddai pob dysgwr ag ADY yn cael yr un fath o gynllun statudol ni waeth beth fo'i oed neu a yw yn

y chweched dosbarth mewn ysgol neu sefydliad addysg bellach.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y byddai hyn yn rhoi dysgwyr mewn addysg bellach, sydd â

Chynlluniau Dysgu a Sgiliau ar wahân ar hyn o bryd, mewn sefyllfa fwy cyfartal o'i gymharu â'u

cyfoedion mewn ysgolion. Dywedodd hefyd y dylai wella'r trosglwyddo rhwng addysg ysgol ac

addysg ôl-16. Newid sylweddol arall a gynigiwyd o safbwynt trosglwyddo oedd rhoi'r cyfrifoldeb am

ddarpariaeth arbenigol ôl-16 i awdurdodau lleol yn hytrach nag i Weinidogion Cymru. Roedd

Llywodraeth Cymru yn credu y byddai hyn yn annog awdurdodau lleol a darparwyr ôl-16 i weithio

gyda'i gilydd i gynllunio a chyflwyno darpariaeth, yn ogystal â chymell awdurdodau lleol i gynllunio ar

gyfer yr unigolyn ar ôl 16 oed mewn ffordd nad oes angen iddynt ar hyn o bryd o reidrwydd.

Cynllun unedig (nod craidd)

Yn union fel yr oedd y Bil drafft yn gofyn am yr un math o gynllun (CDU) ar gyfer dysgwyr o bob oedran

dan 25 oed, roedd hefyd yn gofyn am yr un math o gynllun ar gyfer pob dysgwr ag ADY ni waeth

pa mor ddifrifol yw’r anghenion. O dan system o'r fath, ni fyddai'r gwahaniaeth rhwng datganiadau,

a Gweithredu gan yr Ysgol neu Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy yn bodoli bellach. Yn hytrach, byddai

pob dysgwr ag ADY, yn ogystal â phob dysgwr 16-25 oed ag ADY, yn cael CDU. Fodd bynnag, byddai

gwahaniaethu o hyd rhwng rhai achosion (mwy difrifol a chymhleth) lle y byddai awdurdodau lleol yn

gyfrifol am gynnal y CDU, er mai'r ysgol neu'r sefydliad addysg bellach a fyddai'n gyfrifol yn y rhan

fwyaf o achosion.

38