Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yng Nghymru
16-059-web-welsh
16-059-web-welsh
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Y Bil drafft

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg

(Cymru) ar 6 Gorffennaf 2015. Ochr yn ochr â hyn, cafwyd datganiad Cabinet gan y Gweinidog

Addysg a Sgiliau ar y pryd, Huw Lewis. Parhaodd y cyfnod ymgynghori tan 18 Rhagfyr 2015.

Roedd y Bil drafft yn amlinellu fframwaith cyfreithiol newydd ar gyfer 'Anghenion Dysgu

Ychwanegol (ADY)' gyda Chynlluniau Datblygu Unigol ar gyfer pob dysgwr ag ADY hyd at 25 oed.

Byddai hyn yn disodli'r system bresennol o 'Anghenion Addysgol Arbennig (AAA)', sy'n darparu

cymorth graddedig drwy ymyriadau a arweinir gan yr ysgol neu drwy ddatganiadau a roddir gan yr

awdurdod lleol (fel y disgrifir ym mhennod 2 o'r papur hwn).

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod gan y ddeddfwriaeth ddrafft dri amcan polisi cyffredinol, sef creu:

Fframwaith deddfwriaethol unedig i gynorthwyo plant a phobl ifanc rhwng 0 a 25 oed sydd ag

ADY mewn ysgolion ac mewn addysg bellach (yn hytrach na’r system AAA bresennol ar gyfer plant a

phobl ifanc hyd at 16 oed a’r system Anawsterau a/neu Anableddau Dysgu (AAD) ar gyfer pobl ifanc

dros 16 oed, sy’n cael eu cynnwys o dan ddeddfwriaeth wahanol ar hyn o bryd);

Proses integredig a chydweithredol o asesu, cynllunio a monitro gydag ymyriadau cynnar,

amserol ac effeithiol (gan gynnwys dyletswyddau ar fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol i

gydweithio â’i gilydd i ddiwallu anghenion pob plentyn a pherson ifanc sydd ag ADY drwy baratoi

Cynllun Datblygu Unigol);

System deg a thryloyw o ddarparu gwybodaeth a chyngor, ac o ymdrin â phryderon ac achosion o

apêl (gan gynnwys ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol wneud trefniadau i osgoi ac

ymdrin ag anghytundebau, gan ddiwygio system a ddisgrifiwyd fel un ‘gymhleth, ddryslyd a

gwrthwynebol’). 30

Hefyd, ym mis Hydref 2015, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddrafft gwaith o'r Cod ADY newydd

(PDF 987KB) 'at ddibenion enghreifftiol', gyda'r bwriad iddo lywio'r ymgynghoriad a sicrhau gwell

dealltwriaeth o'r Bil drafft.

Esboniodd y Memorandwm Esboniadol drafft (PDF 1.21MB) i'r Bil fod y fframwaith deddfwriaethol

presennol yn seiliedig ar fodel a gyflwynwyd dros 30 mlynedd yn ôl, nad yw bellach yn addas i'r diben.

Roedd paragraff 3.2 yn rhestru 19 o wendidau'r system gyfredol, a thynnwyd sylw at rai ohonynt yn

2014 yn ymgynghoriad Papur Gwyn Llywodraeth Cymru. Mae'r gwendidau hyn yn cynnwys: stigma y

derminoleg gyfredol; anghysondeb a dryswch ynghylch y defnydd o ddatganiadau; problemau

trosglwyddo i ddarpariaeth ôl-16; gwendidau mewn gwaith aml-asiantaeth; ymyriadau diangen o

hwyr; a phroses wrthwynebol sy'n wynebu rhieni (nid yw rhestr yr awdur yn cwmpasu popeth).

Defnyddiodd ddeg nod craidd i fframio’r Bil drafft. Roedd gwybodaeth yn y Memorandwm Esboniadol

drafft ynglŷn â diben ac effaith y Bil drafft felly wedi'i strwythuro o amgylch y deg nod craidd hwn

(paragraffau 3.4-3.14 a 3.50-3.94). Isod, mae'r papur hwn yn nodi'r deg nod craidd o fewn y tri amcan

cyffredinol.

30

Rhestrwyd yr amcanion hyn ym mharagraff 3.3 o'r Memorandwm Esboniadol i'r Bil drafft ac fe'u nodwyd yn wreiddiol ym

Mhapur Gwyn 2014. Llythrennau italig gan yr awdur hwn.

37