Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yng Nghymru
16-059-web-welsh
16-059-web-welsh
You also want an ePaper? Increase the reach of your titles
YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.
penderfynu faint yn union y mae'n ei wario ar AAA). Mae cyllid dirprwyedig yn cyfrif am 73 y cant o

gyfanswm y gwariant AAA sydd wedi'i gyllidebu yn 2016-17.

Drwy arian y maent yn ei gadw’n ganolog o fewn Cyllideb Addysg yr Awdurdod Lleol 16 neu'r

Gyllideb Ysgolion. Mae 27 y cant o'r gwariant AAA yn cael ei gadw'n ganolog gan awdurdodau lleol

yn 2016-17.

O dan ddarpariaethau Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, mae Llywodraeth Cymru yn

nodi'r fframwaith cyfreithiol y mae awdurdodau lleol yn dyrannu eu gwariant ar addysg i ysgolion yn

unol ag ef. Nodir y fframwaith yn Rheoliadau Cyllido Ysgolion (Cymru) 2010. Mae’r rheoliadau yn ei

gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddyrannu gwariant i dair cyllideb, Cyllideb yr Awdurdod Lleol, y

Gyllideb Ysgolion a'r Gyllideb Ysgolion Unigol.

Mae rheoliadau 2010 yn nodi bod yn rhaid i'r Gyllideb Ysgolion Unigol gael ei dyrannu ymhlith

ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod ar ffurf cyfrannau cyllidebol, gan ddefnyddio fformiwla ariannu a

bennir yn lleol. Mae'n rhaid i 70 y cant o’r arian gael ei ddosbarthu ar sail nifer y disgyblion. Yn eu

fformiwla, gall awdurdodau lleol bwysoli nifer y disgyblion yn ôl nifer o ffactorau gan gynnwys AAA.

Mae'r Cod Ymarfer yn nodi'r canlynol mewn perthynas ag ariannu:

8.3 Dylai fod gan ysgolion a gynhelir, ac eithrio ysgolion arbennig, rywfaint o arian

yn eu cyllideb ddirprwyedig sy'n adlewyrchu anghenion ychwanegol disgyblion sydd

ag anghenion addysgol arbennig. Maent yn cael yr arian hwn trwy fformiwla ariannu

sy'n adlewyrchu nifer yr achosion o AAA, wedi'u mesur mewn gwahanol ffyrdd. (...)

8.4 O dan Reoliadau Anghenion Addysgol Arbennig (Darparu Gwybodaeth gan

Awdurdodau Addysg Lleol) (Cymru) 2002, mae’n ofynnol i [awdurdodau lleol]

gyhoeddi, o fis Ebrill 2002 ymlaen, fanylion o’r mathau o drefniadau cefnogi y gallai

ysgolion a gynhelir yn eu hardal ddarparu fel rheol o’u cyllidebau o dan Gweithredu

gan yr Ysgol a Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy. Yn ogystal, mae’n ofynnol iddynt

gyhoeddi eu cynlluniau eu hunain ar gyfer darparu cefnogaeth AAA briodol - yn

enwedig o dan Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy.

8.5 Lle bo angen adnoddau ychwanegol i alluogi ysgol i wneud y ddarpariaeth a

bennir mewn datganiadau, gall yr [awdurdod lleol] ddarparu’r adnoddau hynny’n

uniongyrchol o’r ddarpariaeth ganolog, datganoli adnoddau wedi’u clustnodi at y

diben i ysgolion, neu eu dirprwyo.

8.6 Sut bynnag y darperir adnoddau, mae gan ysgolion ac [awdurdodau lleol]

ddyletswyddau penodol mewn perthynas â phlant sydd ag anghenion addysgol

arbennig a dylai’r cyllid ar gyfer AAA gefnogi’r dyletswyddau hynny. [fy mhwyslais i]

Ystadegau ynglŷn ag ariannu

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ystadegau blynyddol ar wariant wedi'i gyllidebu ar

ddarpariaeth AAA. Mae tablau 5-7 isod yn rhoi rhywfaint o wybodaeth am faint o arian a ddyrennir i

AAA yng Nghymru.

16

Y term a ddefnyddir mewn deddfwriaeth yw 'cyllideb addysg nad yw ar gyfer ysgolion', gan ei fod yn cyfeirio at gyllid nad

yw'n cael ei ddirprwyo'n uniongyrchol i ysgolion. Fodd bynnag, cyfeirir ato'n gyffredinol fel cyllideb yr awdurdod lleol ac

roedd yn arfer cael ei alw'n gyllideb yr awdurdod addysg lleol. Mae'r term 'awdurdod lleol' wedi cael ei ddefnyddio yn lle

'awdurdod addysg lleol' ers 5 Mai 2010.

21