Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yng Nghymru
16-059-web-welsh
16-059-web-welsh
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
O dan system o’r fath, nid datganiadau fyddai’r ffactor pwysig o ran pennu lefel darpariaeth bellach a

byddant yn cael eu disodli gan Gynlluniau Datblygu Unigol (CDU). Ar hyn o bryd, dim ond

disgyblion ag AAA sydd wedi cael datganiadau sydd â’r hawl statudol i gael darpariaeth ychwanegol,

ond byddai’r newidiadau a gynigir yn rhoi hawl statudol i bob plentyn ag AAA gael CDU.

Nod hyn yn rhannol fydd mynd i’r afael â’r ddibyniaeth ar ddatganiadau fel yr unig ffordd

ganfyddedig o sicrhau darpariaeth. Fel y nododd Llywodraeth Cymru yn sgil yr ymgynghoriad â

rhieni, Datganiadau neu rywbeth gwell?:

Roedd teimlad cryf mai’r agwedd ar y trefniadau cyfredol a werthfawrogir fwyaf yw’r

diogelwch cyfreithiol a roddir gan ddatganiad. Roedd y rhieni hynny yr oedd eu plant

yn cael eu diogelu gan ddatganiad am ei gadw ac roedd y rhieni hynny nad oes gan

eu plant ddatganiad ar hyn o bryd am gael un. 23 [fy mhwyslais i]

Yn gyffredinol, nododd ymgynghoriad 2012 gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddeddfu er mwyn:

Rhoi statws cyfreithiol i’r cysyniad o anghenion ychwanegol (AY); 24

Cyflwyno Cynlluniau Datblygu Unigol (CDU) integredig newydd i blant a phobl ifanc yn lle

datganiadau AAA;

Nodi sut y bydd cynlluniau integredig â phawb rhwng 0 a 25 oed sy’n perthyn i’r gwahanol

categorïau angen;

Nodi’r dyletswyddau sydd i’w gosod ar gyrff perthnasol (megis awdurdodau lleol a’r GIG);

Nodi’r broses o ddatrys unrhyw anghydfodau;

Gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi cod ymarfer ar gyfer y fframwaith statudol

newydd;

Gosod dyletswydd ar gyrff perthnasol i gydweithredu mewn perthynas â darpariaeth AY;

Trosglwyddo’r cyfrifoldeb am asesu a darpariaeth ôl-16 ar gyfer dysgwyr ag anawsterau a/neu

anableddau dysgu (AAD) i awdurdodau lleol (ar hyn o bryd Gweinidogion Cymru sy’n gyfrifol am

hynny). Byddai’r term AAD ar gyfer pobl 16-25 oed yn cael ei gwmpasu o fewn un system ADY 0-

25 oed.

Mewn datganiad gan y Cabinet ar 17 Gorffennaf 2013, dywedodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau,

Huw Lewis, fod y mwyafrif o’r ymatebwyr wedi cytuno ag egwyddorion y cynigion, ond cydnabu fod

llawer o’r rhai a ymatebodd wedi gofyn am ragor o fanylion. Ychwanegodd y byddai ei swyddogion

yn ceisio barn rhanddeiliaid cyn paratoi dogfen ymgynghori arall, a ddaeth ar ffurf Papur Gwyn yn

2014.

Asesu ôl-16/darpariaeth ôl-16 a’r Bil Addysg (Cymru)

Roedd canfyddiadau trydedd rhan o ymchwiliad y Pwyllgor Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau ar

Drosglwyddo (PDF 2.90MB) yn cynnwys yr angen i gael dull gweithredu a oedd yn canolbwyntio’n

well ar y dysgwr a rhannu gwybodaeth a chydweithredu yn well rhwng asiantaethau. Nododd y

Pwyllgor fod y system yn rhy gymhleth ac nad oedd yn canolbwyntio digon ar y dysgwr.

23

Llywodraeth Cymru, Datganiadau neu rywbeth gwell: Crynodeb o'r cynydd a wnaed hyd yma a'r camau nesaf, Mai 2008, t4

24

Yn ddiweddarach penderfynodd Llywodraeth Cymru droi’n ôl at gynnig y term ‘Anghenion Dysgu Ychwanegol’ yn sgil

pryderon nad oedd gan ‘Anghenion Ychwanegol’ ddigon o ffocws addysgol.

33