11.11.2016 Views

Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yng Nghymru

16-059-web-welsh

16-059-web-welsh

SHOW MORE
SHOW LESS

You also want an ePaper? Increase the reach of your titles

YUMPU automatically turns print PDFs into web optimized ePapers that Google loves.

gyfannol lle mae pob dysgwr ag AAA yn cael Cynllun Datblygu Unigol yn lle’r system o ymyriadau o

dan arweiniad yr ysgol yn erbyn datganiadau statudol gan awdurdodau lleol.

Mae rheolau a gweithdrefnau wedi’u gosod mewn deddfwriaeth a’r Cod ynglŷn â materion megis

pryd mae rhwymedigaeth ar awdurdod lleol i gynnal asesiad, erbyn pryd y mae’n rhaid iddo wneud

hynny a pha ffactorau y mae’n rhaid eu hystyried.

Proses o asesiadau a datganiadau statudol

Mae pennod 7 o’r Cod Ymarfer yn amlinellu’r gweithdrefnau y dylai awdurdodau lleol eu dilyn mewn

perthynas â dysgwyr ag AAA sy’n ddigon difrifol fel bod angen asesiad statudol a datganiad o

bosibl arnynt. Mae’r gweithdrefnau hyn yn cynnwys amgylchiadau lle mae’r awdurdod lleol yn cael

cais i gynnal asesiad statudol.

Mae’r Cod yn disgrifio’r gofynion ar awdurdodau lleol o dan adrannau 321 a 323 o Ddeddf Addysg

1996 fel a ganlyn:

Rhaid i [awdurdodau lleol] ganfod a gwneud asesiad o’r plant hynny y maent yn

gyfrifol amdanynt sydd ag anghenion addysgol arbennig ac y mae’n debygol y bydd

angen datganiad arnynt. (tudalen 73)

Felly mae dau brif gam i awdurdodau lleol o ran gwneud penderfyniad.

Yn gyntaf, rhaid iddynt benderfynu a oes angen cynnal asesiad statudol.

Yn ail, os cynhelir asesiad, rhaid iddynt benderfynu a ddylid rhoi datganiad o'i AAA i ddysgwr.

Penderfynu a ddylid cynnal asesiad

Mae paragraff 7.7 o’r Cod yn nodi tri llwybr posibl o gyfeirio plentyn i gael asesiad:

Cais gan ysgol neu sefydliad y plentyn;

Cyfeiriad gan asiantaeth arall (er enghraifft, awdurdodau iechyd neu adrannau gwasanaethau

cymdeithasol);

Cais gan riant.

Os nad oes asesiad wedi’i gynnal eisoes yn y chwe mis blaenorol, mae’n rhaid i'r awdurdod lleol

ufuddhau i gais naill ai gan yr ysgol neu’r rhiant oni ddaw i’r casgliad, ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth,

nad oes angen asesiad statudol (paragraffau 7.11 a 7.21). Pan fo gweithiwr proffesiynol iechyd neu

wasanaethau cymdeithasol yn cyfeirio plentyn, unwaith eto, nid yw’n ofynnol yn awtomatig i’r

awdurdod lleol gynnal asesiad, er bod angen iddo gasglu tystiolaeth cyn ystyried a oes angen un (para

7.15).

Mae hyn yn golygu i bob diben mai’r awdurdod lleol fydd yn penderfynu a ddylai gynnal yr asesiad

er bod y Cod yn rhoi canllawiau ar ba ffactorau y dylai’r awdurdod lleol eu hystyried a chyda phwy

y dylai ymgynghori. Mae paragraff 7.35 o’r Cod yn nodi:

9

Hooray! Your file is uploaded and ready to be published.

Saved successfully!

Ooh no, something went wrong!