Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yng Nghymru
16-059-web-welsh
16-059-web-welsh
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Cynnwys plant a phobl ifanc yn fwy (nod craidd)

Mae Llywodraeth Cymru eisiau i'r system newydd fabwysiadu dull gweithredu sy'n canolbwyntio'n

fwy ar y person, gan arwain at fwy o gyfranogiad gan y dysgwyr eu hunain.

Roedd y Bil drafft yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson neu gorff sy'n arfer swyddogaethau o dan

y ddeddfwriaeth roi sylw i safbwyntiau, dymuniadau a theimladau'r plentyn neu'r person ifanc a'i rieni;

eu cyfranogiad yn y broses o wneud penderfyniadau; a'u mynediad at y wybodaeth a'r cymorth sydd

eu hangen er mwyn galluogi'r cyfranogiad hwn.

Gwaith craffu cyn deddfu gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Gwnaeth Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Pedwerydd Cynulliad waith craffu cyn deddfu ar y

Bil. Roedd hyn yn cynnwys clywed gan randdeiliaid sy'n gweithio gyda phlant a theuluoedd yr effeithir

arnynt gan AAA/ADY a chan gynrychiolwyr llywodraeth leol ac iechyd sy'n gysylltiedig â gweithredu

unrhyw newidiadau. Hefyd, holodd y Pwyllgor y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar y pryd, a hynny ar sail y

dystiolaeth a gafodd. 31

Ar y cyfan, roedd y Pwyllgor yn croesawu'n fawr y bwriad i ddiwygio'r system, ond roedd yn gweld bod

llawer o waith i'w wneud i fynd i'r afael â llawer o feysydd o ansicrwydd cyn i Fil gael ei gyflwyno'n

ffurfiol i broses ddeddfwriaethol y Cynulliad.

Roedd y dystiolaeth a gyflwynwyd i'r Pwyllgor yn gadarnhaol ynghylch nodau ac amcanion y Bil drafft

ar y cyfan. Fodd bynnag, codwyd rhai pryderon gan bob ymatebydd ynghylch yr agweddau ymarferol

ar y diwygiadau arfaethedig.

Yn ei lythyr dilynol at y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar y pryd (PDF 443KB), tynnodd y Pwyllgor

sylw at y materion a'r pwyntiau allweddol a ddeilliodd o'i waith craffu ac anogodd Lywodraeth Cymru i

gryfhau'r ddeddfwriaeth mewn nifer o feysydd a restrir isod. Hefyd ysgrifennodd y Pwyllgor at y

Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd (PDF 210KB) yn benodol ynghylch

gwaith amlasiantaeth. Cyhoeddodd y Gweinidogion ar y pryd ymateb ar y cyd ar 19 Ionawr 2016

(PDF 219KB).

Gwaith amlasiantaeth

Roedd y dystiolaeth yn awgrymu bod darpariaeth annigonol yn y Bil drafft ar gyfer cydweithio gan

awdurdodau lleol a byrddau iechyd. Tynnodd y Pwyllgor at anghydbwysedd canfyddedig rhwng y

cyfrifoldebau sydd ar lywodraeth leol ac ar gyrff iechyd, a daeth i'r casgliad bod angen rhoi

dyletswyddau cadarnach ar gyrff iechyd.

Roedd Llywodraeth Cymru yn cydnabod pa mor hanfodol yw gweithio mewn partneriaeth, yn

enwedig rhwng addysg ac iechyd, er mwyn gallu cyflawni'r gwelliannau a ddymunir. Dywedodd y

byddai'n ystyried pa gamau eraill y gellid eu cymryd, naill ai yn y ddeddfwriaeth ei hun neu drwy

ddulliau eraill, er mwyn hwyluso gwaith partneriaeth o'r fath, gan gynnwys sut y gellid datrys unrhyw

anghydfod rhwng awdurdodau lleol a chyrff iechyd.

31

Gweler drawsgrifiadau o gyfarfodydd y Pwyllgor ar 18 a 26 Tachwedd 2015 am fwy o wybodaeth.

42