Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Gwasanaethau Angladd

Datgan y Ffydd

Gellir defnyddio’r Datganiad hwn o Ffydd:

Gadewch inni ddatgan y newydd da a dderbyniasom,

y daliwn yn gadarn ynddo,

yr achubir ni trwyddo

ac a draddodwn i eraill.

Bu Crist farw dros ein pechodau ni

yn ôl yr Ysgrythurau;

fe’i claddwyd;

ac fe’i hatgyfodwyd i fywyd ar y trydydd dydd

yn ôl yr Ysgrythurau;

wedi hynny fe ymddangosodd i’w ddilynwyr,

ac i’r holl apostolion:

hyn a dderbyniasom,

a hyn yr ydym yn ei gredu. Amen.

(cf. I Corinthiaid 15.3-7).

Ymbiliau

Dywedir gweddïau addas (gweler Adran XI).

Gellir defnyddio’r cyflwyniad a’r ymateb a ganlyn:

Gweddïwn mewn tangnefedd ar yr Arglwydd:

Clyw ni, Arglwydd atgyfodedig:

ein hatgyfodiad a’n bywyd.

Gweddïau o Ddiolchgarwch

Gellir canu emynau a dwyn tystiolaeth.

Gellir defnyddio’r adnodau o ganlyn neu’r cyfan o’r Te Deum.

Ti Grist yw brenin y gogoniant:

ti yw tragwyddol Fab y Tad.

Pan gymeraist gnawd i’n rhyddhau ni:

dewisaist yn wylaidd groth y Wyryf.

Gorchfygaist golyn angau:

ac agor teyrnas nef i bawb sy’n credu.

Yr wyt yn eistedd ar ddeheulaw Duw mewn gogoniant:

yr ydym yn credu y deui di i’n barnu.

Tyrd, felly, O Arglwydd, a chynorthwya dy bobl:

a brynwyd â’th waed dy hun;

A dwg ni gyda’th saint:

i’r gogoniant tragwyddol.

Gellir defnyddio un neu ragor o’r gweddïau hyn o ddiolchgarwch.

Teilwng wyt ti, ein Harglwydd a’n Duw:

i dderbyn y gogoniant a’r anrhydedd a’r gallu,

Oherwydd tydi a greodd bob peth:

a thrwy dy ewyllys y daethant i fod ac y crewyd hwy.

Tudalen 49