Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Gwasanaethau Angladd

GWASANAETH COFFA: GWASANAETH ENGHREIFFTIOL

Y DOD YNGHYD

Y mae’r gweinidog yn croesawu’r bobl ac yn cyflwyno’r gwasanaeth.

Gellir canu neu ddweud brawddegau o’r Ysgrythur, a gellir canu emyn.

Dywed y gweinidog

Yr ydym yn cwrdd yn enw Iesu Grist, a fu farw ac a gyfododd er gogoniant Duw Dad. Gras a

thrugaredd a fo gyda chwi.

(A hefyd gyda thi).

Y mae’r gweinidog yn cyflwyno’r gwasanaeth gyda’r geiriau hyn neu eiriau addas eraill.

Disgwyliwn nid wrth y pethau a welir ond wrth y pethau nas gwelir; oherwydd byrhoedlog yw’r

pethau a welir, ond y mae’r pethau nas gwelir yn dragwyddol. Daethom ynghyd heddiw i gofio

gerbron Duw ein brawd/chwaer E., i ddiolch am ei f/bywyd ac i gysuro y naill y llall yn ein

galar.

Gweddi Agoriadol : Dywedir un o’r gweddïau hyn:

Dad nefol, diolchwn i ti am iti ein llunio ar dy ddelw dy hun a rhoddi inni ddoniau corff,

meddwl ac ysbryd. Diolchwn iti yn awr am E. ac am yr hyn a olygai i bob un ohonom. Wrth

inni anrhydeddu’r coffa amdano/i, gwna ni’n fwy ymwybodol mai ti yw’r un y daw oddi wrtho

bob rhodd berffaith, gan gynnwys y rhodd o fywyd tragwyddol trwy Iesu Grist. Amen.

Neu

Dad nefol, moliannwn dy enw am bawb a orffennodd y bywyd hwn yn dy garu di ac yn

ymddiried ynot, am esiampl eu bywydau, am y bywyd a’r gras a roddaist iddynt ac am y

tangnefedd y maent yn gorffwyso ynddo. Molwn di heddiw am dy was/wasanaethferch E. ac

am bopeth a wnaethost trwyddo/i. Tyrd i gwrdd â ni yn ein tristwch a llanw ein calonnau â

moliant a diolchgarwch, er mwyn ein Harglwydd atgyfodedig, Iesu Grist. Amen.

DARLLENIADAU A PHREGETH

Gellir defnyddio’r gantigl hon:

Bydd gwaredigion yr Arglwydd yn dychwelyd:

a bydd gofid a griddfan yn ffoi ymaith.

Llawenyched yr anial a’r sychdir:

gorfoledded y diffeithwch, a blodeuo.

Cânt weld gogoniant yr Arglwydd:

a mawrhydi ein Duw ni.

Bydd gwaredigion yr Arglwydd yn dychwelyd:

a bydd gofid a griddfan yn ffoi ymaith.

Cadarnhewch y dwylo llesg:

cryfhewch y gliniau gwan;

Tudalen 47