Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Alternative Funeral Service - Yr Eglwys yng Nghymru
Create successful ePaper yourself
Turn your PDF publications into a flip-book with our unique Google optimized e-Paper software.
Gwasanaethau Angladd

XIII. CANTIGLAU I’W DEFNYDDIO MEWN GWASANAETHAU ANGLADD

A GWASANAETHAU COFFA

1. CÂN AM Y GWAREDWR

Cyhoeddwch flwyddyn ffafr yr Arglwydd:

a diddanwch bawb sy’n galaru.

1 Y mae ysbryd yr Arglwydd Dduw arnaf:

oherwydd i’r Arglwydd fy eneinio

2 I gysuro’r toredig o galon:

ac i roi gollyngdod i’r carcharorion;

3 I gyhoeddi blwyddyn ffafr yr Arglwydd:

ac i ddiddanu pawb sy’n galaru,

4 I roi iddynt olew llawenydd yn lle galar:

mantell moliant yn lle digalondid.

5 Gelwir hwy yn brennau cyfiawnder:

wedi eu plannu gan yr Arglwydd i’w ogoniant.

6 Felly y gwna’r Arglwydd Dduw i gyfiawnder a moliant:

darddu gerbron yr holl genhedloedd.

7 Ailadeiladant hen adfeilion:

atgyweiriant ddinasoedd diffaith.

8 Fe’u gelwir hwy yn Waredigion yr Arglwydd:

ac fe’th elwir di yn Ddinas nas gwrthodwyd.

Eseia 61:1-3,11b, 4; 62:12

Gogoniant i’r Tad ac i’r Mab ac i’r Ysbryd Glân:

megis yr oedd yn y dechrau y mae yn awr,

ac y bydd yn wastad, yn oes oesoedd. Amen.

2. CÂN MANASSE

Llawn tosturi a thrugaredd a chariad:

yw’r Duw goruchaf a hollalluog.

1 Arglwydd hollalluog, Duw ein tadau ni:

ti a wnaeth nef a daear a holl ysblander eu trefn.

2 Y mae pob peth yn crynu ac yn dychrynu:

gerbron dy allu di.

3 Difesur a diamgyffred yw’r drugaredd a addewaist:

canys ti yw’r Arglwydd goruchaf.

4 Yr wyt yn dosturiol a hirymarhous a mawr dy drugaredd:

yn ymatal rhag cosbi drygioni dynion.

5 Arglwydd Dduw y cyfiawn:

ordeiniaist edifeirwch i mi, sy’n bechadur.

6 Oherwydd lluosocach na thywod y môr:

yw nifer fy mhechodau i.

7 Amlhaodd fy nhroseddau, fel nad wyf deilwng:

i edrych i fyny a syllu ar uchder y nefoedd.

Tudalen 77